Tudalen 2 o 9

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Mer 27 Hyd 2010 7:11 pm
gan Hedd Gwynfor
A fyddai'n syniad gwell gwario arian prin S4C ar ddarlledu stwff newydd yn ystod yr oriau brig yn unig, ar S4C ac S4C2? Rhaglenni i'r oedran 18-40/50 ar S4C2 yn yr hwyr, a rhaglenni sy'n fwy tebygol i apelio at y to oedran 40/50+ ar S4C gyda'r hwyr?

S4C1 - Gellid cael rhaglen newyddion/brecwast da yn y bore, repeats trwy'r dydd (Goreuon S4C o'r archif??) + falle darllediadau pwysig o'r Cynulliad a wedyn stwff newydd i'r to hyn 40/50+ o 6pm ymlaen.

S4C2 - Gellid darlledu rhaglenni i blant ar S4C2 yn y bore a'r prynhawn tan tua 6pm (Gellid darlledu stwff i blant newydd + stwff o'r archif, bydde plant heddi yn joio Ffalabalam fi'n siwr!!), a wedyn stwff i'r oedran 18-40/50 rhwng 6pm a 12am.

Ydy hyn yn gwneud synnwyr?

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Mer 27 Hyd 2010 9:23 pm
gan Josgin
Ydi . Ond sut mae rhesymu hefo bobl sy'n comisiynu tair cyfres o Istanbwl ? . Dwi'n gweld y sianel yn cael cam rwan, ond mae'n anodd i mi orymdeithio a bloeddio ar ran cyfringis a fu'n byw'n fras ar gynnyrch gwael am flynyddoedd.

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Mer 27 Hyd 2010 9:38 pm
gan bed123
Spot on Josgin. Oni am mynd i rali yn Gaerdydd, ond jiw jiw mae rhaglenni mor ddiflas ar S4C ers amser, fi'n ffili gael y brwydfrydedd i fynd lan yna i gorymdeithio am fwy o rhaglenni gwael fel istanbwl, rhaglenni ddi-ddiwedd am tai bobl a repeats, sori.

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Mer 27 Hyd 2010 10:23 pm
gan zorro
Mae'r rali yn rhoi amser caled i'r rhan fwyaf ohonom..

'Does dim amheuaeth fod dyfodol y Gymraeg yng nghlwm yn llwyr â sianel deledu llwyddiannus.

Ond yn anffodus, mae'r cysylltiad rhwng balchder o fod yn Gymry ac amddiffyn y Gymraeg ac o greu gwasanaeth deledu sydd yn atgyfnerthu hyn, bellach wedi cael ei ddinistrio yn llwyr.

Ers degawd, mae S4C wedi bod yn ymddwyn fel petai'n rhyw gorff goruwch ni'r Cymry a'r Gymraeg. Mae digwydiadau'r mis diwethaf wedi bod yn sioc mawr i'r cyfryngau, sydd bellach wedi cael eu hatgoffa eu bod yn gweithio i'r gynulleidfa : nid y ffordd arall.

Fyddai'n well i bawb i ysgrifennu i'r Guardian a chwyno yn eich miloedd nag i brotestio ar strydoedd Caerdydd ar ddiwrnod gêm rygbi rhyngwladol !!!

Y ffordd gorau o atgoffa sgym y cyfryngau sydd wedi bod yn pocedi bwndeli o arian gan ein anwybyddu'n llwyr, yw i beidio protestio ar Tachwedd 6ed, ond yn hytrach, pellhau ein hunain o ymddygiad gwarthus y degawd ddiwethaf, a datgan ein bod yn awyddus i greu corfforaeth ddarlledu i Gymru, sydd yn cael ei reoli o'n senedd ni yng Nghaerdydd. Yna os oes gyda ni gwyn, mae'n hawdd adnabod lle i anelu'r gwyn honno !!

Anodd iawn yw hi i mi gredu bod ni fel Cymry wedi ymfalchio yn ein annibynniaeth fel cenedl, ac eto gadael i reolaeth ein prif adnodd gael ei leoli yn Llundain ( ac yn wir dyna oedd yn cael ei grybwyll gan bron pawb tan yn ddiweddar !!)

