Ymddiswyddiad Rhian Gibson

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ymddiswyddiad Rhian Gibson

Postiogan Llygad Llo Mawr » Sad 16 Hyd 2010 3:22 pm

Rhan o ddatganiad S4C parthed ymadawiad annisgwyl eu Cyfarwyddwr Comisiynu, y diweddar Rhian Gibson:

Mewn datganiad, dywedodd Rhian bod cyfnod newydd yn wynebu S4C a’i bod yn dymuno’n dda i’r Sianel a’r cwmnïau cynhyrchu ar gyfer y dyfodol.


Mae'r gallu cynhenid i fedru darllen rhwng y llinellau wrth bori drwy'r cyfresi drama diflas a dirifedi sy'n cael eu hanfon at S4C yn rhan bwysig o waith beunyddiol unrhyw gyfarwyddwr comisiynu gwerth eu halen. Gadewch i ni felly geisio dehongli beth yn union mae'r ymadawedig yn geisio dweud wrthym, o ddifri, cyn casglu ei phacad pae ola' a'i phensiwn preifat:

"Reit ta. Ffwcio chi i gyd, y diawlad. 'Dwi off." :lol:

Yn unol a pholisi presennol S4C, ni fydd gan Llygad Llo Mawr unrhyw sylw pellach i'w wneud.
Rhithffurf defnyddiwr
Llygad Llo Mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Iau 05 Awst 2010 10:43 pm

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai

cron