Dwi'n cytuno efo lot o'r hyn sydd wedi'i ddweud - actio da ac ati - ond, bobol, dydach chi'm yn teimlo bod 'na ryw ugian cliché yn ormod yma?
Stori'r gweinidog* fel rydach chi'n deud. Ei weddi fo ar lan yr afon. Sâl iawn iawn. Tebycach i felodrama o'r 1920au na theledu cyfoes.
* Ond Dafydd Dafis oedd y gweinidog, ia ddim? Onid blaenor oedd hwn? Roedd ganddo fo gar rhy grand i fod yn weinidog! Doctor on i di gasglu, ond ta waeth. Cytuno efo Josgin ynglyn â'r portread o grefyddwyr / hoelion wyth yr hen gymdeithas. Ond nid dim ond ystrydeb oedd y portread, hyd yn oed fel gwawdlun roedd o'n nyts o anachronistaidd. Hyd yn oed heb ei 'wendidau', go brin y bydda crefyddwr tân a brwmstan fel 'na wedi'i eni yn fwy diweddar na'r 1880au fan bella - no wê. Roedd o'n *lot* rhy ifanc. Mi fysa wedi gorfod bod yn ei 80au o *leia*, ac wedyn sa fo'm di *gallu*. Felly stori gwbwl hurt i ddechra.
Ac yna'r portread ystrydebol o Lorraine. Ai'r unig ffordd y gellir disgwyl i'r gynulleidfa gydymdeimlo efo'r ferch mewn sefyllfa fel 'na ydi drwy ei gwneud hi'n 'ddiniwed' / 'ddim llawn llathen'? Mi fysa wedi bod o fwy o werth tasa hi wedi bod yn hogan o'i chyfnod, yn golur i gyd, ac ie, pam lai, yn fwy rhywiol-effro. Herio'r gynulleidfa oedd isio'i wneud; cwestiynu meddylfryd. Fel yr oedd hi, roedd cymryd mantais o Lorraine yn *amlwg* 'anghywir'. Moeswers hen-ffasiwn, dim byd newydd yn cael ei ddweud, diflas. Wedi'i wneud dro ar ôl tro ar ôl tro o'r blaen, felly be oedd y pwynt?
Ro'n i wedi bod yn edrych ymlaen at y gyfres, gan ddisgwyl cael fy siomi. Dwn i ddim fyswn i'n dweud bod hynny wedi digwydd, a bod yn deg, ond erbyn y deg munud ola, ro'n i'n sbio ar y cloc, yn teimlo ei bod hi wedi bod yn awr hiiiir ac yn meddwl tybed sawl cliché arall fydda 'na cyn y diwedd.
Gobeithio y gneith hi wella - mi ddylai wneud wrth i'r hogia dyfu'n hy^n a gallu bod yn gyfrannog mewn digwyddiadau, yn hytrach nag ar yr ymylon ac yn 'digwydd bod yno' i glywed sgwrs oedolion, fel ddigwyddodd fwy nag unwaith yn y rhaglen gynta 'ma. Eto - fawr o feddwl wedi mynd i mewn i hynny na chreadigrwydd.
Y peth gwaetha, fodd bynnag, ydi'r wefan sydd gan S4C ar ei chyfer hi.
Jyst darllenwch y portreadau. (Mi fydd yn rhaid i chi droi at y fersiwn Saesneg i weld be maen nhw'n trio'i ddweud)