Ia, dwnim, er sgenai ddim owns o fynadd gyda sawl un o'r rhaglenni yn y rhestr, dwi'n cymryd fodna bobl yn eu gwatchad nhw, a dyna pam manw ar yr oriau y maent.
Ond y broblem yw, sna bron ddim byd i bobl ifanc ar S4C, a dyna sy'n neud o deimlo'n weddol hen ffasiwn ar brydau.
Gofod ddim yn ddrwg, dwi'n abod rhei sy'n ei hoffi a rhei sy'n ei gasau. Ond ni allaf, o dop fy mhen, feddwl am raglen arall ar funud sydd yn bwrpasol tuag at bobl ifanc.
Snam hydnoed rhaglen gerddoriaeth gall mlaen rwan, ers i Bandit gael ei dorri. Nodyn yn raglen dda i weld bandiau/cantorion sydd wedi eu sefydlu, ond i le mae'r bandiau ifanc yn fod i anelu?
Ma'n gwbl warthus fod na sioe ar ol sioe amdan Only Men Allowed neu Glanaethwy, ond eto dim allbwn i fandiau a chantorion newydd. Mae cerddoriaeth gymreig yn ehangu lawer mwy na thast noson caws a gwin y top dogs o S4C, a mae cerddoriaeth gyfoes Gymraeg yn haeddu gwell driniaeth gan sianel sy'n fod i wasanaethu pawb.
Mae'r ateb yn syml ac mae'n mynd tuag at y pobl yn y top - grandewch ar eich gynulleidfa I GYD, nid mond y rhai bodlon. Odd noson y gwylwyr 'na yn lawer rhy gyfforddus i JWJ a'i cronies.