S4/Capwt

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

S4/Capwt

Postiogan Llygad Llo Mawr » Mer 20 Hyd 2010 7:36 am

Ar ol clywed bod y BBC i ariannu S4/Capwt:

Dywedodd Alun Ffred Jones, Gweinidog Treftadaeth Cymru, nad oedd unrhyw drafodaethau wedi bod rhwng gweinidogion, ac nad oedd o wedi cael gwybod yn swyddogol am y penderfyniad.


A mae hynny, ddyliwn i, yn dweud y cyfan.

Er gwaetha'r ffaith fy mod i'n aelod llawn o Glwb yr Anffyddiwrs, fedrai yn fy myw a pheidio pori dros hen gopiau o Ddetholiad y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd i weld os oes unrhyw beth addas ar gyfer ffasiwn achlysur prudd a hwn. Y tro diwetha' i mi glywed hon yn cael ei chanu mewn pedwar llais - a hynny'n rhyfeddol o dawel a gweddigar o ystyried cyflwr meddw'r cantorion - oedd yn nhy potas croesawgar HTV, cyn bodolaeth S4/Capwt, pan oedd y werin bobol yn dal i fedru darllen hen nodiant a chanu mewn tiwn yn eu cwrw.

Felly, gan smalio'n bod ni i gyd mewn hwylia', ac yn hel diod ar rhyw nos Wener braf yn y brifddinas, tua diwedd y saithdegau, mi ganwn ni hon ar ein heistedd, os gwelwch yn dda:

Arglwydd, mae yn nosi,
Gwrando ar ein cri;
O! bererin nefol,
Aros gyda ni.

Amen, amen, aaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaa-men.
Rhithffurf defnyddiwr
Llygad Llo Mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Iau 05 Awst 2010 10:43 pm

Re: S4/Capwt

Postiogan ceribethlem » Mer 20 Hyd 2010 11:27 am

Wedi uno gyda'r edefyn yma:http://www.maes-e.com/viewtopic.php?f=8&t=28717. Ddim yn credu fod angen dau edefyn mor debyg i'w gilydd ar agor.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du


Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 26 gwestai