Deffrwch Gymru !!! Ein Cenedl, ein hiaith, ein rheolaeth !!!! Mae digwyddiadau'r misoedd diwethaf ond yn tanlinelli pa mor ffycin pathetic a di-asgwrn cefn ydyn ni !!!!!

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Mer 27 Hyd 2010 10:27 pm
gan zorro
Gyda llaw !!

Pam mae Angharad Mair yn annerch y rali ???

Mae hi'n gyfarwyddwr un o'r cwmnioedd sydd wedi elwa fwyaf o sefyllfa'r gyfundrefn ddiwethaf !!!

FFor ffycs sakes Gymru !! Deffrwch !!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Iau 28 Hyd 2010 7:41 am
gan Hogyn o Rachub
Dwi'm yn mynd yno i floeddio ar ran cyfryngis ar unrhyw gyfrif. Ond os na ddaw digon o bobl yr unig neges a anfonir i Lundain ydi nad oes digon o bobl yn poeni - gewch chi ddadlau am rinweddau'r sianel a'r rali drwy'r dydd ond dyna'r gwir amdani. Ac os does 'na ddim digon o bobl yn poeni, wel, fydd 'na ddim S4C cyn bo hir ar unrhyw ffurf o werth. Waeth pa mor ddig y mae gan bawb yr hawl i fod gyda rhai, os nad nifer o unigolion, dydi o ddim werth y pris o golli'r Sianel.

Rhaid i S4C newid. Rhaid hefyd ddatganoli darlled i Gymru. Ac mae'n rhaid i S4C oroesi - a dyna'r job gynta.

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Iau 28 Hyd 2010 8:02 am
gan Rhys Llwyd
Sylwch ar deitl y Rali:

"Na i Dorriadau - Ie i S4C newydd"

Mae'r Gymdeithas yn credu'n gryf fod angen i S4C godi eu gem ac felly fe adlewyrchir hynny yn nheitl y Rali. Ond yn anorfod oherwydd y bygythiad cwbwl real i'w bodolaeth mae'r sylw wedi symud at 'Achub S4C'. Ac yn y cyfnod yma mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng ein beirniadaeth o S4C fel maehi/fel oedd hi a'r alwad i gadw ein unig sianel deledu Gymraeg yn annibynol.

Wela i ddim byd o'i le ar Angharad Mair am gefnogi'r rali yma. Oes mae ganddi ddiddordeb ond mae gyda ni i gyd ddiddordeb. Hanfod ymgyrchu yw fod gan rywyn ddiddordeb a chalon dros rhywbeth. Nid ymateb greddfol yw hyn chwaith gan Angharad oherwydd ei bod hi wedi bod yn gefnogol i lawer o ymgyrchoedd y Gymdeithas yn ddiweddar ac wedi siarad mewn rali arall llynedd am y Mesur Iaith. Hefyd, mae Angharad wedi siaad allan yn y gorffenol ynglyn ar angen am blwraliaeth newyddion yng Nghymru ac felly mae ganddi galon a gweledigaeth i weld mwy na dim ond monotone y BBC yn darlledu yng Nghymru. Mewn gair, dydy hi ddim yn siarad yn y rali i achub Wedi 7!

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Iau 28 Hyd 2010 9:36 am
gan Ray Diota
Rhys Llwyd a ddywedodd:Wela i ddim byd o'i le ar Angharad Mair am gefnogi'r rali yma. Oes mae ganddi ddiddordeb ond mae gyda ni i gyd ddiddordeb. Hanfod ymgyrchu yw fod gan rywyn ddiddordeb a chalon dros rhywbeth. Nid ymateb greddfol yw hyn chwaith gan Angharad oherwydd ei bod hi wedi bod yn gefnogol i lawer o ymgyrchoedd y Gymdeithas yn ddiweddar ac wedi siarad mewn rali arall llynedd am y Mesur Iaith. Hefyd, mae Angharad wedi siaad allan yn y gorffenol ynglyn ar angen am blwraliaeth newyddion yng Nghymru ac felly mae ganddi galon a gweledigaeth i weld mwy na dim ond monotone y BBC yn darlledu yng Nghymru. Mewn gair, dydy hi ddim yn siarad yn y rali i achub Wedi 7!


