Ro'n i'n disgwyl digwyddiad cryfach pan gollodd chwaer Defi ei babi. Ro'n i wedi llunio rhyw ddamcaniaeth: Philip (Tori, gwrth-Gymreig) = Brwmstan, a Siân (diniwed, Cymreigaidd) = Lorraine. Pe byddai Siân wedi marw byddai hynny wedi clymu'r bennod hon i'r bennod gyntaf yn daclus a hynod o bwerus.
Er hyn, dwi'n mwynhau'r gyfres yn arw. Efallai mai pennod neithiwr oedd y wannaf eto, ond mae angen rhoi cweir i'r sawl uchod sydd wedi bod yn beirniadu cyfres naw pennod o hyd ar ôl pennod neu ddwy yn unig.