Vaughan Roderick a ddywedodd:Fe fydd gen i fwy i ddweud am hyn yn ystod y dydd ond er gwybodaeth dyma'r cyngor cyfreithiol llawn ynghylch S4C.
Os ydy'r cyngor yn gywir nid yn unig y byddai angen deddfwriaeth i orfodi toriadau gwariant ar S4C does dim hawl gan y Sianel i ddychwelyd arian i'r llywodraeth o'i gwirfodd. Os felly mae'n bosib bod y Sianel wedi torri'r gyfraith trwy gytuno i doriad o £2m yn gynharach eleni a'i bod yn gwybod hynny. Ai dyna sydd wrth wraidd helyntion y misoedd diwethaf?
Cyngor cyfreithiol llawn a llythyr "gotcha" Peter Hain at Cheryl Gillan ar flog Vaughan.
Rhywun yn gwybod mwy am hyn?