S4C yn hen ffasiwn ??

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan Khmer » Maw 16 Tach 2010 8:53 pm

Newydd wylio pobl y cwm a codi Canu. Kill me now! PYC yn enwedig yn warthus o wael. Digwyddodd DIM BYD
Khmer
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Mer 29 Medi 2010 12:42 pm

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan tom.j » Mer 17 Tach 2010 12:50 am

Khmer a ddywedodd:Newydd wylio pobl y cwm a codi Canu. Kill me now! PYC yn enwedig yn warthus o wael. Digwyddodd DIM BYD


Does dim byd wedi digwydd yn PYC ers blynyddoedd!!! Newydd ddarllen arlwy S4C wythnos nesa.....wedi'r Wyl Gerdd Dant Sadwrn dwetha....drwy'r nos nos Sadwrn yma Steddfod Y Ffermwyr Ifanc...fel dywed Khmer - 'Kill me now!!!"
tom.j
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 12:03 pm

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 17 Tach 2010 8:37 am

Dwi'm yn meddwl bod lot o bwynt i chi'ch dau wylio S4C i fod yn onast, chewch chi mo'ch plesio gan ddim byd arni fyth! Dwi'n licio cwyno ond blydi hel...

Yn bersonol dwi'n mwynhau Codi Canu yn fawr - wastad wedi. Ond ella na ddylai'r fersiwn yma 'di cael ei alw'n Codi Canu gan ei fod o mor wahanol i'r cyfresi cynt, a dylid bod wedi'i lansio dan faner newydd.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan Khmer » Mer 17 Tach 2010 10:49 am

Hogyn ma' gweud ny yn sili. Fi yn gwylio S4C, yn mwynhau ambell rhaglen ac ma' gen i farn sy ddim yn golygu bod ddim pwynt i fi wylio.

Eisiau gweld S4C yn gwella ydw i, nid just boddhau ar 1-2 rhaglen. Dyw hynny ddim yn ddigon. Ma mwy o fywyd mewn malwoden mewn coma na sydd yn Pobl Y Cwm, a dyle Codi Canu gael ei alw'n Cathod Canu. Falle wen i bach yn galed ar yr hen Codi Canu, mater o ffili godde clywed sgrech menywod yn i 50au yn trio bwrw top c ar ol dod gytre o gwaith oedd hynny rhan fwyaf. Ond PYC? Ma'r actorion a'r Uwch gynhyrchwyr yn ennill ffortiwn fach am CRAP llwyr.

Joies i Pentealar, Con Pass yn un o'n hoff ddramau i erioed, Bandit yn golled enfawr i'r sgrin fach Gymreig a chyfres O Flaen Dy Lygaid yn wych. Ond Iasu mowr, fel wedes i gynne, Kille me now da'r gweddill!
Khmer
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Mer 29 Medi 2010 12:42 pm

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan tom.j » Mer 17 Tach 2010 7:48 pm

Cytuno gant y can a Khmer. Dwi wir eisiau S4C i lwyddo - byse Cymru yn dlotach hebddi. OND dim ond ambell i raglen yn fy marn i sydd werth ei wylio ac mae hynny yn fy nhristhau. Pryd gafon ni gomedi sefyllfa dda ddwetha? Dim byd o werth ers dyddie 'C'mon Midffild'. Pryd gafon ni gyfres dditectif/heddlu ddwetha? 'Heliwr' tua deng mlynedd yn ol? Pryd gafon ni gyfres adloniant ysgafn dda ddwetha - cofio cyfresi Caryl Parry Jones a Torri Gwynt?
Ma'r chwaraeon yn dda ar y sianel ond efallai gormod ohono fe, mae rhaglenni dogfen S4C yn wych a dwi'n hoff o rhagleni materion cyfoes fel Y Byd Ar Bedwar hefyd. Ond yn anffodus dwi wedi cael digon o'r un hen wynebau, digon ar rhaglenni sy'n ymwneud a chefn gwlad a gormod o rhaglenni sy'n rhad i'w cynhyrchu. Eto fel dywed Khmer - mae gan pawb ei farn. A dyma fy marn i.
Fel dywed posteri ymgyrch y Gymdeithas - Na i Doriadau ond ie i S4C NEWYDD.
tom.j
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 12:03 pm

