Tudalen 8 o 9

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Iau 18 Tach 2010 3:58 pm
gan Hogyn o Rachub

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Iau 18 Tach 2010 4:07 pm
gan dafydd
Khmer a ddywedodd:
dafydd a ddywedodd:Dyna'r sgandal mewn gwirionedd.


dyna'r unig sgandal? Doedd e ddim yn sgandal hefyd fod y comisiynwyr a'r pennaeth yn rhoi gwaith i'r cwmniau oedd gyda nhw 'shares' ariannol ynddynt?!

Mae na lot o sgandalau wedi bod o fewn y diwydiant yng Nghymru mae'n siwr. Ond y broblem sylfaenol yw fod darlledu Cymraeg (beth bynnag am weithredoedd mewnol S4C) wedi diodde hefyd drwy fod ynghlwm gyda strwythur darlledu Prydeinig, heb lais a heb elwa yn yr un modd a rhai darlledwyr eraill. A'r sgandal arall efallai yw fod y Cynulliad wedi gwneud uffach o ddim chwaith, nes ei fod hi'n rhy hwyr.

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Maw 22 Chw 2011 9:46 pm
gan Khmer
Hedd Gwynfor a ddywedodd:A fyddai'n syniad gwell gwario arian prin S4C ar ddarlledu stwff newydd yn ystod yr oriau brig yn unig, ar S4C ac S4C2? Rhaglenni i'r oedran 18-40/50 ar S4C2 yn yr hwyr, a rhaglenni sy'n fwy tebygol i apelio at y to oedran 40/50+ ar S4C gyda'r hwyr?

S4C1 - Gellid cael rhaglen newyddion/brecwast da yn y bore, repeats trwy'r dydd (Goreuon S4C o'r archif??) + falle darllediadau pwysig o'r Cynulliad a wedyn stwff newydd i'r to hyn 40/50+ o 6pm ymlaen.

S4C2 - Gellid darlledu rhaglenni i blant ar S4C2 yn y bore a'r prynhawn tan tua 6pm (Gellid darlledu stwff i blant newydd + stwff o'r archif, bydde plant heddi yn joio Ffalabalam fi'n siwr!!), a wedyn stwff i'r oedran 18-40/50 rhwng 6pm a 12am.

Ydy hyn yn gwneud synnwyr?



Nacydi - pwy fyse'n talu am y sianeli? Gyda torriadau S4C fel y mae nhw, sut yn y byd i ti'n meddwl y gall S4C fforddio 2 Sianel?!! Ma costau ail ddarlledu yn uffernol o uchel, felly fydde ti no way yn arbed arian...

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Mer 23 Chw 2011 1:56 pm
gan tom.j
Gwendid mwya S4C falle yw eu bod nhw'n cynhyrchu rhaglenni lleiafrifol i'r lleiafrif.
Byw Yn Y Byd - O'r Galon - Merch Y Blodau - 100 Lle - Taith Y Tad Deiniol - Crwydro - Clwb Rygbi Shane - Iolo Ac Indiaid America - Byw Yn Ol Y Llyfr -Catrin Finch - Pencampwriaeth Bandiau Pres -Ffermio ag ati
Tase rhain yn rhaglenni Saesneg bysen nhw naill a'in cael eu darlledu yn ystod y dydd, hwyr y nos, neu falle ar fore Sul ar BBC2 - nid ar oriau brig!
Mae'r prif sianeli yn gwybod yn iawn beth yw darlledu - er nad yw pob un at fy nant i - ma nhw yn plesio'r mwyafrif. Rhaglenni fel Dancing On Ice, Ant & Dec's Push The Button, Harry Hill's TV Burp,Casualty,Take Me Out,Masterchef,Shameless,Benidorm,Marchlands,Hustle,Silks,Taggart.
Pryd welon ni rhaglen cwis/gem dda (dim sothach fel 0 ond 1) ddwetha ar S4C? Beth ddigwyddodd i rhaglenni fel Cyfle Byw a Sul y Ffon gyda Gareth Roberts? Beth am gyfres dditectif fel 'Heliwr'? Beth am ...wait for it....Gomedi Sefyllfa newydd? (Ma 2 gyfres gomedi 'da di allan o Gymru yn ddiweddar - Gavin & Stacey a Being Human - felly pam nad oes modd creu comedi yn y Gymraeg?)
Bellach ma' S4C di troi mewn i sianel sy'n arbenigo yn a) Rhaglenni Plant b) Rhaglenni sy'n ymwneud ag elfennau o Gefn Gwlad c) Rhaglenni Chwaraeon. Mae S4C yn sianel i'r lleiafrif uchelael.
Nid yw S4C bellach yn sianel gyflawn i BAWB yng Nghymru. Dyw S4C jyst ddim yn hen ffasiwn ond bellach wedi colli'r plot yn llwyr. DEFFRWCH!!!

