Mewn datganiad, dywedodd Rhian bod cyfnod newydd yn wynebu S4C a’i bod yn dymuno’n dda i’r Sianel a’r cwmnïau cynhyrchu ar gyfer y dyfodol.
Mae'r gallu cynhenid i fedru darllen rhwng y llinellau wrth bori drwy'r cyfresi drama diflas a dirifedi sy'n cael eu hanfon at S4C yn rhan bwysig o waith beunyddiol unrhyw gyfarwyddwr comisiynu gwerth eu halen. Gadewch i ni felly geisio dehongli beth yn union mae'r ymadawedig yn geisio dweud wrthym, o ddifri, cyn casglu ei phacad pae ola' a'i phensiwn preifat:
"Reit ta. Ffwcio chi i gyd, y diawlad. 'Dwi off."
Yn unol a pholisi presennol S4C, ni fydd gan Llygad Llo Mawr unrhyw sylw pellach i'w wneud.