S4C yn hen ffasiwn ??

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan Rhys Aneurin » Mer 10 Tach 2010 12:51 am

Ia, dwnim, er sgenai ddim owns o fynadd gyda sawl un o'r rhaglenni yn y rhestr, dwi'n cymryd fodna bobl yn eu gwatchad nhw, a dyna pam manw ar yr oriau y maent.

Ond y broblem yw, sna bron ddim byd i bobl ifanc ar S4C, a dyna sy'n neud o deimlo'n weddol hen ffasiwn ar brydau.

Gofod ddim yn ddrwg, dwi'n abod rhei sy'n ei hoffi a rhei sy'n ei gasau. Ond ni allaf, o dop fy mhen, feddwl am raglen arall ar funud sydd yn bwrpasol tuag at bobl ifanc.

Snam hydnoed rhaglen gerddoriaeth gall mlaen rwan, ers i Bandit gael ei dorri. Nodyn yn raglen dda i weld bandiau/cantorion sydd wedi eu sefydlu, ond i le mae'r bandiau ifanc yn fod i anelu?
Ma'n gwbl warthus fod na sioe ar ol sioe amdan Only Men Allowed neu Glanaethwy, ond eto dim allbwn i fandiau a chantorion newydd. Mae cerddoriaeth gymreig yn ehangu lawer mwy na thast noson caws a gwin y top dogs o S4C, a mae cerddoriaeth gyfoes Gymraeg yn haeddu gwell driniaeth gan sianel sy'n fod i wasanaethu pawb.

Mae'r ateb yn syml ac mae'n mynd tuag at y pobl yn y top - grandewch ar eich gynulleidfa I GYD, nid mond y rhai bodlon. Odd noson y gwylwyr 'na yn lawer rhy gyfforddus i JWJ a'i cronies.
Rhys Aneurin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Sad 17 Mai 2008 12:33 pm

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan bed123 » Mer 10 Tach 2010 2:26 am

Mae angen i JWJ a rhan fwyaf o fwrdd rheoli S4C fynd, a cael bobol newydd, ifanc, llawn egni a syniadau ar gyfer S4C.
bed123
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Mer 11 Chw 2009 2:25 pm

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan Khmer » Mer 10 Tach 2010 10:10 am

bed123 a ddywedodd:Mae angen i JWJ a rhan fwyaf o fwrdd rheoli S4C fynd, a cael bobol newydd, ifanc, llawn egni a syniadau ar gyfer S4C.


CLYWCH CLYWCH!!! :lol:
Khmer
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Mer 29 Medi 2010 12:42 pm

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan Duw » Iau 11 Tach 2010 12:00 am

Sens. S4C yn gwbwl coblyrs i'r 16-40 fel rydych yn datgan. Hoffi'r darn am 'Dechrau Canu...' a '...chapeli'n wag'. Hoelen ar ei phen. Yr hyn sy'n fy mhoeni i hefyd yw cynnwys yn rhaglenni yn gyffredinol. Mae'n edrych i mi bo popeth yn ymwneud â Chymru neu Batagonia. Mae byd mawr mas 'na. Os ydych chi'n gwylio teledu o unrhyw wlad arall, mae ganddyn nhw raglenni am bob math o bethe a llefydd - diflas yw edrych ar Dai Twm yn adeiladu blydi wal cerrig. :x
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan Kez » Iau 11 Tach 2010 7:04 pm

tom.j a ddywedodd: Pam felly bo'r sianel yn colli'r gwylwyr hynny rhwng dwedwch 16 a 40? Dyma pam........CEFN GWLAD, FFERMIO, FFERM FFACTOR, RALIO+, DECHRAU CANU DECHRAU CANMOL, 4 WAL, 3 LLE, CARTREFI CEFN GWLAD CYMRU,NOSON LAWEN,GWLAD BEIRDD,PETHE.....Dweud y cwbl eh?


Wi'n itha lico cefn gwlad a 3 lle ac fi ond yn 39!!

Ti heb son am y rhaglen horrendous le ma rhyw ffat ffycar yn mynd o Fon i Fynwy yn blydi cwcan pryd o fwyd y gallat ti 'i gal fel ready meal yn Tesco heb ffwdanu dim! - dyw hi ddim patch ar raglen Nigella ar BBC2.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan Duw » Iau 11 Tach 2010 8:34 pm

Ma Nigella yn ffat ffycar hefyd. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan Kez » Iau 11 Tach 2010 9:02 pm

Dim ond y gwaelod lawr o'r hips :rolio: - ma'r top yn bosomy teip o beth, mamol teip o beth ond bo hi ddim yn fam iti chwaith os ti'n diall be sda fi - teip tebyg i'r fenyw 'na odd yn yr audience yn Xfactor pwy noswith yn clapo a'r camera arni am sblit second.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan Duw » Iau 11 Tach 2010 11:53 pm

Wel, hanner eiliad ai beidio Kez, ti wedi gwylio hanner awr ohono ar continuous loop. Roedd ishe gwd wash ar y sgrin be bynnag yn dodd e. :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan tom.j » Gwe 12 Tach 2010 12:19 am

Duw a ddywedodd:Ma Nigella yn ffat ffycar hefyd. :rolio:

Falle ei bod hi on rho hon i fi unrhyw ddiwrnod...gei di gadw Dudley!
tom.j
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 12:03 pm

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan Duw » Sad 13 Tach 2010 2:07 am

Mae'r dwpsen yn haeddu cic yn yn y cloj oddi wrth Ann Widdy. Ffili godde'r holl seans na gyda throi i'r camera ac edrych yn blydi coy. Aaarghh.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron