BBC i wario llai ar raglenni i S4C

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

BBC i wario llai ar raglenni i S4C

Postiogan Llygad Llo Mawr » Sul 10 Hyd 2010 4:44 am

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad : "Mae'r BBC yn darparu nifer o raglenni pwysig ar gyfer S4C a byddem yn bryderus iawn pe bai'r toriad yma yn effeithio ar safon rhaglenni."


Pa safon, medda' chi? Mae'n amlwg nad ydi'r lob lari 'ma o lefarydd sydd yn honni ei fod o - neu hi - yn siarad ar ran Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn gwylio rhaglenni S4C dros y pum mlynedd ola'. Mae hi'n rhy hwyr, gyfaill. Mae'r niwed wedi ei wneud eisoes. Dim ond hoelen arall yn arch S4C yw'r newyddion diweddaraf 'ma oddi wrth y rhai sydd wrth eu boddau'n kow-towio i'w meistri yn y Birtist Broadcasting Corporation yn Llundain. Mi fuasai gorfod dioddef gwylio giamocs Pobl y Cwm ddwywaith yr wythnos yn gam ymlaen, nid yn ol. Oes unrhyw un o fewn S4C yn malio'r un botwm corn am safonau? Nag ydyn siwr dduw. Sgersli bilif. Mae Rhian Gibson, yn ol pob son, yn ymfalchio yn y ffaith nad oes ganddi hi bwt o ddiddordeb ym myd y ddrama, sef y rheswm y rhoddodd hi a Iona Jos lond trol o bres i Bwmerang a'i bath i wneud be' fyd a fynno nhw heb neb i gadw llygad ar y broses o gomisiynu, datblygu sgriptiau, neu ddewis a dethol ar sail yr hyn sy'n heiddianol o gael ei gynhyrhu yn y lle cynta'. "Rhwydd hynt i chi, latsh. Cariwch chi'n mlaen. D'oes ganddon ni ddim pwt o ddiddordeb be newch chi, nag oes yn tad, dim ond i chi lenwi'r slots a rhoid llonydd i ni fynd i giniawa a byw yn fras ar gefn ein cenedl, ein iaith a'n diwylliant." Pa ffwcin obaith sydd 'na, medda chi, mewn difri sobrwydd? Tydi'r lle wedi cael ei redeg gan hoelion wyth Adran Newyddion a Materion Cyfoes y Birtist Broadcasting Corporation (Sowth Wels difishion) o'r cychwyn cynta', siwr goblyn. Naci, mae'n ddrwg gen i: Adran Newyddion a Materion Cyfoes, ag unrhyw un sy'n gysylltiedig a chynhyrchu Bili Blydi Dowcar. Ydi hi ddim yn hen bryd i roi cyfle i'r rheini ddaru wneud Miri Mawr gael rhyw fath o ddeud yn y matar, dudwch?
Golygwyd diwethaf gan Llygad Llo Mawr ar Sul 17 Hyd 2010 4:33 am, golygwyd 2 o weithiau i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Llygad Llo Mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Iau 05 Awst 2010 10:43 pm

Re: BBC i wario llai ar raglenni i S4C

Postiogan tom.j » Gwe 15 Hyd 2010 11:22 am

Hawdd iawn arbed arian y BBC ....
1. Pobol Y Cwm lawr i ddwywaith falle deirgwaith yr wythnos.
2. Dim Chwaraeon. Beth yw'r pwynt cael yr un gem rygbi ar y BBC ac S4C. Gyda'r oes ddigidol mae modd pwyso'r botwm coch i gael sylwebaith yn y Gymraeg ta beth.
tom.j
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 12:03 pm

Re: BBC i wario llai ar raglenni i S4C

Postiogan Duw » Gwe 15 Hyd 2010 7:43 pm

Ife fi yw e? Dealles i ddim gair o hwnna Llygad.

Dwi heb edrych ar S4C ers blynedde. Dwi ddim yn falch ohono - jest ffaith. Stim byd arno sy'n denu fy niddordeb. A dwi'n meddwl DIM. Na sori - dwi'n gweud celwydd nawr - yr un gem yr wythnos - ar nos Wener - jest bo'r Dreigie ddim yn ware. Llai o arian? Mwy o raglenni shit 'te, neu rhaglenni shit yn mynd yn fwy shit?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: BBC i wario llai ar raglenni i S4C

Postiogan Llygad Llo Mawr » Sad 16 Hyd 2010 4:35 am

Ie, Duw, ti yw e. A finna wedi bod yn ddigon gwirion i gwylio'r hyn oedd ganddyn nhw i ddeud yn yr ysgol Sul, sef bod Duw yn hollalluog. Iesu Grist o'r Sowth, mae isho gras.
Rhithffurf defnyddiwr
Llygad Llo Mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Iau 05 Awst 2010 10:43 pm

Re: BBC i wario llai ar raglenni i S4C

Postiogan Duw » Sul 17 Hyd 2010 1:31 pm

Dwi dal ddim yn dy ddeall. Paid â phoeni. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: BBC i wario llai ar raglenni i S4C

Postiogan Llygad Llo Mawr » Llun 18 Hyd 2010 2:55 am

Poeni? Go brin, duw.

Mi wn bod pob duw a greuwyd gan ddyn erioed yn mynnu cael y gair ola' - yn enwedig yng Nghymru fach - ond, fel anffyddiwr pybyr, mae'n haws gen i droi at eiriau doeth y bardd:

The Laws of God, The Laws of Man

gan A. E. Housman (1859-1936)

The laws of God, the laws of man,
He may keep that will and can;
Not I: let God and man decree
Laws for themselves and not for me;
And if my ways are not as theirs
Let them mind their own affairs.
Their deeds I judge and much condemn,
Yet when did I make laws for them?
Please yourselves, say I, and they
Need only look the other way.
But no, they will not; they must still
Wrest their neighbor to their will,
And make me dance as they desire
With jail and gallows and hell-fire.
And how am I to face the odds
Of man’s bedevilment and God’s?
I, a stranger and afraid
In a world I never made.
They will be master, right or wrong;
Though both are foolish, both are strong.
And since, my soul, we cannot fly
To Saturn nor to Mercury,
Keep we must, if keep we can,
These foreign laws of God and man.
Rhithffurf defnyddiwr
Llygad Llo Mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Iau 05 Awst 2010 10:43 pm

Re: BBC i wario llai ar raglenni i S4C

Postiogan Duw » Mer 20 Hyd 2010 3:18 pm

Gair ola i mi.

Ymateb i S4C oeddwn i, gan ddweud doeddwn ddim yn deall dy bost ti.

Ie, Duw, ti yw e. A finna wedi bod yn ddigon gwirion i gwylio'r hyn oedd ganddyn nhw i ddeud yn yr ysgol Sul, sef bod Duw yn hollalluog. Iesu Grist o'r Sowth, mae isho gras.


Dyw defnyddio barddoniaeth rhywun arall a 'pyns' hanner-gudd ddim yn dy wneud ti edrych yn glefar. Be bynnag, wedi gwastraffu digon o amser ar yr edefyn 'ma. Rhagor o wyrthie i gyflawni...
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: BBC i wario llai ar raglenni i S4C

Postiogan Llygad Llo Mawr » Llun 25 Hyd 2010 11:36 am

Gair ola i mi.


Quod erat demonstrandum :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Llygad Llo Mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Iau 05 Awst 2010 10:43 pm


Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai