Tudalen 1 o 1

Y BBC i dalu am S4C

PostioPostiwyd: Maw 19 Hyd 2010 5:34 pm
gan AllBran

Re: Y BBC i dalu am S4C

PostioPostiwyd: Maw 19 Hyd 2010 6:49 pm
gan AllBran

Re: Y BBC i dalu am S4C

PostioPostiwyd: Maw 19 Hyd 2010 6:49 pm
gan AllBran

Re: Y BBC i dalu am S4C

PostioPostiwyd: Mer 20 Hyd 2010 1:46 am
gan Hen Rech Flin
Mae Mr *unt yn blogio, os hoffech adael sylw, na chaiff ei gyhoeddi (wrth gwrs), dyma ei flog gyfeiriad:

http://www.jeremyhunt.org/blog.aspx?id=115

Bydda bombardio ei flog efo sylwadau o blaid darlledu yn y Gymraeg yn brotest digon diniwed!

BBC i ariannu S4/Capwt

PostioPostiwyd: Mer 20 Hyd 2010 4:56 am
gan Llygad Llo Mawr
Ar ol clywed bod y BBC i ariannu S4/Capwt:

Dywedodd Alun Ffred Jones, Gweinidog Treftadaeth Cymru, nad oedd unrhyw drafodaethau wedi bod rhwng gweinidogion, ac nad oedd o wedi cael gwybod yn swyddogol am y penderfyniad.


A mae hynny, ddyliwn i, yn dweud y cyfan.

Er gwaetha'r ffaith fy mod i'n aelod llawn o Glwb yr Anffyddiwrs, fedrai yn fy myw a pheidio pori dros hen gopiau o Ddetholiad y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd i weld os oes unrhyw beth addas ar gyfer ffasiwn achlysur prudd a hwn. Y tro diwetha' i mi glywed hon yn cael ei chanu mewn pedwar llais, a hynny'n rhyfeddol o dawel a gweddigar o ystyried cyflwr meddw'r cantorion, oedd yn nhy potas croesawgar HTV, cyn bodolaeth S4/Capwt, pan oedd y werin bobol yn dal i fedru darllen hen nodiant a chanu mewn tiwn yn eu cwrw.

Felly, gan smalio'n bod ni i gyd mewn hwylia', ac yn hel diod ar rhyw nos Wener braf yn y brifddinas, tua diwedd y saithdegau, mi ganwn ni hon ar ein heistedd, os gwelwch yn dda:

Arglwydd, mae yn nosi,
Gwrando ar ein cri;
O! bererin nefol,
Aros gyda ni.

Amen, amen, aaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaa-men.

Re: Y BBC i dalu am S4C

PostioPostiwyd: Maw 26 Hyd 2010 4:38 pm
gan Madrwyddygryf
Dwi'n credu bod BBC yn cadw llygad ar S4C yn syniad da yn bersonol.

Mae's sianel eisiau cyfundrefn rheoli gwell ar y gwario ac perfformiad y sianel.

Dwi wedi clywed nifer o straeon o arian yn cael ei wario, er ddim yn wyllt, ond ddim mewn ffordd effeithiol wrth gael gwerth eu pres. Mae stori yma yn esiampl gwych.

Re: Y BBC i dalu am S4C

PostioPostiwyd: Mer 27 Hyd 2010 10:56 pm
gan zorro
Fyddai gan y syniad yma ddim cnewyllyn o obaith petai y gyfundrefn bresennol wedi cael ei weithredu'n gywir !!!

Yn frâs, mae rheolwyr S4C yn atebol i'r Awdurdod. Pwrpas yr Awdurdod yw i goruwchwylio gweithgareddau tîm rheoli S4C. Os oes unrhywun allan fan'na yn ymwneud â chylch meithrin lleol, fyddwch chi'n gyfarwydd â'r broses cyfundrefnol sydd i fod yn gyfrifol am S4C.

Petai awdurdod S4C yn gweithredu fel y ddylai, yna ddylai'r sefyllfa besennol byth wedi cael ei wireddu !!

Os fyddwch chi'n pwyntio'r bys at unigolion ( Iona Jones, Rhian Gibson, Meirion Davies ) Rhaid i chi ysyried y corff oedd yna iw goruwchwylio !!!

Re: Y BBC i dalu am S4C

PostioPostiwyd: Iau 28 Hyd 2010 2:37 am
gan Llygad Llo Mawr
Yn frâs, mae rheolwyr S4C yn atebol i'r Awdurdod. Pwrpas yr Awdurdod yw i goruwchwylio gweithgareddau tîm rheoli S4C. Os oes unrhywun allan fan'na yn ymwneud â chylch meithrin lleol, fyddwch chi'n gyfarwydd â'r broses cyfundrefnol sydd i fod yn gyfrifol am S4C.


Mi welaf bod S4C wedi cyhoeddi y bydd deugain o swyddi yn mynd dros y ddwy flynedd nesa'. Siawns y bydd Meirion Davies yn eu plith nhw. Ond a fydd John Walter Jones - a holl fwrdd awdurdod S4C - ymhlith y rhai fydd yn colli eu swyddi yn S4/Capwt? Go brin. Mae'n hen bryd i mei naps ddisgyn ar ei gleddyf a chydnabod nad ydi o'n deilwng o'r swydd.

Rhowch rhywun efo tipyn o asgwrn cefn a hygrydedd i mewn yn ei le fo, wir. Mi fyddai'n help garw tasa'r person hwnnw'n gwybod rhyw fymryn am ddarlledu cyhoeddus, os mai dyna be galwch chi o yn yr unfed ganrif ar hugain. Mi wn ei bod yn talu cyflog hynod o hael fel swydd sydd m'ond yn rhan-amser ond pwy, mewn difri sobrwydd, fyddai isho'r ffasiwn job yn yr hinsawdd sydd ohoni hi?