Tudalen 1 o 9

Pentalar

PostioPostiwyd: Llun 13 Medi 2010 12:36 pm
gan owain llywelyn
Beth oedd y farn parthed Pentalar?

Yn fy marn i oedd y ddau fachgen yn actio'n wych a llawer o olygfeydd prydferth, ond dim llawer o ddyfnder na realaeth i'r teimladau cenedlaetholgar y cyfnod, llawer gormod o olygfeydd diflas yn mynd i nunlle ac yn creu dim tensiwn, a'r pregethwr euog yn anghredadwy. Siomedig ar y cyfan ond pennod gyntaf yn gosod y cyfnod, dwi'n teimlo bydd yr ail bennod yn llawer mwy gafaelgar

Re: Pentalar

PostioPostiwyd: Llun 13 Medi 2010 1:25 pm
gan Hogyn o Rachub
Wel, dydw i'm yn gwbod dim am y teimladau ar y cyfnod o brofiad, ond wnes i fwynhau'r rhaglen gynta 'ma. Roedd yn actio'n dda iawn ac roedd wedi'i chynhyrchu'n dda yn fy marn i. Ro'n i'n meddwl ei fod weithiau'n araf ond ddaru mi fwynhau hynny, roedd o rhywsut yn gweddu. Dwi'n cytuno nad oedd cymeriad y pregethwr yn ofnadwy o gredadwy. Ond dwi'n edrych mlaen i'r rhaglen nesa eisoes - roedd 'na ddigon o dda yno i wneud i mi feddwl y bydd hon yn gyfres da iawn.

Re: Pentalar

PostioPostiwyd: Llun 13 Medi 2010 5:26 pm
gan Josgin
Mi fyddaf i'n edrych ar yr ail raglen. Mae'm amlwg yn ceisio 'lleoli''r rhaglen mewn cyfnod, ac felly teimlais fod yna or-ddefnydd o ystradebau am e.e. Tryweryn .
Nid oeddwn yn hoffi'r modd y portreadwyd y gwenidog ychwaith - dychrynllyd , a nid cymaint yn anghredadwy ond yn anheg. 'Roedd y 60au'n gyfnod anodd iawn i wenidogion, a hawdd iawn yw taro dosbarth o bobl a fu'n asgwrn cefn sawl cymdeithas a ddioddefodd newid . Drama ydyw , wrth gwrs.
Actio da , rwy'n cytuno , a chynnil hefyd . Yr oedd bywyd ym mhentrefi Cymru ar ddechrau'r 60 au yn araf - ond nid yn anniddorol.

Re: Pentalar

PostioPostiwyd: Llun 13 Medi 2010 10:57 pm
gan zorro
Fi wedi bod yn feirniadol iawn o S4C yn ddiweddar ar dudalennau'r fforwm yma. Mae gweinyddiaeth y sianel yn hollol ffyced up ac yn ymylu ar fod yn jôc ddrud a gwael. Un o'r resymau pam fi'n mynd mor pissed off yw ein bod â'r gallu a'r talent i greu rhaglenni a chyfresi hollol wych fel hon. Dyma beth sydd yn bosib i bobl creadigol gynhyrchu, petai'r rheolwyr crap yn camu i un ochr. Sylwch fod pob rhaglen dda sydd wedi dod o S4C ers sawl blwyddyn yn codi o'r adran drama.......sut mae un adran yn medru cynhyrchu rhaglenni a chfresi o safon tra fod y gweddill yn methu ????

Re: Pentalar

PostioPostiwyd: Maw 14 Medi 2010 10:16 am
gan Lorn
Chwarae teg, rhaglen ddifyr - doeddwn i heb ddeall bod Cymru di bod sawl cam o flaen gweddill y bŷd yn y 1960au yn nhermau technoleg. Roedd gan sawl tŷ teledu lloeren pan doedd gan y mwyafrif o boblogaeth Prydain o bosib ddim hyd yn oed teledu lliw! :lol:

Re: Pentalar

PostioPostiwyd: Maw 14 Medi 2010 12:27 pm
gan Gwen
Dwi'n cytuno efo lot o'r hyn sydd wedi'i ddweud - actio da ac ati - ond, bobol, dydach chi'm yn teimlo bod 'na ryw ugian cliché yn ormod yma?

Stori'r gweinidog* fel rydach chi'n deud. Ei weddi fo ar lan yr afon. Sâl iawn iawn. Tebycach i felodrama o'r 1920au na theledu cyfoes.

* Ond Dafydd Dafis oedd y gweinidog, ia ddim? Onid blaenor oedd hwn? Roedd ganddo fo gar rhy grand i fod yn weinidog! Doctor on i di gasglu, ond ta waeth. Cytuno efo Josgin ynglyn â'r portread o grefyddwyr / hoelion wyth yr hen gymdeithas. Ond nid dim ond ystrydeb oedd y portread, hyd yn oed fel gwawdlun roedd o'n nyts o anachronistaidd. Hyd yn oed heb ei 'wendidau', go brin y bydda crefyddwr tân a brwmstan fel 'na wedi'i eni yn fwy diweddar na'r 1880au fan bella - no wê. Roedd o'n *lot* rhy ifanc. Mi fysa wedi gorfod bod yn ei 80au o *leia*, ac wedyn sa fo'm di *gallu*. Felly stori gwbwl hurt i ddechra.

