Llygod mawr yn gadael y llong

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Llygod mawr yn gadael y llong

Postiogan Llygad Llo Mawr » Sad 16 Hyd 2010 4:31 am

Mae S4C wedi cadarnhau fod Cyfarwyddwr Comisiynu'r sianel, Rhian Gibson wedi ymddiswyddo.


"A gwynt teg ar ei hol hi", medd llawer un, mae'n debyg, os oes unrhyw sail i'r sibrydion sydd ar led - ymysg rheini sydd yn gweithio yn y maes - ynglyn a'r ffordd yr oedd hi'n taflu ei phwysau o gwmpas yn S4C, ac yn trin pawb efo parch ci. Yn ol eu harfer y dyddiau yma, nid oes gan S4C "sylw pellach i'w wneud ar hyn o bryd". Pawb rhy brysur yn achub eu crwyn eu hunain, mae'n amlwg, yn hytrach nag achub y llong.

Ac y mae'r llong, fel y gwyddom ni gyd, yn prysur suddo pan mae hyd yn oed y llygod mawr yn sylweddoli nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis ond neidio i mewn i'r hen las mawr didostur 'na, un mesul un.

ON: Sut uffar ma' dwad o hyd i do bach ar y blydi peth 'ma?
Rhithffurf defnyddiwr
Llygad Llo Mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Iau 05 Awst 2010 10:43 pm

Re: Llygod mawr yn gadael y llong

Postiogan CYFRYNGWR 1 » Maw 19 Hyd 2010 10:16 am

Cytuno yn llwyr - Ond beth yw'r ffordd ymlaen nawr ?

Dwi'n meddwl bod angen mynd nôl i'r hen ddeyddiau pan oedd prif weithredwr yn fodlon ymladd a brwydro dros ei sefydliad - rhywun sydd â digon o asgwrn cefn i lywio'r llong !

gyda llaw -

to bach = alt +147 = ô

a alt+131 = â
CYFRYNGWR 1
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Maw 19 Hyd 2010 9:54 am

Re: Llygod mawr yn gadael y llong

Postiogan tom.j » Maw 19 Hyd 2010 1:50 pm

Dwi hefyd wedi clywed fod pobl yn falch o ymadawiad Rhian Gibson am y ffaith ei bod hi'n fwli o'r radd flaena. Gwynt teg ar ei hol os ydy hynny'n wir. Dyma'r un a dwedodd yn gyhoeddus taw Pen Talar oedd y ddrama orau iddi weld yn unrhyw iaith! Piti nad yw hi 'di gweld 'Our Friends In The North' oedd yn delio gyda'r math yma o ddrama gan gwaith yn well. Wel nawr bydd ganddi'r amser i wylio dramau llai uchelgeisiol yn ystod y dydd fel Doctors a Diagnosis Murder! Ar ddeall hefyd ei bod hi wedi comisiynnu'r gyfres (Pen Talar) tra ei bod hi allan ar y lush gyda'r cynhyrchydd a chreu cytundeb ar gefn mat cwrw!! Iona Jones, Rhian Gibson..pwy nesa Meirion Davies? Mae angen capteiniaid newydd ar long S4C neu mi fydd y llong yn anffodus yn suddo.
tom.j
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 12:03 pm

Re: Llygod mawr yn gadael y llong

Postiogan fatswalla » Mer 20 Hyd 2010 6:29 pm

Meirion Davies. Amser i'w roi mâs i bori . . . co fe, yn cwato dan y ford, screwed to the floor like so much KFC furniture.
fatswalla
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 21
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 9:10 am

Re: Llygod mawr yn gadael y llong

Postiogan Josgin » Mer 20 Hyd 2010 7:09 pm

Be mae Meirion Davies yn ei wneud ? Dwi'n cofio fo fel actor , ond tydw i ddim yn gwybod y iawn pwy di' pwy yn y pydew pres yng Nghaerdydd.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Llygod mawr yn gadael y llong

Postiogan tom.j » Mer 20 Hyd 2010 9:10 pm

Mae digwyddiadau heddiw yn San Steffan yn drist ac yn dangos unwaith eto gwerth y Gymraeg i Doriaid Lloegr. Byse'n warth tase llong S4C yn suddo ac mae llawer o'r bai am hyn ar y llywodraeth Brydeinig - ond ma' 'na fai hefyd dybiwn i ar nifer o bobl sy' wedi bod wrth y llyw...Iona Jones, Rhian Gibson, Meirion Davies, John Walter jones......Mae'n hollol amlwg bellach doedd gan y bobl yma dim syniad sut i rhedeg sianel deledu. Peidied nhw a gwatwar ITV,BBC, Channel 4 ag ati...mae rhaglenni fel yr X Factor,Britain's Got Talent, Strictly Come Dancing, Big Brother, The Apprentice, Gavin & Stacy, Doctor Who, Frost. Morse, ag ati wedi tynnu miloedd ar filoedd o wylwyr dros y blynyddoedd.Rhaglenni poblogaidd iawn. Yn ol be welai i mae S4C wedi trio plesio'r lleiafrif o fewn y lleiafrif. Does gan y mwyafrif o siaradwyr Cymraeg dim diddordeb mewn clywed John Ogwen yn darllen straeon Harri Parri, na chyfresi di-rifedi am feirdd a thai pobol crand yn y wlad.A sawl gwaith fedran nhw ail ddangos 'pigion yr Eisteddfod'??? Mae S4C wedi bod yn defnyddio'r run hen wynebau hyd at syrffed....Dai Jones,Iolo Williams a Sian Cothi. Yr unig sianel yn y byd i ddarlledu 'Ffermio' ar oriau brig,yr unig sianel hefyd i ddarlledu ei phrif rhaglen - Pobol Y Cwm - ar yr run pryd a'i chyffelyb ar y BBC (Eastenders). Mae angen newid. Mae'n rhaid i S4C a darlledu'n y Gymraeg lwyddo ond dwi ddim yn credu y daw hyn i fod heb y capteiniaid newydd carasmatig ar y dec.
tom.j
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 12:03 pm


Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Majestic-12 [Bot] a 31 gwestai

cron