Efallai mai'r gymhareb gorau y gall rhywun wneud ynglyn ac S4siec (a'r sliwod barus di-dalent fu'n byw yn fras arno ers blynyddoedd) yw mab afradlon.
Buont yn afrad, yn falch ac yn wastraffus, ond maent yn bwysig i ni , ac yn ran annatod o'n bywyd. Mae'n rhaid i ni eu hamddiffyn, oherwydd ni ellir atgyfodi S4C
petai'n diflannu . Mae'n edrych yn bach yn eironig, i raddau, fod Angharad Mair yn siarad, ond dyma rhywun sydd wedi tyfu'n lais gwleidyddol cryf (ac annisgwyl, rhaid cyfaddef - pwy nesaf - Amanda Protheroe -Thomas ? ) a deallus yn ystod y blynyddoedd diwethaf . Oes , wrth gwrs fod budd ganddi yn y sianel, ond credaf mai argyhoeddiad sy'n gymhelliad iddi yn hytrach na hunanoldeb .
Mae S4C wedi anwybyddu'r beirniadaeth gan ei ffrindiau am ddegawd. Yn awr mae'r beirniadaeth yn dod o du y gelynion, at pwy mae troi am gefnogaeth ?
Mae John Walter Jones , Meirion Davies ( dyna un sydd wedi disgyn yn bell wrth godi'n uchel) ayb yn gnafon diegwyddor, ond , i aralleirio( gan nad wyf yn hoff o regi'n electronig) , ein cnafon ni ydynt.