Ac yna'r portread ystrydebol o Lorraine. Ai'r unig ffordd y gellir disgwyl i'r gynulleidfa gydymdeimlo efo'r ferch mewn sefyllfa fel 'na ydi drwy ei gwneud hi'n 'ddiniwed' / 'ddim llawn llathen'? Mi fysa wedi bod o fwy o werth tasa hi wedi bod yn hogan o'i chyfnod, yn golur i gyd, ac ie, pam lai, yn fwy rhywiol-effro. Herio'r gynulleidfa oedd isio'i wneud; cwestiynu meddylfryd. Fel yr oedd hi, roedd cymryd mantais o Lorraine yn *amlwg* 'anghywir'. Moeswers hen-ffasiwn, dim byd newydd yn cael ei ddweud, diflas. Wedi'i wneud dro ar ôl tro ar ôl tro o'r blaen, felly be oedd y pwynt?

Ro'n i wedi bod yn edrych ymlaen at y gyfres, gan ddisgwyl cael fy siomi. Dwn i ddim fyswn i'n dweud bod hynny wedi digwydd, a bod yn deg, ond erbyn y deg munud ola, ro'n i'n sbio ar y cloc, yn teimlo ei bod hi wedi bod yn awr hiiiir ac yn meddwl tybed sawl cliché arall fydda 'na cyn y diwedd.

Gobeithio y gneith hi wella - mi ddylai wneud wrth i'r hogia dyfu'n hy^n a gallu bod yn gyfrannog mewn digwyddiadau, yn hytrach nag ar yr ymylon ac yn 'digwydd bod yno' i glywed sgwrs oedolion, fel ddigwyddodd fwy nag unwaith yn y rhaglen gynta 'ma. Eto - fawr o feddwl wedi mynd i mewn i hynny na chreadigrwydd.

Y peth gwaetha, fodd bynnag, ydi'r wefan sydd gan S4C ar ei chyfer hi. :ing: Jyst darllenwch y portreadau. (Mi fydd yn rhaid i chi droi at y fersiwn Saesneg i weld be maen nhw'n trio'i ddweud)

Re: Pentalar

PostioPostiwyd: Maw 14 Medi 2010 12:51 pm
gan nicdafis
Dw i'n cyntuno â Gwen ynglyn â phrif wendidau'r rhaglen gyntaf (byddwn i'n ychwanegu ysblender y props i gyd, o'r ceir i'r dillad - roedd popeth yn edrych yn newydd sbon), ond oedd digon o gryfderau i fi wylio'r un nesa, o leia. Dw i ddim yn hoffi dweud "nid da lle gellir gwell", ond doedd hyn ddim o safon rhywbeth fel (dweder) Red Riding o bell ffordd. Wedi dweud hynny, roedd hi'n well na'r rhan fwya o bethau tebyg dw i wedi gweld ar S4C dros y blynydde, o ran actio a safon y ffilmio. Dw i'n ymwybodol hefyd, fy mod i ddim yn gwylio digon o deledu i fod yn feirniad gwrthrychol.

Re: Pentalar

PostioPostiwyd: Maw 14 Medi 2010 1:14 pm
gan prypren
Nes i fwynhau Pentalar a byddai'n bendant yn gwylio pennod dau, dwi'n teimlo bydd y ddrama yn dal fy sylw

Roedd nifer o problemau hanesyddol yno fe wrth gwrs, y prif gwendid ifi oedd y ddiffyg ankst ynglyn a chyflwr cymru gan y prif gymeriadau cenedlaetholgar, roedd fel petae nhw'n cytuno i fotio plaid cymru just am rhywbeth bach gwahanol i neud ar bnawn sul glawog , yn hytrach na phobol oedd wedi gweld Tryweryn, diffyg cydnabyddiaeth/ addysg gymraeg.

Fel mae rhywun wedi dweud drama yw hwn, nid gwers hanes, ond roedd angen yr ankst hwn i fod yn ddyfnach er mwyn cal gyrru dramatic llwyddiannus. Hefyd pam o pam mae pob drama wedi ei sgwennu gan ddyn yn cynnwys y shot obligotary lan sgert merch, roedd dau yn y bennod gyntaf yma!

Re: Pentalar

PostioPostiwyd: Maw 14 Medi 2010 2:11 pm
gan Hedd Gwynfor
Er gwybodaeth:

Beth yw PenTalarPedia? - http://pentalarpedia.com/wici/Hafan

Adnodd gwybodaeth am Pen Talar yw PenTalarPedia.

Casgliad o wybodaeth am bopeth sydd yn ymwneud â'r gyfres - stori, cymeriadau, cyd-destun gwleidyddol, lleoliadau, cynhyrchu a llawer mwy.

Gall pob gwyliwr helpu drwy fewngofnodi a chyfrannu gwybodaeth.


(ON. Roeddwn i hefyd wedi meddwl mai blaenor oedd Brwmstan ac nid y gweinidog...)

Re: Pentalar

PostioPostiwyd: Maw 14 Medi 2010 2:48 pm
gan sian
Hedd Gwynfor a ddywedodd:(ON. Roeddwn i hefyd wedi meddwl mai blaenor oedd Brwmstan ac nid y gweinidog...)


A finne. Do'n inne ddim yn meddwl bod y rhan yna o'r stori'n argyhoeddi, chwaith.
Gobeithio bydd cymeriad Alun ap Brinley'n cael mwy o ran.