Gwlad Beirdd

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwlad Beirdd

Postiogan Manon » Llun 20 Medi 2010 12:15 pm

Ew, 'dwi'n mwynhau'r gyfres yma. Mae o'n gwneud i fi isho prynu cyfrolau o farddoniaeth a darllen nhw i gyd o glawr i glawr, ac mae Tudur Dylan a Mererid Hopwood yn llawn angerdd hefyd. Gwych. Mwy plis!
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Gwlad Beirdd

Postiogan Llety Clyd » Llun 20 Medi 2010 5:20 pm

A finne hefyd. Y rhaglenni gore dwi 'di gweld ers sai'n gwbod pryd. Dwi'n teimlo fel ffonio Gwifren Gwylwyr am y tro cyntaf erioed! :D
Rhithffurf defnyddiwr
Llety Clyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 117
Ymunwyd: Llun 07 Meh 2004 12:43 pm
Lleoliad: Aber

Re: Gwlad Beirdd

Postiogan Gwen » Maw 21 Medi 2010 4:31 pm

Cytuno. Dwi wastad yn gwylio'r rhain gan edrych ymlaen at Pen Talar sydd i ddilyn, ond yn y pen draw yn mwynhau Gwlad Beirdd lot mwy. Roedd Crwys yn ddewis annisgwyl, ychydig y tu allan i'r canon, ond yn ddifyr oherwydd ein bod ni'n dysgu rwbath.
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Gwlad Beirdd

Postiogan Manon » Maw 21 Medi 2010 5:34 pm

Ia, nes inna feddwl hynna am Crwys hefyd, Gwen. Da, gan nad ydi o'n fardd 'swn i wedi mynd ati i chwilio am ei waith o, ond 'roedd 'na farddoniaeth hyfryd o'i eiddo fo ar y rhaglen.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Gwlad Beirdd

Postiogan Rhys » Maw 21 Medi 2010 7:49 pm

Do'n i erioed wedi clywed am Crwys o'r blaen (wnes i ddim Lefel A Cymraeg), felly dysgais i rhywbeth newydd, ac roed dyn ddoa cael samlp o waith y rhai mwy adnabyddus. Alla i ddim credu bod Crwys ddim wedi trosglwyddo'r Gymraeg i'w blant a fyntau wedi bod yn Archdderwydd. Dw in gwybod ni'n sôn am gyfnod gwahanol iawn i heddi, ond c'mon! Mwyneiais i ei farddoniaeth o, mae'n accessible iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Gwlad Beirdd

Postiogan Gwen » Maw 21 Medi 2010 9:01 pm

On i'n teimlo ein bod ni wedi cael darn o gosip bach jiwsi yn fanna!
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Gwlad Beirdd

Postiogan dafydd » Maw 21 Medi 2010 10:38 pm

Rhys a ddywedodd:Do'n i erioed wedi clywed am Crwys o'r blaen (wnes i ddim Lefel A Cymraeg), felly dysgais i rhywbeth newydd, ac roed dyn ddoa cael samlp o waith y rhai mwy adnabyddus. Alla i ddim credu bod Crwys ddim wedi trosglwyddo'r Gymraeg i'w blant a fyntau wedi bod yn Archdderwydd.

Fe magwyd Dad yn Craig-cefn-parc a roedd Crwys yn prynu wye gyda Dadcu! Dyw Dad e byth yn deall pam na fagodd ei blant yn Gymraeg er ei fod wedi symud i ardal seisnig ym Mryn-mawr. Er, ni gyd yn gwybod am bobl reit bwysig yng Nghymru heddiw sy'n siarad Cymraeg ond wedi methu pasio'r iaith ymlaen.

Dwi heb weld y rhaglen yn llawn eto, ond yn mynwent Pant-y-crwys y rhes i lawr o fedd Crwys mae bedd bardd ac archdderwydd mawr arall - Dafydd Rowlands. Ac yn uwch ar y mynydd, mae tri cenhedlaeth o fy nghyn-deidiau yn gorffwys.

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd


Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai

cron