Tudalen 6 o 9

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Sad 13 Tach 2010 2:23 am
gan Rhys Aneurin
Iasu, sgwrs di mynd oddi ar y tracs braidd do.

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Sul 14 Tach 2010 12:23 am
gan Kez
Cytunaf ac ma galw vagina yn glodj yn hollol ddi-barch!

Wi wir ddim yn diall pobol ifinc heddi - be ddiawl sy'n bod ernyn nhw!!

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Sul 14 Tach 2010 1:47 am
gan tom.j
Son am glojes......yr Wyl Gerdd Dant ar S4C drwy'r dydd - oni bai am y gem rygbi a'r newyddion.....a ydy'r sianel yn trio denu gwylwyr neu beth? Sgwn i pwy ddaeth ar frig siartiau gwylwyr heno....X Factor? Strictly Come Dancing? neu'r Wyl Gerdd Dant??????? Ydy - ma S4C yn hen ffasiwn!!

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Sul 14 Tach 2010 8:26 am
gan Josgin
Yr oedd darlledu'r wyl Gerdd dant drwy'r dydd yn enghraifft perffaith o pam mae S4C mewn ffasiwn drwbwl.
Methu coelio'n llygad .

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Sul 14 Tach 2010 9:49 am
gan sian
tom.j a ddywedodd:Son am glojes......yr Wyl Gerdd Dant ar S4C drwy'r dydd - oni bai am y gem rygbi a'r newyddion.....a ydy'r sianel yn trio denu gwylwyr neu beth? Sgwn i pwy ddaeth ar frig siartiau gwylwyr heno....X Factor? Strictly Come Dancing? neu'r Wyl Gerdd Dant??????? Ydy - ma S4C yn hen ffasiwn!!


Ond - beth bynnag fyse S4C wedi'i ddangos, fyse fe ddim wedi gallu cystadlu ag X Factor a Strictly - felly pam ddim mynd am rywbeth hollol wahanol sydd â'i gynulleidfa ei hunan. Wnes i watsho'r teledu ar nos Sadwrn am y tro cynta ers Gwyl Gerdd Dant llynedd, siwr o fod. Weithiodd e i fi!

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Sul 14 Tach 2010 12:30 pm
gan tom.j
Josgin a ddywedodd:Yr oedd darlledu'r wyl Gerdd dant drwy'r dydd yn enghraifft perffaith o pam mae S4C mewn ffasiwn drwbwl.
Methu coelio'n llygad .


Cytuno'n llwyr a Josgin. Faint o bobl oedd yn yr wyl ei hun? Tasech chi'n tynnu'r corau eu hunain a'r cystadleuwyr o'r gynulleidfa......byse dim mwy na 200 'na dwi'n siwr. Ydy hyn yn iawn felly i ddarlledu gwyl mor fach ar y teledu DRWY'R DYDD!!! Sdim rhyfedd bo neb yn gwylio'r sianel. DEFFRWCH!

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Sul 14 Tach 2010 12:31 pm
gan tom.j
sian a ddywedodd:
tom.j a ddywedodd:Son am glojes......yr Wyl Gerdd Dant ar S4C drwy'r dydd - oni bai am y gem rygbi a'r newyddion.....a ydy'r sianel yn trio denu gwylwyr neu beth? Sgwn i pwy ddaeth ar frig siartiau gwylwyr heno....X Factor? Strictly Come Dancing? neu'r Wyl Gerdd Dant??????? Ydy - ma S4C yn hen ffasiwn!!


Ond - beth bynnag fyse S4C wedi'i ddangos, fyse fe ddim wedi gallu cystadlu ag X Factor a Strictly - felly pam ddim mynd am rywbeth hollol wahanol sydd â'i gynulleidfa ei hunan. Wnes i watsho'r teledu ar nos Sadwrn am y tro cynta ers Gwyl Gerdd Dant llynedd, siwr o fod. Weithiodd e i fi!


Ti a'r miloedd o bobl eraill eh????

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Sul 14 Tach 2010 1:57 pm
gan bed123
Cytuno llwyr hefo Sian. Un o cryfderau S4C ydi ei darllediadau o gwyliau fel Eist Genedlaethol, Urdd a'r Wyl Gerdd Dant. Wnes i a'r teulu aros i fyny tan 1 bore ma i wylio yr holl cyffro. Mwy o hyn sy eisiau ar S4C.

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Sul 14 Tach 2010 2:29 pm
gan Josgin
Ni fuasai neb yn gwarafu darlledu gwyliau cenedlaethol a digwyddiadau diwylliannol. Ond trwy'r dydd ?????????.

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Sul 14 Tach 2010 4:33 pm
gan tom.j
bed123 a ddywedodd:Cytuno llwyr hefo Sian. Un o cryfderau S4C ydi ei darllediadau o gwyliau fel Eist Genedlaethol, Urdd a'r Wyl Gerdd Dant. Wnes i a'r teulu aros i fyny tan 1 bore ma i wylio yr holl cyffro. Mwy o hyn sy eisiau ar S4C.



Cyffro??? R.Alun Ifans yn cyhoeddi tra'n darlledu bo rhywun wedi colli sgarff biws a'i fod e'n saff ar y bwrdd ger y llwyfan!!!! Ffaelu aros am y cyffro flwyddyn nesa nawr!