Y broblem yw bo angen i'r Gymdeithas atynnu swmp mawr o bobol ar y 6ed, fel ma'r Hogyn yn gweud. Ac fel weli di o'r edefyn 'ma, er bod sylwadau zorro tam bach yn rantiog, nid dewis rhywun sy 'di bod yn bwydo cachu i ni ers blynyddoedd yw'r ffordd ore o wneud 'ny.

Dyle pawb sy'n annerch y rali wneud 'ny o safbwynt gwylwyr sy'n gofidio yn hytrach na rhywun sy 'di neud ffortiwn mas o'r system bresennol. A hithe mo'yn neud ei hunan yn flaenllaw fel gwleidydd, medde rhai, ma hi'n cal hwb ddwbwl gan y gymdeithas ondyw hi?

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Iau 28 Hyd 2010 9:47 am
gan Hedd Gwynfor
Dim ond un o'r Siaradwyr yw Angharad Mair. Y gwir yw bod angen gwahodd pobl amlwg i annerch er mwyn denu pobl i ddod. Bydd lot mwy yn dod oherwydd bod Angharad Mair yn siarad na fydd yn cadw draw. Hefyd yn siarad bydd Ieuan Wyn Jones AC, Menna Machreth, David Donovan (BECTU) ac eraill. Bydd adloniant hefyd gan Ryland Teifi, MC Saizmundo, Ty Gwydr, Cor Godre'r Garth a mwy.

Mae Angharad Mair wedi bod yn gefnogol i nifer o ymgyrchoedd dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys Mesur Iaith gref.

Fel nododd Rhys, rhaid cael S4C newydd, ond bydd yn amhosib cael S4C newydd safonol heb gyllid digonol, ac heb annibyniaeth. Nid Rali i achub S4C ar ei ffurf bresennol yw hon, ond Rali i achub ein unig sianel deledu Cymraeg sydd dan fygythiad real.

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Iau 28 Hyd 2010 9:59 am
gan Hogyn o Rachub
Ga'i awgrymu mai un ffordd o ddenu llawer o bobl ydi peidio â chynnal y Rali dan faner y Gymdeithas ond fel rhyw beth ar wahân, hyd yn oed os mai'r Gymdeithas sy'n ei threfnu? Dwi'm am ailsgwennu ond dymasgwennish i'r diwrnod o'r blaen:

boi grêt a ddywedodd:Dwi ddim yn meddwl y dylai’r Rali fod yn enw Cymdeithas yr Iaith – ni ddylai fod yn brotest swyddogol ganddi hi. Licio fo neu ddim, mae ‘na berygl go iawn y bydd gwneud hyn yn troi pobl i ffwrdd o’r digwyddiad, ac o bosibl hefyd yr ymgyrch yn fwy cyffredinol. Fydd ‘na bobl sy ddim isho, wel, nid ‘cefnogi’ fel y cyfryw ond nad ydynt isio ymwneud â CyIG am ba reswm bynnag. Mi fyddai mwy o bobl yn debygol o alw heibio i’r Rali os ydyw’n rali niwtral o ran teyrngarwch i unrhyw fudiad neu blaid: pobl sydd am ddangos eu cefnogaeth i’r Sianel ac mai dyna eu hunig nod.

Rhaid i’r ymgyrch sydd ar ddyfod, ac mi gredaf y gall droi’n ymgyrch chwerw a chaled, ennyn y gefnogaeth ehangaf posibl gan bobl o bob lliw a llun. Ac i’r diben hwnnw, er mai’r Gymdeithas sy’n trefnu’r Rali arbennig hon ac y caiff dwi’n siŵr ran allweddol yn y frwydr sy’n ein hwynebu, efallai mai’r ffordd orau o wneud hyn yw trefnu unrhyw ddigwyddiad dan faner ‘Achub S4C’ ac nid unrhyw fudiad, gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith.