Ta-ta Jonsi

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ta-ta Jonsi

Postiogan Duw » Sul 24 Hyd 2010 10:17 pm

nicdafis a ddywedodd:Nid jyst fi sy'n meddwl 'ny 'te?

Na ychwanega minne i'r gang hefyd.

fatswalla a ddywedodd:Mae yna Dduw wedi'r cwbwl. Dwy funud o wrando ar y clwt yma yn ddigon i droi rhywyn at crystal meth. Ond os yw Duw yn gwrando wneaiff e drefnu bod rhywyn yn cwyno am Lloydeeeeee hefyd? Plis?


Dwi wedi. Ffyrchied y ddoi o' nhw. Roedd Jownsee pob amser yn fy nharo fel rhyw dirty pants boi - malu cachu gyda hen fenywod, dyna'i ddawn. O, a gwenud y Walton's goodbye.

Mae Alan Partridge Radio Cymru wedi gadael yr adeilad!
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ta-ta Jonsi

Postiogan Chickenfoot » Llun 25 Hyd 2010 4:00 pm

Dwi i'n meddwl y bydd Jonsi yn danfon byddin o biddies i Fangor i ddinstrio'r swyddfeydd yno cyn bo hir.

dim ond wythnos yn ol, clywais Jondsi y son am ei feirniaid ac yn wondro lle 'roedden nhw rwan, a fo'n darlledu'n genedlaethol. O wel, Eifion.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Ta-ta Jonsi

Postiogan Madrwyddygryf » Maw 26 Hyd 2010 4:15 pm

Er fod yr ymddygiad yn swnio digon gwael y bod rhaid iddo fynd, mae'n biti bod o wedi mynd.
Onni meddwl bod o'n iawn, jysd y peth ar gyfer pnawn wythnos.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Ta-ta Jonsi

Postiogan zorro » Mer 27 Hyd 2010 11:11 pm

Wnaeth Jonsi chwalu'r delwedd dosbarth canol cyfforddus oedd gan Radio Cymru ar y pryd.

Er bod fi ddim yn ffan mawr o'i waith ers iddo gael i alw i lenwi 3 awr POB PRYNHAWN !!! Mae'n rhaid i mi ddatgan fy hoffter ohono fel unigolyn a fel symbol o pob dim sydd ddim yn dderbyniol o ddarlledu yng Ngymru heddiw !!!

Gyda llaw, os chi eisiau rhyw syniad o pob dim sydd yn dderbynniol o ddarledu yng Nghymru heddiw : edrychwch ar y sefyllfa yn S4C, Edrychwch ar y sefyllfa yn Radio Cymru : Jonsi : Ti'n well off bod yn annerbynniol !!!!!

Ydy Hywel Gwynfryn yn poeni am ei ddyfodol ? Ydy Nia Roberts yn atebol iw ffigyrrau gwrando ? Ydy Geraint Lloyd yn cael ei drîn fel pob cyflwynydd arrall ? Ydy C2 yn cael ei wrando arno gan unrhywun arall ?? Beth ddigwyddodd i Eleri Siôn ???

Mae sustem benderfyniadau RC yn ddirgelwch i bawb a mae'n ymddangos, tu hwnt i unrhyw oruwchwyliaeth !!!!!
zorro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Mer 14 Ion 2009 11:23 pm

Re: Ta-ta Jonsi

Postiogan prypren » Iau 28 Hyd 2010 5:20 pm

Camgymeriad mawr cael gwared o Jonsi. Er gwaethaf ei ffaeleddau yn un o ddarlledwyr gorau Radio Cymru
prypren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2010 12:40 pm

Re: Ta-ta Jonsi

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 28 Hyd 2010 5:45 pm

Rodd lot, lot well gen i Meinir a Dylan yn y prynhawn. Amser i'w cal nhw nol? Hefyd mae Marc Griffiths yn haeddu cyfle, lot gormod o gyflwynwyr o'r gogledd ar Radio Cymru. :crechwen: Dwi wedi clywed tua 70%. Ydy hyn yn wir?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Ta-ta Jonsi

