Mae S4C wedi cadarnhau fod Cyfarwyddwr Comisiynu'r sianel, Rhian Gibson wedi ymddiswyddo.
"A gwynt teg ar ei hol hi", medd llawer un, mae'n debyg, os oes unrhyw sail i'r sibrydion sydd ar led - ymysg rheini sydd yn gweithio yn y maes - ynglyn a'r ffordd yr oedd hi'n taflu ei phwysau o gwmpas yn S4C, ac yn trin pawb efo parch ci. Yn ol eu harfer y dyddiau yma, nid oes gan S4C "sylw pellach i'w wneud ar hyn o bryd". Pawb rhy brysur yn achub eu crwyn eu hunain, mae'n amlwg, yn hytrach nag achub y llong.
Ac y mae'r llong, fel y gwyddom ni gyd, yn prysur suddo pan mae hyd yn oed y llygod mawr yn sylweddoli nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis ond neidio i mewn i'r hen las mawr didostur 'na, un mesul un.
ON: Sut uffar ma' dwad o hyd i do bach ar y blydi peth 'ma?