sian a ddywedodd:Ond beth mae pobol sy dros 50 (neu 60) NAWR i fod i neud i basio nosweithiau oer a thywyll y gaeaf?
Mae hyd yn oed pethe fel Pentalar yn rhy "soffistigedig/fodern" i lot fawr o gynulleidfa darged S4C.
Alli di ddim jest anghofio am hen bobol sy'n byw yng nghefn gwlad yn y gobaith o ddenu pobl iau.
Dwi ddim yn gweld fod angen cael gwared pob rhaglen ar gyfer y gynullleidfa 50+. Ond yn anffodus gyda'r toriadau mi fydd llai o gyllid ar gyfer popeth ac ar yr un pryd mae angen denu y gynulleidfa 18-45 sydd wedi eu hesgeuluso yn llwyr gan y sianel ers o leia 5 mlynedd (a fwy mewn gwirionedd). Felly mi fydd angen cael gwared ar rhai raglenni 'hen bobl' os ydi'r sianel am wario ar raglenni pobl iau nau 50.
Mae gan S4C union yr un broblem a Radio Cymru, sef mai dim ond un sianel Gymraeg sydd yna ar gyfer pawb. Felly mae gan y sianel ddelwedd hen ffasiwn sy'n lliwio barn pobl hyd yn oed os oedd yna raglenni fwy deniadol yn cael ei darlledu! Dyna pam fydd angen i'r sianel ddefnyddio'r cyfryngau newydd i ddenu gwylwyr 18+ gyda brand gwbl newydd efallai. Mae'n hawdd i wylwyr ifanc y sianel weld Cyw a Stwnsh fel brand ar wahan oherwydd fod yr oriau darlledu wedi eu penodi yn glir (ac efallai nad ydyn nhw byth yn gwylio S4C tu allan i'r oriau hynny).
Fe all gwyliwr yn ei arddegau droi mlaen E4, BBC Three neu sianeli tebyg ar ôl 7pm a dod o hyd i raglen mae e'n hoffi. Os oedden nhw'n troi i S4C, fase dim byd diddorol yn troi fyny tan 10 neu efallai ddim o gwbl rhai nosweithiau. Mae'r un peth yn wir am unrhywun yn ei 20au a 30au sy'n chwilio am raglenni difyr ond deallus a ddim yn 'draddodiadol'. Mae S4C yn gallu (a wedi) cynhyrchu y math yna o raglenni, ond dyw hi ddim yn hawdd dod o hyd iddyn nhw. Dwi'n ddefnyddiwr brwd o PVR i recordio rhaglenni i'w gwylio ar adeg mwy hwylus, ond prin ydw i'n gweld unrhywbeth ar S4C lle dwi'n meddwl "ww, rhaid i mi recordio hwnna". Fe allen nhw fod y rhaglenni gorau yn y byd ond dwi'n meddwl nad ydw i ar ben fy hun yn dweud nad ydw i'n ymddiried yn y sianel o gwbl i greu rhaglenni sy'n apelio.
Hynny yw, fe alla'i weld rhaglen ar BBC Two neu Four a meddwl "reit, mi fydd hwnna'n ddiddorol" a'i osod i'w recordio. Fe allai fod yn 90% siwr mod i'n iawn. Ond dwi'n gwybod o brofiad - os oes rhaglen newydd yn cael ei hysbysebu ar S4C sy'n edrych yn ddiddorol.. wnai edrych ar y rhaglen gynta a meddwl "oce, reit, dyw e ddim" a dyna ddiwedd ar wylio unrhywbeth arall yn y gyfres. Bosib mod i'n masochist drwy roi 'un cyfle arall' i bob ymgais newydd ar y sianel - y gwir yw fod rhan fwyaf o bobl ddim mor ffôl a mae nhw wedi mynd am byth i sianeli eraill.