Byw yn ôl y Llyfr

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Byw yn ôl y Llyfr

Postiogan Gwen » Maw 12 Hyd 2010 11:21 am

Josgin a ddywedodd:Dwi'n synnu hefyd- mae cael cyfres am ardal y chwareli , a bywyd y chwarelwr , yn y Saesneg yn unig yn hurt . Os y bu diwydiant Cymraeg erioed, hwn oedd o.


Dwinna'n ama ydi hynny'n mynd i weithio hefyd. Dwi'n edrych ymlaen at y gyfres yna, ond dydi hi ddim yn apelio gymaint ata i â Byw yn ôl y Llyfr chwaith. Nid dim ond oherwydd yr iaith, ond dwi di hen laru ar raglenni realiti. Mae'n well gen i wylio pobl sydd wedi ymarfer eu crefft a meistroli eu cyfrwng ar y teledu - pobl sy'n ynganu'n glir yn un peth (dwi'n mymblo mwy na neb dwi'n nabod, ond dwi'm ar y teledu). Mae Tudur Owen a Bethan Gwanas yn gwneud job wych ar y gyfres yma; dwi'm yn meddwl y bysa hi wedi gweithio *hanner* cystal efo amaturiaid.
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Byw yn ôl y Llyfr

Postiogan Leusi Leis » Sul 17 Hyd 2010 1:04 pm

Pam does na ddim mwy o sylw yn cael i roi i'r gyfres ma?
Bu bron immi anghofio ei gwylio wsos ma!
Leusi Leis
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Sul 17 Hyd 2010 12:53 pm

Re: Byw yn ôl y Llyfr

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 23 Chw 2011 2:19 pm

Dwisho deud eto i mi fwynhau'r gyfres 'ma ... dwi'm yn siwr os mai'r ail sy newydd orffen neu ei fod o wedi bod yn barhad o'r gyfres gynta! Ond dwi heb fwynhau cyfres ar S4C cymaint â hon ers talwm iawn.

Fel Josgin dwi'n meddwl y byddai'n dda cael cyfres newydd ryw bryd yn y dyfodol gyda'r ddau yn byw yn ôl cyfraith Hywel Dda, er enghraifft. Neu beth am Gymru'r Deddfau Uno, Cymru'r Deddfau Penyd, bywyd yn Llys y Tywysogion etc. Mae 'na lwyth o bosibiliadau - brêns in gîr wan!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Byw yn ôl y Llyfr

Postiogan Gwen » Mer 23 Chw 2011 2:27 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dwisho deud eto i mi fwynhau'r gyfres 'ma ... dwi'm yn siwr os mai'r ail sy newydd orffen neu ei fod o wedi bod yn barhad o'r gyfres gynta! Ond dwi heb fwynhau cyfres ar S4C cymaint â hon ers talwm iawn.


A finna. Gwych o gyfres - un o'r rhaglenni dwi di fwynhau fwya erioed. Dwisho ripît rwan i mi gael eu tapio nhw i gyd. A dim gair o gwyn ar maes-e - mae'n rhaid fod hynny'n rhyw fath o record?
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nôl

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron