Dywedodd Alun Ffred Jones, Gweinidog Treftadaeth Cymru, nad oedd unrhyw drafodaethau wedi bod rhwng gweinidogion, ac nad oedd o wedi cael gwybod yn swyddogol am y penderfyniad.
A mae hynny, ddyliwn i, yn dweud y cyfan.
Er gwaetha'r ffaith fy mod i'n aelod llawn o Glwb yr Anffyddiwrs, fedrai yn fy myw a pheidio pori dros hen gopiau o Ddetholiad y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd i weld os oes unrhyw beth addas ar gyfer ffasiwn achlysur prudd a hwn. Y tro diwetha' i mi glywed hon yn cael ei chanu mewn pedwar llais - a hynny'n rhyfeddol o dawel a gweddigar o ystyried cyflwr meddw'r cantorion - oedd yn nhy potas croesawgar HTV, cyn bodolaeth S4/Capwt, pan oedd y werin bobol yn dal i fedru darllen hen nodiant a chanu mewn tiwn yn eu cwrw.
Felly, gan smalio'n bod ni i gyd mewn hwylia', ac yn hel diod ar rhyw nos Wener braf yn y brifddinas, tua diwedd y saithdegau, mi ganwn ni hon ar ein heistedd, os gwelwch yn dda:
Arglwydd, mae yn nosi,
Gwrando ar ein cri;
O! bererin nefol,
Aros gyda ni.
Amen, amen, aaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaa-men.