Pentalar

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pentalar

Postiogan Cymru Fydd » Llun 04 Hyd 2010 1:56 pm

Ro'n i'n disgwyl digwyddiad cryfach pan gollodd chwaer Defi ei babi. Ro'n i wedi llunio rhyw ddamcaniaeth: Philip (Tori, gwrth-Gymreig) = Brwmstan, a Siân (diniwed, Cymreigaidd) = Lorraine. Pe byddai Siân wedi marw byddai hynny wedi clymu'r bennod hon i'r bennod gyntaf yn daclus a hynod o bwerus.
Er hyn, dwi'n mwynhau'r gyfres yn arw. Efallai mai pennod neithiwr oedd y wannaf eto, ond mae angen rhoi cweir i'r sawl uchod sydd wedi bod yn beirniadu cyfres naw pennod o hyd ar ôl pennod neu ddwy yn unig.
"Maes-e yw'r lle am seiat!"
Cymru Fydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Maw 05 Chw 2008 9:43 pm

Re: Pentalar

Postiogan Gwen » Mer 06 Hyd 2010 8:51 pm

Yn hollol groes i bawb arall, mi nes i fwynhau pennod nos Sul fwy os rhywbeth!
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pentalar

Postiogan tom.j » Iau 07 Hyd 2010 9:49 pm

Dwi'n credu bo fi'n gwybod nawr pam nad ydw i'n mwynhau'r gyfres gymaint ac mae S4C yn dweud y dyliwn......dwi ddim yn becso dam am un o'r cymeriadau! Tasen i'n becso am Defi neu Doug...falle sen i'n mwynhau yn well. (Elfen arall yw ei fod fel gwylio 'Caerdydd' wedi ei leoli yn y 60au/70au - mwy neu lai yr un cast!)
tom.j
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 12:03 pm

Re: Pentalar

Postiogan Josgin » Iau 07 Hyd 2010 10:15 pm

Dwi'n ofni fod y gyfres yn gwanhau wrth i ni agosau at y presennol. Mi oedd y plentyndod yn gredadwy. Nid oedd y bennod diwethaf yn gredadwy o gwbl. Yr unig beth da oedd y ceir . Rwan ta - ai fi sy'n dechrau colli fy nghof(toedd ffasiwn genod ddim yn bwynt cryf i mi erioed) , ond dwi'n siwr fod genod wedi stopio gwisgo mini-skirts erbyn 1980. Jeans a denim jackets a parkas oedd bob dim .
Mi oedd Dic Deryn wedi troi i mewn i Gene Hunt !. Mae mam Defi'n heneiddio'n hynod o dda. Mae ei (cyn) fab yng nghyfraith wedi ei hen phasio hi. Mae gweddwdod yn gwneud byd o les i rai pobl. Dwi'n nabod un o'r criw sy'n gyfrifol, ac mae'r boi yn ail fyw ei lencyndod ( with knobs on)
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Pentalar

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 11 Hyd 2010 10:24 am

Be oedda chi'n feddwl am neithiwr? Ddaru mi ei mwynhau'n fawr yn bersonol, y gorau ers y cyntaf yn fy marn i.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pentalar

Postiogan Josgin » Llun 11 Hyd 2010 9:10 pm

Yn sicr , roedd rhaglen neithiwr yn llawer gwell- cymeriad Defi'n gryfach , a thyndra cymdeithasol a phersonol y cyfnod yn dod i'r wyneb. Yr oedd y dirprwy'n ddynes gredadwy i lawer iawn ohonom (i raddau, mwy credadwy na athro sy'n gwisgo jeans, cysuro a chofleidio genod yn eu toilet ac yn fets mawr hefo'r prifathro) . Ddaru o ddim crio ar ol cael cweir gan y plismyn heno chwaith ! . Mae cymeriad Doug yn dechrau dod yn amlycach hefyd, ond mae mam Defi'n mynd yn iau ac yn siriolach bob dydd .
Mi oedd yna ambell i fanylyn 'daft' hefyd : Cywirwch fi, ond
(1) ai 'F' reg oedd un o geir y plismyn ?
(2) Mi oedd car Defi hefo plat 'GB' . Cenedlaetholwr a gweriniaethwr gyda GB ar ei gar ? . ( O wel, efallai mai sosialydd yn unig oedd o)
(3) Os nad ydych chi'n gallu chwythu car go iawn i fyny, peidiwch a smalio gwneud .

