Dyletswydd cyhoeddus Awdurdod S4C

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dyletswydd cyhoeddus Awdurdod S4C

Postiogan Llygad Llo Mawr » Iau 14 Hyd 2010 1:09 pm

Ewch i wefan S4C a mynd i hafan 'amdanom ni', ac yna i waelod y dudalen sy'n rhestru'r tim rheoli, ac fe welwch bod yna ddogfen sy'n disgrifio rolau allweddol awdurdod a bwrdd S4C. Dyma, yn ol y ddogfen, yw rol yr awdurdod.

2. ATEBOLRWYDD CYHOEDDUS

2.6 Bod yn agored i’r cyhoedd ar sail gyson ac yn unol â safonau ymarfer gorau ar gyfer agoredrwydd mewn cyrff cyhoeddus. Gweithredu fel yr agoriad i’r cyhoedd gael dweud eu barn a derbyn gwybodaeth.


Pam y daru Iona Jones adael S4C mor ddisymwth, John Walter Jones? Tydi deud wrth y cyhoedd 'na fydd unrhyw sylw pellach' yn cael ei wneud parthed y mater ddim digon da, yn ol yr hyn sydd ganddoch chi, eich hunain, i ddweud ar eich gwefan (gweler y dyfyniad uchod). Dyma beth a'i elwir yn siarad wast yn y sowth. Malu cachu medda ni gogs, wrth gwrs; ac mae'n amlwg bod JWJ nid yn unig yn falwr cachu o fri ond yn hen law arni hi, ac yn cael ei dalu ffortiwn am wneud. Mae'r peth yn warth ar ein cenedl.

ON: Sut ddiawl ma' dwad o hyd i do bach ar y blydi peth 'ma, 'dwch?
Golygwyd diwethaf gan Llygad Llo Mawr ar Iau 14 Hyd 2010 1:13 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Llygad Llo Mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Iau 05 Awst 2010 10:43 pm

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron