2. ATEBOLRWYDD CYHOEDDUS
2.6 Bod yn agored i’r cyhoedd ar sail gyson ac yn unol â safonau ymarfer gorau ar gyfer agoredrwydd mewn cyrff cyhoeddus. Gweithredu fel yr agoriad i’r cyhoedd gael dweud eu barn a derbyn gwybodaeth.
Pam y daru Iona Jones adael S4C mor ddisymwth, John Walter Jones? Tydi deud wrth y cyhoedd 'na fydd unrhyw sylw pellach' yn cael ei wneud parthed y mater ddim digon da, yn ol yr hyn sydd ganddoch chi, eich hunain, i ddweud ar eich gwefan (gweler y dyfyniad uchod). Dyma beth a'i elwir yn siarad wast yn y sowth. Malu cachu medda ni gogs, wrth gwrs; ac mae'n amlwg bod JWJ nid yn unig yn falwr cachu o fri ond yn hen law arni hi, ac yn cael ei dalu ffortiwn am wneud. Mae'r peth yn warth ar ein cenedl.
ON: Sut ddiawl ma' dwad o hyd i do bach ar y blydi peth 'ma, 'dwch?