Khmer a ddywedodd:Yr unig Beth all achub hyn nawr yw peidio mynd i'r rali
Ie, mae hynny'n gwneud perffaith synnwyr!!
Mae'n amlwg fod nifer o bobl gyda atgasedd personol at y rhai sy'n rhedeg S4C ar hyn o bryd, a tuag at rhai sy'n cyflwyno ar y sianel. Mwy na thebyg bod rhesymau da dros hyn, ond mae peidio cefnogi ein unig 'Sianel Gymraeg', a annog pobl i beidio mynd i'r rali yn nonsens llwyr yn fy marn bach i.
Y pwynt yw, heb arian digonol (a sicrwydd arian) does dim gobaith i ni gael sianel Gymraeg o safon ar gyfer y dyfodol. Heb S4C annibynnol, does dim dyfodol i'r sianel. Bydd S4C yn cystadlu am arian gan adrannau eraill o'r BBC, ac yn y pendraw y BBC yn Llundain fydd yn penderfynu ar y cyllid, dyw hynny ddim yn sefyllfa iach.
Fi, fel Rhys, a phawb arall dwi wedi siarad gyda yng Nghymdeithas yr Iaith yn anhapus iawn gyda'r ffordd mae S4C wedi bod yn cael ei reoli dros y ddegawd (a mwy) diwethaf. Ni am weld newidiadau sylfaenol i'r Sianel, a byddwn yn gwneud hynny'n hollol glir yn y Rali. Byddwn ni hefyd yn rhyddhau mwy o wybodaeth maes o law ynglyn a'r union newidiadau ni am weld. Ond yn y tymor byr, sicrhau cyllid ac annibyniaeth y sianel yw'r frwydr. Heb gyllid digonol ac annibyniaeth does dim dyfodol i'r sianel, a bydd dim modd cwyno wedyn am reolaeth a rhaglenni gwael, bydd dim rhaglenni Cymraeg o gwbwl!!
Ynglyn ag Angharad Mair, ydy mae hi wedi gwneud lot o arian mas o'r sianel, fel nifer o bobl eraill, ond mae'n anheg dweud mai dyma'r rheswm ei bod hi wedi cynnig helpu gyda'r frwydr hon. Fe siaradodd Angharad mewn Rali i'r Gymdeithas dros flwyddyn yn ól ar fater Mesur Iaith, a dywedodd hi'r bryd hynny ei bod yn hen bryd i'r bobl sydd wedi gwneud bywoliaeth da allan o'r Gymraeg i ddangos eu hochr a brwydro dros y Gymraeg, a dyna oedd hi'n bwriadu gwneud. Dwi'n credu y dylwn i ei llongyfarch hi am fod yn barod i weithredu dros yr iaith, yn hytrach na'i chondemnio.
Gyda llaw mae Cymdeithas yr Iaith, Mentrau Iaith Cymru, Menter Caerdydd, Merched y Wawr, Rhag, Yr Urdd, Cyfeillion y Ddaear, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, BECTU, Cymuned, Cymdeithas y Cymod, UCAC, UMCA, Eisteddfod Genedlaethol ac CFfI Cymru wedi datgan eu cefnogaeth i'r Rali, ac i'r ymgyrch 'Na i Doriadau - Ie i S4C Newydd). Onibai am BECTU (sy'nn cynrychioli cwmniau teledu annibynnol), does gan dim un o'r mudiadau yma unrhyw gymhelliad arall oni bai am sicrhau dyfodol llewyrchus i ddarlledu trwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi wir yn gobeithio y bydd pobl yn dod yn eu cannoedd (os nad miloedd!) i gefnogi'r Rali holl bwysig yma, ac i ddatgan yn glir i Lywodraeth Geidwadol Llundain nad ydym ni'n barod iddynt ddinistrio darlledu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cecru mewnol wedi bod yn broblem i ni'r Cymry erioed, rhaid i ni fod yn unedig os am lwyddo.