S4C: Toriadau "gwirfoddol" yn anghyfreithlon

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

S4C: Toriadau "gwirfoddol" yn anghyfreithlon

Postiogan nicdafis » Iau 16 Medi 2010 11:23 am

Stori difyr yn datblygu ar blog Vaughan Roderick y bore 'ma.

Vaughan Roderick a ddywedodd:Fe fydd gen i fwy i ddweud am hyn yn ystod y dydd ond er gwybodaeth dyma'r cyngor cyfreithiol llawn ynghylch S4C.

Os ydy'r cyngor yn gywir nid yn unig y byddai angen deddfwriaeth i orfodi toriadau gwariant ar S4C does dim hawl gan y Sianel i ddychwelyd arian i'r llywodraeth o'i gwirfodd. Os felly mae'n bosib bod y Sianel wedi torri'r gyfraith trwy gytuno i doriad o £2m yn gynharach eleni a'i bod yn gwybod hynny. Ai dyna sydd wrth wraidd helyntion y misoedd diwethaf?


Cyngor cyfreithiol llawn a llythyr "gotcha" Peter Hain at Cheryl Gillan ar flog Vaughan.

Rhywun yn gwybod mwy am hyn?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai