Re: Rod Liddle
Postiwyd:
Gwe 22 Hyd 2010 7:43 am
gan Ray Diota
ma rhwbeth doniol am y ffaith, yn sgil yr holl newyddion 'ma, taw'r edefyn prysura ar maes-e yw un am rwbeth ma rhyw goc sais 'di gweud...
Re: Rod Liddle
Postiwyd:
Gwe 22 Hyd 2010 2:30 pm
gan C++
Sori, pam wyt ti di bloci'r Spectator? I ba reswm??
Achos dw i'n rheoli fy nghyfrifiadur a beth dw i eisiau darllen - a hyrwyddo.
Mae Spectator yn codi arian trwy hysbysebion. Well i ni symud ymlaen yn hytrach na hyrwyddo nhw mwy a thyfu'r cynulleidfa ac elwa mwy a mwy.
Re: Rod Liddle
Postiwyd:
Gwe 22 Hyd 2010 2:42 pm
gan Doctor Sanchez
Boi fel na dio di bod erioed. Roedd ei golofn i'r times yn trio codi gwrychyn rhywun bob wsnos.
Cefnogi Millwal a colbio'i wraig. Mae angen gwrando ar be sgin hwn i ddeud
Re: Rod Liddle
Postiwyd:
Sad 23 Hyd 2010 11:11 am
gan nicdafis
Wedi blogio am hyn, yn yr iaith fain (gan fod dim byd newydd i ddweud amdano yn Gymraeg, neu i Gymry).
Fan hyn, os oes diddordeb.
Re: Rod Liddle
Postiwyd:
Maw 26 Hyd 2010 4:59 pm
gan Madrwyddygryf
Doctor Sanchez a ddywedodd:Boi fel na dio di bod erioed. Roedd ei golofn i'r times yn trio codi gwrychyn rhywun bob wsnos.
Cefnogi Millwal a colbio'i wraig. Mae angen gwrando ar be sgin hwn i ddeud
Ddaru fo ddim yn colbio ei wraig. Fe adawodd ei wraig ar eu mis mel i fyw gyda merch 22 oed oedd yn gweithio yn nerbynfa Spectator, arna hi wnaeth o ymosod ar. Roedd hi'n disgwyl eu plentyn pan chafodd ei colbio gan Liddle.
Onni meddwl bod o'n eitha doniol, duw pam cawn ni rhoi fo ar crys-t?
Re: Rod Liddle
Postiwyd:
Iau 11 Tach 2010 6:21 pm
gan ygwyliwr
Piti na fase rhai yn gwneud iddo fo be' nath criw i a.a. gill rai blynyddoedd yn ôl pan gawson nhw ymgyrch yn ei erbyn ac archebu pob math o "home deliveries" iddo fo - pizzas, curries, chinese,ayb. Fe stopiodd o ymosod ar y Cymry ar ôl penllanw'r ymgyrch wrth iddo dderbyn lori llawn 5 cubic metr o sement redimix ar stepen ei ddrws gwerth rhai cannoedd o bunnoedd. Clasur!! Watsha allan Rod, 'dio'm yn cymryd fawr o ymchwil i neud pethe fel 'na!!!