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Mer 23 Chw 2011 2:27 pm
gan Hogyn o Rachub
tom.j a ddywedodd:Tase rhain yn rhaglenni Saesneg bysen nhw naill a'in cael eu darlledu yn ystod y dydd, hwyr y nos, neu falle ar fore Sul ar BBC2 - nid ar oriau brig!


Dwi'n cytuno i raddau ond mae 'na rai o'r rhaglenni ti'n eu rhestru sy ddim yn mynd i'r categori hwn o gwbl ac mae'n annheg yn fy marn i dweud eu bod nhw, yn enwedig Iolo ac Indiaid America a Byw yn Ôl y Llyfr - a ti'n rhoi Byw yn y Byd yn y categori hwnnw cyn i'r gyfres hyd yn oed ddechrau, chwara teg rwan! A dwi ddim yn meddwl bod y rhan fwyaf o'r rhaglenni ti'n eu henwi yn rhai 'uchelael' chwaith, er 'sdim gwadu bod gan y Sianel fwy na'i siâr o'r rhain yn aml iawn (yn aml wedi'u clystyrru efo'i gilydd am ryw reswm).

Serch hynny dwi'n cytuno efo egwyddor rhywbeth ti'n awgrymu sef mai poblogrwydd, nid safon, rhaglenni sydd bwysicaf.

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Mer 23 Chw 2011 9:13 pm
gan tom.j
Son am hen ffasiwn - newydd wylio pennod heno o Pobol Y Cwm! Roedd actio Emyr Wyn, Alun ap Brinley, Maria Pride a Victoria Plucknet fel gwylio drama yn festri'r capel yn y 70au! Amaturaidd o annaturiol. Doedd yr ysgrifennu ddim mor dda a hynny chwaith (Sion Eirian!!)

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Llun 28 Chw 2011 9:04 am
gan Lals
Efallai bod cymeriadau cymreig ar Gavin and Stacey a bod tipyn ohono wedi ei ffilmio yn y Barri ond nid cynhyrchiad o Gymru yw Gavin and Stacey.

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Llun 28 Chw 2011 10:44 pm
gan tom.j
Lals a ddywedodd:Efallai bod cymeriadau cymreig ar Gavin and Stacey a bod tipyn ohono wedi ei ffilmio yn y Barri ond nid cynhyrchiad o Gymru yw Gavin and Stacey.

Beth bynnag - sdim un comedi Cymraeg wedi cyrraedd safon y math yma o gyfres erioed...ac roedd nifer fawr o'r actorion ynddi yn Gymry. (Ac yn ol yr hyn dwi'n ei ddeall roedd rhan fwya o'r ffilmio yng Nghymru - hyd yn oed y darnau oedd fod yn Lloegr!)

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Maw 01 Maw 2011 8:44 am
gan Hogyn o Rachub
Heb fod isho codi ysbryd C'mon Midffild ond roedd o lot, lot gwell na Gavin a Stacey. A nesi fwynhau Gavin a Stacey ar y cyfan. Ond mae'n drist ugain mlynedd wedyn nad ydan ni wedi gweld comedi sydd wedi cyrraedd y safon honno ar S4C.

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

PostioPostiwyd: Maw 01 Maw 2011 11:32 am
gan osian
tom.j a ddywedodd:
Lals a ddywedodd:Efallai bod cymeriadau cymreig ar Gavin and Stacey a bod tipyn ohono wedi ei ffilmio yn y Barri ond nid cynhyrchiad o Gymru yw Gavin and Stacey.

Beth bynnag - sdim un comedi Cymraeg wedi cyrraedd safon y math yma o gyfres erioed...ac roedd nifer fawr o'r actorion ynddi yn Gymry. (Ac yn ol yr hyn dwi'n ei ddeall roedd rhan fwya o'r ffilmio yng Nghymru - hyd yn oed y darnau oedd fod yn Lloegr!)


Dydi hynna ddim yn wir o bellffordd. Ond yn sicr, ma' safon comedis diweddar S4C yn destun pryder