Wedi dweud hynny, edrych ymlaen yn arw at Pen Talar ol-ddiwydiannol / cyn-datganoli. Beth ddigwyddodd bryd hynny , dwch ?
Golygwyd diwethaf gan Josgin ar Llun 11 Hyd 2010 10:32 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Pentalar

Postiogan osian » Llun 11 Hyd 2010 9:50 pm

Cytuno, mi nesh i fwynhau'r bennod yma yn fwy na dim arall. Ond mi oedd y ffrwydrad yn reit shit (ac mi sbotiwyd sky dish yn un o'r golygfeydd!). Ond fel arall, oddo'n gret.

Tybed pam na chatho ni trailer y bennod nesa' ar ol y rhaglen?
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Pentalar

Postiogan prypren » Maw 12 Hyd 2010 8:35 am

Nes i fwynhau y bennod yma hefyd, yn bennod mwy tynn a chredadwy, a pherthynas Doug a Defi yn neud mwy o synnwyr.

Dal i rili hoffi'r steil sinematic hefo cymeriadau yn cyrraedd sefyllfaoedd heb unrhyw esboniad diflas am pam a sut mae nhw yna, da iawn.

Gwendidau:
1. Ddim yn siwr pam oedd casineb y plismon mor bersonol yn erbyn Defi (er actio da iawn gan Ifan)
2. Y prifathro ddim cweit yn taro deuddeg, yn ymddangos fel ymateb i Defi yn hytrach na cymeriad cig a gwaed
3. Gorbwyslais ar ddiflastod, mae gormod o farwolaethau cymeriadau yn cael eu defnyddio fel gyrriant dramatic ac imi mae'n ymddangos yn ddiog braidd ac yn sicr wedi colli ei bwer emosiynol
prypren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2010 12:40 pm

Re: Pentalar

Postiogan Rhys Aneurin » Mer 13 Hyd 2010 10:47 am

Er mi nashi ei fwynhau, roedd yna ychydig o bethau yn boddro fi -


Mi faswn i di hoffi gwybod mwy amdan fendetta y plismon yn erbyn Defi (ai colli ei deulu fel canlyniad ymosodiad terfysgol wnaeth o?)

Oni'n teimlo fod doedd ddim llawer o fanylder i'r streic, i feddwl fod roedd sawl stori gwahanol o'r bennod yn cylchdroi o'i amgylch.

Roedd y ffaith fod Defi wedi'i gyhuddo o gamdrin y digybl a marwolaeth tad Doug ar yr un dydd yn ormod o gyd-ddigwyddiad fyd. Doedd o ddim yn gredadwy o gwbl.

Ac, fel sydd wedi cael ei ddweud yn barod, mae'r ffrwydiadau ofnadwy yn sbwylio golygfeydd. Dwi ddim yn arbennigwr yn y maes gynhyrchol yma, ond siawns fasa chwythu'r car i fyny go iawn ddim lawer mwy o sialens? Dim ond Escort bach cachu oedd o wedi'r cyfan... :winc:

Edrych 'mlaen am yr un nesa, er, dwnim be ddiawl ddigwyddith. Dwi'n gweld Sian a Doug yn cael at eu gilydd efallai.
Rhys Aneurin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Sad 17 Mai 2008 12:33 pm

Re: Pentalar

Postiogan Josgin » Mer 13 Hyd 2010 12:15 pm

Dim Cortina oedd o ?
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 24 gwestai

cron