Pentalar

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pentalar

Postiogan tom.j » Iau 14 Hyd 2010 4:23 pm

Actio stiff gan Betsan Llwyd fel y stereo-typical athrawes gas! Mam Defi a Dafydd Hywel yn 'actio' bod yn hen.....cerdded yn araf, defnydd o ffon....amaturaidd i ddweud y lleia...Prif beth nos Sul oedd -unwaith eto cymaint o gast y gyfres Caerdydd sydd ynddi. Atgoffa fi o Talcen Caled a Tipyn O Stad - y ddwy gyfres yna gyda gwmws yr un cast. Smo hwnna'n neud teledu da.....confiwsing! Siomedig ar y cyfan yw'r gyfres bellach.
tom.j
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 12:03 pm

Re: Pentalar

Postiogan Josgin » Sul 17 Hyd 2010 9:53 pm

A - dwi'n gweld pam ddaru Rhian Gibson ymddiswyddo wythnos diwethaf rwan !
Mae nhw'n cael tywydd rhyfedd iawn, iawn yn Sir Gaerfyrddin, chwilia'i byth.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Pentalar

Postiogan prypren » Maw 19 Hyd 2010 9:08 am

Ok, oedd y tywydd yn boncers yna, eira ar lawr gwlad, braf ar y topiau, ond...

Mae'r ddrama just mor ddiflas yndywe

Actio da, (mam defi yn wych bob amser), saethu neis, ond mae fel gwylio paent yn sychu mewn mannau ( yn llythrennol hefyd yn y bennod yma!)

Er, am rhyw rheswm dwi'n dal i fwynhau ei wylio fe - bizzare
prypren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2010 12:40 pm

Re: Pentalar

Postiogan fatswalla » Maw 19 Hyd 2010 9:48 am

Caled ar fam Defi braidd. Eiry Thomas yw'r actores ac yn un o'r goreuon sy' gael. Ond, cyhoedddd y bwli a gomishynodd y rhaglen taw dyma'r peth gore iddi oleuo'n wyrdd. Wel y Defi bach myn cebyst i. Beth hari'r hac wirion?
fatswalla
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 21
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 9:10 am

Re: Pentalar

Postiogan dafydd » Maw 19 Hyd 2010 11:05 am

prypren a ddywedodd:Er, am rhyw rheswm dwi'n dal i fwynhau ei wylio fe - bizzare

Mae e fel cael dy lwgu am hydoedd.. ti'n ddiolchgar am unrhyw friwsion. Fel o'n i'n disgwyl dwi'n mwynhau y pennodau yn yr 80au/90au yn well - mae'n edrych fel fod y cyfarwyddwyr (a'r sgrifennwyr) ar dir sicrach, mwy cyfarwydd iddyn nhw.

Ond mae hi dal i fod yn ddrama uffernol o depressing ac araf. Oes raid i hanes gwleidyddiaeth Cymru fod mor sych a diflas? Iawn, rydyn ni yn adeiladu tuag at rhyw fath o gyffro gyda ennill y refferendwm ac ati ond mi fydd hi wedi cymryd 7 pennod i gyrraedd hynny!
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Re: Pentalar

Postiogan Ray Diota » Mer 20 Hyd 2010 11:24 am

Dal yn gwylio Pen Talar. Fel rhiant mewn drama Nadolig ysgol. Braidd yn bored ond dal 'na drwy ddyletswydd.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Pentalar

Postiogan Josgin » Mer 20 Hyd 2010 12:24 pm

Dwi'n meddwl y bydd y gyfres yn llwyddo i wneud noson y refferendwm yn fwy diflas a thorcalonnus nac angladd .
Beth am drio dyfalu :
Ffeit feddw rhwng Doug a Defi ar y llwyfan y tu ol i John Meredith ?
Defi'n troi'n Brydeiniwr a galaru am George Thomas a Princess Di (sniff, sniff ) ?
Mynd am dro ar y comin gyda Ron Davies ?
Sian a'i mam yn marw o hypothermia ar fore'r dathlu mawr (gan fod Sir Gaerfyrddin yn amlwg mewn hinsawdd Artic) ?
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Pentalar

Postiogan prypren » Llun 25 Hyd 2010 12:56 pm

Wedi mwynhau y bennod dwethaf. Sgriptio cynnil, rhai cyffyrddiadau rili neis fel yr ymateb i farwolaeth Diana, a Defi wedi datblygu'n gymeriad cryf a chredadwy

Poeni nad oes llawer o waith perswadio pobol i fotio ie wedi didwydd hyd yn hyn, ond yn bennaf oherwydd mod i'n dechrau teimlo'n nerfus am y canlyniad eto, hanner ddisgwyl i'r ddrama ddangos y canlyniad fel 'na' i'r cynulliad.
prypren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2010 12:40 pm

Re: Pentalar

Postiogan sian » Llun 25 Hyd 2010 2:23 pm

Oes rhywun arall yn meddwl bod Defi a Doug wedi cael eu cam-gastio?
Rwy'n meddwl o'r dechrau bod Doug yn debyg i dad Defi ac mae'n edrych yn fwy dosbarth canol o lawer.
Dwi'n cymysgu rhyngddyn nhw trwy'r amser.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Pentalar

Postiogan Macsen » Llun 25 Hyd 2010 5:56 pm

sian a ddywedodd:Oes rhywun arall yn meddwl bod Defi a Doug wedi cael eu cam-gastio?
Rwy'n meddwl o'r dechrau bod Doug yn debyg i dad Defi ac mae'n edrych yn fwy dosbarth canol o lawer.
Dwi'n cymysgu rhyngddyn nhw trwy'r amser.


Dwi'm yn cymysgu rhyngddyn nhw (c'mon, mae na tua saith episod di bod!) ond roeddwn i wedi meddwl yn ystod yr episods cyntaf mai Ryland Teifi fyddai'n actio Defi a Richard Harington yn actio Doug. Dwnim pam, falle achos cefndir yr actorion.

Roedd episod neithiwr yn wych eto, y gorau eto dwi'n meddwl. Wedi mwynhau pob un hyd yn hyn, er mai'r episod blaenorol oedd y gwanaf hyd yn hyn - yn enwedig y continuity error eitha doniol gyda'r eira (os gyda Pen Talar ryw fath o microclimate te?). Y peth mwya calonogol ydi pa mor uchelgeisiol ydi'r gyfres - falle nad ydi o'n taro'r marc bob tro, ond o leiaf mae o'n anelu'n uchel a mae hynny i'w glodfori. :)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai