Tudalen 1 o 2

Byw yn ôl y Llyfr

PostioPostiwyd: Gwe 17 Medi 2010 10:49 pm
gan JVD33
Mwynheuais i'r bennod gyntaf yn fawr! Mae'n amlwg bod cynhyrchwyr S4C wedi'u hysbrydoli gan y gyfres BBC lwyddianus "Victorian Farm". 8)

Pwy arall welodd hi a beth ochi'n meddwl amdani?

Dwi'n gwybod bod hi'n ffasiynnol i gwyno am S4C y dyddiau hyn ond dwi'n credu bonhw wedi creu nifer o raglenni gwych yn ddiweddar. :seiclops:

Re: Byw yn ôl y Llyfr

PostioPostiwyd: Sad 18 Medi 2010 9:17 am
gan Hogyn o Rachub
Neshi wir fwynhau'r rhaglen hefyd! Ro'n i'n ei weld o yn debyg i 'The Supersizers Eat' oedd ar y BBC cryn dipyn nôl rwan, ond am fwy na jyst bwyd. Tudur Owen a Bethan Gwanas yn ddewis da i gael i wneud y rhaglen 'fyd.

Dwi'n rhywun sy wedi cwyno'n uffernol am S4C yn ddiweddar ond dros yr ychydig wythnosau diwethaf mae 'na rywbeth wedi gwella a dwi'm yn siwr beth.

Re: Byw yn ôl y Llyfr

PostioPostiwyd: Sad 18 Medi 2010 11:04 am
gan Kez
Own i'n ei gweld hi'n rhaglen ddifyr iawn ac odd tits Bethan yn dishgwl yn mega huge ar ol iddi wisgo'r staes 'na amdani. Ma' n werth watxo'r rhaglen jyst am yr olygfa 'na. Odd hi'n gweud yn y rhaglen bo hi'n ffilu gweld ei thraed ac rwyf inna'n ei chredu ddi. Wi'n synnid bo Tudur heb weud dim byd pan ddath hi mas o'r ystafell newid 'na - wi'n gwpod byswn i wedi :drwg:

Re: Byw yn ôl y Llyfr

PostioPostiwyd: Sul 19 Medi 2010 10:15 pm
gan Gwen
Dwinna'n mwynhau hon hefyd. Cyflwyno gwybodaeth hanesyddol mewn ffordd ysgafn heb ei gymryd ormod o ddifri. Gwd teli. (Lot, lot, gwell na Pen Talar)

Re: Byw yn ôl y Llyfr

PostioPostiwyd: Mer 06 Hyd 2010 8:49 pm
gan Gwen
Ydach chi'n dal i fwynhau hon? Mi rydw i. Chwerthin drwyddi, ond dysgu rwbath hefyd. Da iawn.

Sa'n dda cael cyfres arall ar ol hon, ond mae'n siwr mai un peth rydan ni wedi'i ddysgu ydi mai cynnyrch Oes Fictoria oedd y llyfrau 'self-help' ma. O fod wedi pegio'r peth ar hynny, mae'n ei gwneud hi'n anodd mynd i gyfnoda eraill. Biti. Ond dim otsh am y peg - gwnewch o beth bynnag de! Mae o'n gweithio :D

Re: Byw yn ôl y Llyfr

PostioPostiwyd: Mer 06 Hyd 2010 11:17 pm
gan garynysmon
Cytuno, mwynhau hon yn fawr. Y ddau gyflywynwr yn bobol naturiol ddigri, sy'n helpu lot.

Re: Byw yn ôl y Llyfr

PostioPostiwyd: Iau 07 Hyd 2010 7:42 am
gan Hogyn o Rachub
Yn anffodus dwi ddim yn gallu gwylio ar nos Fercher ond dwi'n ei recordio hi bob tro achos dwi'n ei mwynhau cymaint. DA IAWN MAWR I S4C ac mae'n teimlo'n braf iawn dweud hynny! :D

Dwi'n meddwl y byddai'n ddigon hawdd gwneud cyfresi eraill yn y dyfodol, er na fyddan nhw'n gallu defnyddio llyfr am wn i, llyfr Cymraeg yn sicr. A dwi'n gwbod i mi ddweud uchod ond dwisho deud eto, mae'r cyfuniad o Tudur Owen a Bethan Gwanas wirioneddol yn gweithio.

Re: Byw yn ôl y Llyfr

PostioPostiwyd: Iau 07 Hyd 2010 12:16 pm
gan Josgin
Beth am fyw yn y canol oesoedd yn ol deddfau Hywel Dda ?
Nid yn unig y mae'r ddau yma'n ddoniol, ond maent yn ddeallus ac yn defnyddio iaith naturiol, gywir.
( Yn wahanol iawn ar y tri cyfrif i e.e. Glyn Wise)

Re: Byw yn ôl y Llyfr

PostioPostiwyd: Llun 11 Hyd 2010 4:36 pm
gan dafydd
Mae'r rhaglen hwn yn wych rhaid dweud a mae'n dibynnu llawer iawn ar ffraethineb a naturioldeb y cyflwynwyr.

Un peth sy'n synnu fi yw mai nid S4C sy' wedi arloesi yn y maes yma o gyflwyno hanes mewn ffordd newydd. Er enghraifft, cafwyd sioe lwyddiannus iawn gan BBC Cymru - 'Coal House' a nawr Snowdonia 1890. Fasech chi'n meddwl mai S4C fyddai'r sianel naturiol ar gyfer cyfresi fel hyn, ac efallai fyddai wedi bod yn syniad cael fersiynau Cymraeg a Saesneg yn cydredeg.

Re: Byw yn ôl y Llyfr

PostioPostiwyd: Llun 11 Hyd 2010 8:57 pm
gan Josgin
Dwi'n synnu hefyd- mae cael cyfres am ardal y chwareli , a bywyd y chwarelwr , yn y Saesneg yn unig yn hurt . Os y bu diwydiant Cymraeg erioed, hwn oedd o.