Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad : "Mae'r BBC yn darparu nifer o raglenni pwysig ar gyfer S4C a byddem yn bryderus iawn pe bai'r toriad yma yn effeithio ar safon rhaglenni."
Pa safon, medda' chi? Mae'n amlwg nad ydi'r lob lari 'ma o lefarydd sydd yn honni ei fod o - neu hi - yn siarad ar ran Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn gwylio rhaglenni S4C dros y pum mlynedd ola'. Mae hi'n rhy hwyr, gyfaill. Mae'r niwed wedi ei wneud eisoes. Dim ond hoelen arall yn arch S4C yw'r newyddion diweddaraf 'ma oddi wrth y rhai sydd wrth eu boddau'n kow-towio i'w meistri yn y Birtist Broadcasting Corporation yn Llundain. Mi fuasai gorfod dioddef gwylio giamocs Pobl y Cwm ddwywaith yr wythnos yn gam ymlaen, nid yn ol. Oes unrhyw un o fewn S4C yn malio'r un botwm corn am safonau? Nag ydyn siwr dduw. Sgersli bilif. Mae Rhian Gibson, yn ol pob son, yn ymfalchio yn y ffaith nad oes ganddi hi bwt o ddiddordeb ym myd y ddrama, sef y rheswm y rhoddodd hi a Iona Jos lond trol o bres i Bwmerang a'i bath i wneud be' fyd a fynno nhw heb neb i gadw llygad ar y broses o gomisiynu, datblygu sgriptiau, neu ddewis a dethol ar sail yr hyn sy'n heiddianol o gael ei gynhyrhu yn y lle cynta'. "Rhwydd hynt i chi, latsh. Cariwch chi'n mlaen. D'oes ganddon ni ddim pwt o ddiddordeb be newch chi, nag oes yn tad, dim ond i chi lenwi'r slots a rhoid llonydd i ni fynd i giniawa a byw yn fras ar gefn ein cenedl, ein iaith a'n diwylliant." Pa ffwcin obaith sydd 'na, medda chi, mewn difri sobrwydd? Tydi'r lle wedi cael ei redeg gan hoelion wyth Adran Newyddion a Materion Cyfoes y Birtist Broadcasting Corporation (Sowth Wels difishion) o'r cychwyn cynta', siwr goblyn. Naci, mae'n ddrwg gen i: Adran Newyddion a Materion Cyfoes, ag unrhyw un sy'n gysylltiedig a chynhyrchu Bili Blydi Dowcar. Ydi hi ddim yn hen bryd i roi cyfle i'r rheini ddaru wneud Miri Mawr gael rhyw fath o ddeud yn y matar, dudwch?