Postiogan ceribethlem » Iau 28 Hyd 2010 7:45 pm

prypren a ddywedodd:Camgymeriad mawr cael gwared o Jonsi. Er gwaethaf ei ffaeleddau yn un o ddarlledwyr gorau Radio Cymru

Bolycs. Fe oedd yr unig ddarlledwr ar Radio Cymru oedd yn gwneud i fi droi bant yn syth. Coc o ddarlledwr, a choc o foi yn ol y son.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Ta-ta Jonsi

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 28 Hyd 2010 8:36 pm

Pan ddechreuodd Jonsi ar Radio Cymru bymtheg mlynedd yn ôl gafodd Tadcu gut feeling yn syth fod rhywbeth ddim yn iawn yma. Problem fawr Tadcu oedd y modd roedd e'n siarad yn awgrymog-frwnt gyda pobl oedd yn ffonio mewn ond yn benodol doedd Dadcu ddim yn hoffi'r ffaith fod Jonsi ar y pryd, ar ôl siarad yn awgrymog-frwnt, yn dweud wrth orffen yr alwad "cadwch eich hun yn bur i mi". Roedd hwnna yn ymadrodd gan Iesu Grist ac roedd Jonsi felly yn cablu ar day time Radio Cymru. Dwi'n meddwl i Dadcu ohebu yn Golwg yn cwyno am hyn a mynd ar Stondin Sulwyn ac ati; ond fe gafodd e dipyn o hard time yn ôl, pobl yn ei alw fe'n hen ffasiwn a piwritanaidd. Bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, ac os ydy'r sîon am y rheswm dros ymadawiad Jonsi yn wir, yna nid hen ffasiwn oedd Tadcu ond proffwydol.

Wedi dweud hynny, roedd Jonsi yn glen iawn gyda mi bob tro i mi ei gyfarfod ac ar ôl sgwennu'r uchod dwi'n gobeithio na wna i ei weld e'n Tesco eto!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Ta-ta Jonsi

Postiogan fatswalla » Iau 28 Hyd 2010 8:56 pm

Roess Dadcu yn iawn.
fatswalla
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 21
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 9:10 am

Re: Ta-ta Jonsi

Postiogan Josgin » Gwe 29 Hyd 2010 8:12 am

Mae yna bwt yn Golwg wythnos yma am bryderon rhai pobl am ymadawiad Jonsi - yr oedd o'n boblogiadd iawn yma, sglyfath/rwdlyn nei beidio. Y bobl oedd o'n gwrnado arno ydi'r bobl sydd yn antithesis i 'Cylch yr iaith ' , yn anffodus (Dwi'n gredwr cryf mewn iaith safonol , fy hun)
Mae'n bosibl fod apel Jonsi'n blwyfol iawn , ac yn fwy addas i orsaf ddwyieithog leol na gorsaf genedlaethol- rhywbeth tebyg ydi'r hogyn Kev sy'n darlledu'n Gymraeg ar 'Heart '. Mae hwn yn ran o'r broblem sydd wedi codi gyda pob dadl S4C a Radio Cymru - nid oes modd plesio pawb. Gall Sais droi o Radio 1 i Radio 2 , 3, 4 a 5 bob awr, os y dymuna . Os oes rhaglen Gymraeg ar Radio Cymru, honna ydi'n arlwy , hoffi neu beidio. Mi ryda ni gyda'r un amrywiaeth barn a mympwyon a phob cenedl arall, felly mae'n llawer anoddach plesio'r Cymry na'r Saeson, amwn i .
Efallai y bydd yna rali gref ym Mangor i alw am ail-gyflogi Jonsi ar yr un diwrnod a'r rali yng Nghaerdydd am ddyfodol S4C !
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai