bed123 a ddywedodd: cael gwared ar John Walter Jones a'r hen griw, cael bobol ifanc i fewn.
Nid JWJ sy'n rhedeg y sianel. Mae yna gwestiynau i'w gofyn ynglyn a diffyg goruwchwyliaeth yr Awdurdod dros y sianel ond nid y nhw sy'n gosod cyfeiriad golygyddol y sianel. Iona Jones oedd yn rhedeg y sianel ers 2005. Roedd hi'n 41 pan gafodd hi'r swydd, un o'r bobl ifancaf i redeg unrhyw brif sianel teledu ar y pryd. Nid 'pobl ifanc' yn rhedeg y sianel sydd angen o anghenrheidrwydd ond strwythur comisiynu sy'n rhoi cyfle i syniadau newydd ar gyfer rhaglenni poblogaidd ond safonol.
Roedd dau brif weithredwr cynta'r sianel yn 'hen' ond wnaethon nhw lwyddo gynhyrchu rhaglenni cofiadwy i blant, pobl ifanc, y teulu ac oedolion. Roedd llawer llai o oriau Cymraeg i'w lenwi wrth gwrs ond S4C wnaeth y penderfyniad o drio llenwi'r holl oriau hynny heb unrhyw gyllid ychwanegol - hyd yn oed gyda'r cyllid yn codi gyda RPI doedd dim arian
ychwanegol i helpu gyda'r newid i sianel ddigidol, yn wahanol i'r BBC. Dyna'r sgandal mewn gwirionedd.