Tudalen 2 o 5

Re: Ta-ta Jonsi

PostioPostiwyd: Gwe 22 Hyd 2010 5:56 pm
gan Kez
Fi fel hedd - wi'n dal yn y tywyllwch ynglyn a beth nath e ac ma meddwl fi'n gwitho overtime.
Ma pawb yn hinto at rwpath ond yn gwrthod ymhelaethu.
Odd ei hiwmor wastod yn deip 'carry on' Sid James ifi ond wim credu bo hwnna'n ddigon o reswm i gal gwarad o ge.
Ife sexual harresmwnt yw'r rheswm ne odd e wedi tynnu wili e mas fel joc stiwdant o flan y fenyw odd yn gwitho gidag e ne ffono 'Beti a'i phobol' lan a gwed pethach afledneis wrthi :?

Mae'r genedl isha gwpod :rolio:

Re: Ta-ta Jonsi

PostioPostiwyd: Gwe 22 Hyd 2010 10:37 pm
gan ci tarw
Mae'n warth bod Jonsi wedi gadael Radio Cymru. Mae wedi brwydro yn erbyn rhagfarnau tuag ato, a'r cwbl oedd e'n wneud oedd poblogeiddio gwasanaeth Cymraeg, ac yn cyrraedd Cymry na fase wedi ystyried gwrando ar yr orsaf erioed. Ni chafodd chwarae teg, a'r dosbarth canol yn brwydro yn ei erbyn. "Hei, be sy'n gneud ti n well Cymro na fi ie ?". Dewch a fe nol, bethbynnag fo'ch barn tuag ato, o leia roedd e'n ddarlledwr oedd yn ddadleuol, yn feiddgar ac yn annog ymateb. Long live the marmite effect ie :D

Re: Ta-ta Jonsi

PostioPostiwyd: Gwe 22 Hyd 2010 10:54 pm
gan nicdafis
Jonsi, ar y maes? Ai dyma'r "diddordebau eraill" ni wedi clywed amdanynt?

Re: Ta-ta Jonsi

PostioPostiwyd: Gwe 22 Hyd 2010 11:26 pm
gan Gwyddno
Gwynt teg ar ei ol e; falle gawn ni rywun deche i gyflwyno nawr.

Re: Ta-ta Jonsi

PostioPostiwyd: Gwe 22 Hyd 2010 11:32 pm
gan ci tarw
Pwy fydde ti yn ei hoffi "Gwyddno" - rhywun dosbarth canol mae'n siwr ? Ha ha - ai'r crach Cymraeg ydy dyfodol Radio Cymru ? Ydym ni wedi dod i hyn ?

Re: Ta-ta Jonsi

PostioPostiwyd: Gwe 22 Hyd 2010 11:46 pm
gan Gwyddno
ci tarw a ddywedodd:Pwy fydde ti yn ei hoffi "Gwyddno" - rhywun dosbarth canol mae'n siwr ? Ha ha - ai'r crach Cymraeg ydy dyfodol Radio Cymru ? Ydym ni wedi dod i hyn ?

Na, dim o reidrwydd. Does a wnelo 'crach' a 'dosbarth' ddim â hyn. Ffaelu godde'i arddull on i, dim byd i wneud â beth oedd ei waith cyn ymuno â'r Bîb. Mae 'na le i gyflwynwyr sy'n siarad Cymraeg safonol - ar raglenni newyddion a materion cyfoes, er enghraifft - ond dyw hynny ddim yn ystyriaeth wrth benodi rhywun i gyflwyno rhaglen adloniant. Y gallu i gyfathrebu heb elyniaethu rhannau helaeth o'r gynulleidfa sy'n bwysig wedyn, ac rodd hynny'n amlwg y tu hwnt i allu Eifion 'Adrian' Jones.

Re: Ta-ta Jonsi

PostioPostiwyd: Sad 23 Hyd 2010 9:10 am
gan Josgin
Mae hyn yn dangos mai camgymeriad oedd cael gwared o raglen Dylan a Meinir. Mwydryn proffesiynol oedd Jonsi . Mi oedd o'n gwybod am gerddoriaeth pop Saesneg a pheldroed, a dyna ni. Mi fydd llawer o bobl yr ardal yma'n gweld ei golli o (heblaw un, yn amlwg). Fyddan nhw'n sicr ddim yn gwrando ar Geraint Lloyd- 'Tractor FM'

Re: Ta-ta Jonsi

PostioPostiwyd: Sad 23 Hyd 2010 10:27 am
gan fatswalla
Mae yna Dduw wedi'r cwbwl. Dwy funud o wrando ar y clwt yma yn ddigon i droi rhywyn at crystal meth. Ond os yw Duw yn gwrando wneaiff e drefnu bod rhywyn yn cwyno am Lloydeeeeee hefyd? Plis?

Re: Ta-ta Jonsi

PostioPostiwyd: Sul 24 Hyd 2010 4:52 pm
gan ceribethlem
ci tarw a ddywedodd:Mae'n warth bod Jonsi wedi gadael Radio Cymru. Mae wedi brwydro yn erbyn rhagfarnau tuag ato, a'r cwbl oedd e'n wneud oedd poblogeiddio gwasanaeth Cymraeg, ac yn cyrraedd Cymry na fase wedi ystyried gwrando ar yr orsaf erioed. Ni chafodd chwarae teg, a'r dosbarth canol yn brwydro yn ei erbyn. "Hei, be sy'n gneud ti n well Cymro na fi ie ?". Dewch a fe nol, bethbynnag fo'ch barn tuag ato, o leia roedd e'n ddarlledwr oedd yn ddadleuol, yn feiddgar ac yn annog ymateb. Long live the marmite effect ie :D

Croeso i'r maes Jonsi. Beth ti lan ers cael y sac?

Re: Ta-ta Jonsi

PostioPostiwyd: Sul 24 Hyd 2010 5:07 pm
gan nicdafis
Nid jyst fi sy'n meddwl 'ny 'te?