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan bed123 » Iau 18 Tach 2010 1:02 am

Efallai fydd hyn yn syndod i'r dau uchod, ond rwyf yn cytuno a pob gair. Angen wir chwyldro ar S4C o gwaelod i fyny, cael gwared ar John Walter Jones a'r hen griw, cael bobol ifanc i fewn. Llai o rhaglenni am tai, iechyd, ffermio, a fwy adloniant, sioeau sgets, comediau, dyna be mae bobol eisiau ar ol diwrnod diflas a caled yn gweithio 9-5! A be am edrych ar tori lawr Pobol y Cwm i 3 noson yr wythnos. Roedd on gyfres werth chweil pan oedd on 2 neu 3 gwaith yr wythnos, ond nawr.... A cytuno hefyd, ar rygbi, ie, iawn, dangos rhyw gem neu dda pob bythefnos, ond dwy gem weithio ar dydd sadwrn?? rwtsh ydi hynny!
bed123
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Mer 11 Chw 2009 2:25 pm

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan dafydd » Iau 18 Tach 2010 1:20 pm

bed123 a ddywedodd: cael gwared ar John Walter Jones a'r hen griw, cael bobol ifanc i fewn.

Nid JWJ sy'n rhedeg y sianel. Mae yna gwestiynau i'w gofyn ynglyn a diffyg goruwchwyliaeth yr Awdurdod dros y sianel ond nid y nhw sy'n gosod cyfeiriad golygyddol y sianel. Iona Jones oedd yn rhedeg y sianel ers 2005. Roedd hi'n 41 pan gafodd hi'r swydd, un o'r bobl ifancaf i redeg unrhyw brif sianel teledu ar y pryd. Nid 'pobl ifanc' yn rhedeg y sianel sydd angen o anghenrheidrwydd ond strwythur comisiynu sy'n rhoi cyfle i syniadau newydd ar gyfer rhaglenni poblogaidd ond safonol.

Roedd dau brif weithredwr cynta'r sianel yn 'hen' ond wnaethon nhw lwyddo gynhyrchu rhaglenni cofiadwy i blant, pobl ifanc, y teulu ac oedolion. Roedd llawer llai o oriau Cymraeg i'w lenwi wrth gwrs ond S4C wnaeth y penderfyniad o drio llenwi'r holl oriau hynny heb unrhyw gyllid ychwanegol - hyd yn oed gyda'r cyllid yn codi gyda RPI doedd dim arian ychwanegol i helpu gyda'r newid i sianel ddigidol, yn wahanol i'r BBC. Dyna'r sgandal mewn gwirionedd.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan Khmer » Iau 18 Tach 2010 1:26 pm

dafydd a ddywedodd:Dyna'r sgandal mewn gwirionedd.


dyna'r unig sgandal? Doedd e ddim yn sgandal hefyd fod y comisiynwyr a'r pennaeth yn rhoi gwaith i'r cwmniau oedd gyda nhw 'shares' ariannol ynddynt?!
Khmer
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Mer 29 Medi 2010 12:42 pm

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan bed123 » Iau 18 Tach 2010 3:37 pm

Iawn Dafydd, digon teg, roedd Iona Jones yn trychinebus braidd i S4C, gormod o bethau a ddim digon o amrywiaeth. A diffyg JWJ a'r gweddill oedd ddim gweld y toriadau yn dod a rhy araf i amddiffyn S4C.
bed123
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Mer 11 Chw 2009 2:25 pm

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan bed123 » Iau 18 Tach 2010 3:38 pm

*gormod o bethau saff.
bed123
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Mer 11 Chw 2009 2:25 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron