Ta-ta Jonsi

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ta-ta Jonsi

Postiogan Kez » Gwe 22 Hyd 2010 5:56 pm

Fi fel hedd - wi'n dal yn y tywyllwch ynglyn a beth nath e ac ma meddwl fi'n gwitho overtime.
Ma pawb yn hinto at rwpath ond yn gwrthod ymhelaethu.
Odd ei hiwmor wastod yn deip 'carry on' Sid James ifi ond wim credu bo hwnna'n ddigon o reswm i gal gwarad o ge.
Ife sexual harresmwnt yw'r rheswm ne odd e wedi tynnu wili e mas fel joc stiwdant o flan y fenyw odd yn gwitho gidag e ne ffono 'Beti a'i phobol' lan a gwed pethach afledneis wrthi :?

Mae'r genedl isha gwpod :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Ta-ta Jonsi

Postiogan ci tarw » Gwe 22 Hyd 2010 10:37 pm

Mae'n warth bod Jonsi wedi gadael Radio Cymru. Mae wedi brwydro yn erbyn rhagfarnau tuag ato, a'r cwbl oedd e'n wneud oedd poblogeiddio gwasanaeth Cymraeg, ac yn cyrraedd Cymry na fase wedi ystyried gwrando ar yr orsaf erioed. Ni chafodd chwarae teg, a'r dosbarth canol yn brwydro yn ei erbyn. "Hei, be sy'n gneud ti n well Cymro na fi ie ?". Dewch a fe nol, bethbynnag fo'ch barn tuag ato, o leia roedd e'n ddarlledwr oedd yn ddadleuol, yn feiddgar ac yn annog ymateb. Long live the marmite effect ie :D
ci tarw
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Gwe 22 Hyd 2010 10:28 pm

Re: Ta-ta Jonsi

Postiogan nicdafis » Gwe 22 Hyd 2010 10:54 pm

Jonsi, ar y maes? Ai dyma'r "diddordebau eraill" ni wedi clywed amdanynt?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Ta-ta Jonsi

Postiogan Gwyddno » Gwe 22 Hyd 2010 11:26 pm

Gwynt teg ar ei ol e; falle gawn ni rywun deche i gyflwyno nawr.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyddno
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Gwe 23 Ebr 2004 10:02 pm
Lleoliad: Ty ar y Mynydd

Re: Ta-ta Jonsi

Postiogan ci tarw » Gwe 22 Hyd 2010 11:32 pm

Pwy fydde ti yn ei hoffi "Gwyddno" - rhywun dosbarth canol mae'n siwr ? Ha ha - ai'r crach Cymraeg ydy dyfodol Radio Cymru ? Ydym ni wedi dod i hyn ?
ci tarw
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Gwe 22 Hyd 2010 10:28 pm

Re: Ta-ta Jonsi

Postiogan Gwyddno » Gwe 22 Hyd 2010 11:46 pm

ci tarw a ddywedodd:Pwy fydde ti yn ei hoffi "Gwyddno" - rhywun dosbarth canol mae'n siwr ? Ha ha - ai'r crach Cymraeg ydy dyfodol Radio Cymru ? Ydym ni wedi dod i hyn ?

Na, dim o reidrwydd. Does a wnelo 'crach' a 'dosbarth' ddim â hyn. Ffaelu godde'i arddull on i, dim byd i wneud â beth oedd ei waith cyn ymuno â'r Bîb. Mae 'na le i gyflwynwyr sy'n siarad Cymraeg safonol - ar raglenni newyddion a materion cyfoes, er enghraifft - ond dyw hynny ddim yn ystyriaeth wrth benodi rhywun i gyflwyno rhaglen adloniant. Y gallu i gyfathrebu heb elyniaethu rhannau helaeth o'r gynulleidfa sy'n bwysig wedyn, ac rodd hynny'n amlwg y tu hwnt i allu Eifion 'Adrian' Jones.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyddno
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Gwe 23 Ebr 2004 10:02 pm
Lleoliad: Ty ar y Mynydd

Re: Ta-ta Jonsi

Postiogan Josgin » Sad 23 Hyd 2010 9:10 am

Mae hyn yn dangos mai camgymeriad oedd cael gwared o raglen Dylan a Meinir. Mwydryn proffesiynol oedd Jonsi . Mi oedd o'n gwybod am gerddoriaeth pop Saesneg a pheldroed, a dyna ni. Mi fydd llawer o bobl yr ardal yma'n gweld ei golli o (heblaw un, yn amlwg). Fyddan nhw'n sicr ddim yn gwrando ar Geraint Lloyd- 'Tractor FM'
Golygwyd diwethaf gan Josgin ar Sad 23 Hyd 2010 12:18 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Ta-ta Jonsi

Postiogan fatswalla » Sad 23 Hyd 2010 10:27 am

Mae yna Dduw wedi'r cwbwl. Dwy funud o wrando ar y clwt yma yn ddigon i droi rhywyn at crystal meth. Ond os yw Duw yn gwrando wneaiff e drefnu bod rhywyn yn cwyno am Lloydeeeeee hefyd? Plis?
fatswalla
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 21
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 9:10 am

Re: Ta-ta Jonsi

Postiogan ceribethlem » Sul 24 Hyd 2010 4:52 pm

ci tarw a ddywedodd:Mae'n warth bod Jonsi wedi gadael Radio Cymru. Mae wedi brwydro yn erbyn rhagfarnau tuag ato, a'r cwbl oedd e'n wneud oedd poblogeiddio gwasanaeth Cymraeg, ac yn cyrraedd Cymry na fase wedi ystyried gwrando ar yr orsaf erioed. Ni chafodd chwarae teg, a'r dosbarth canol yn brwydro yn ei erbyn. "Hei, be sy'n gneud ti n well Cymro na fi ie ?". Dewch a fe nol, bethbynnag fo'ch barn tuag ato, o leia roedd e'n ddarlledwr oedd yn ddadleuol, yn feiddgar ac yn annog ymateb. Long live the marmite effect ie :D

Croeso i'r maes Jonsi. Beth ti lan ers cael y sac?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Ta-ta Jonsi

Postiogan nicdafis » Sul 24 Hyd 2010 5:07 pm

Nid jyst fi sy'n meddwl 'ny 'te?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron