Week in Week Out - S4C

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Week in Week Out - S4C

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 26 Hyd 2010 11:35 pm

Welodd rhywun y rhaglen heno? http://www.bbc.co.uk/programmes/b00vjrxf Uffernol o unochrog oeddwn i'n meddwl, a ddim yn wrthrychol o gwbwl. Dwi'n meddwl gwneud cwyn i'r BBC, ond dim lot o bwynt, dyn nhw byth yn cymryd cwynion o ddifrif... Fe wnaf esbonio mwy yfory (ar ol bach o gwsg) beth wnaeth fy nghorddi i fwyaf! :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Week in Week Out - S4C

Postiogan C++ » Mer 27 Hyd 2010 2:52 am

Sa' i di weld e 'to. Dylet ti cwyno os ti eisiau - achos ti'n gallu postio cofnod fel Rhys.
C++
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 29
Ymunwyd: Iau 08 Rhag 2011 10:41 pm

Re: Week in Week Out - S4C

Postiogan C++ » Mer 27 Hyd 2010 2:57 am

Gyda llaw mae gyda BBC polisi: ar ôl derbyn x cwyn rhaid iddyn nhw ddechrau ymchwiliad swyddogol.

Dw i ddim yn cofio'r nifer x ond mae'n rhywbeth isel iawn fel tua 10. Unrhyw un?
C++
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 29
Ymunwyd: Iau 08 Rhag 2011 10:41 pm

Re: Week in Week Out - S4C

Postiogan fatswalla » Mer 27 Hyd 2010 6:34 pm

Diolch am y linc. Wedi ei wylio fedra'i ond cytuno a bron popeth a ddwedwyd. JWJ yn fy nharo fel un sydd wedi ei orchuddio mewn grefi a ddaeth oddi ar y trên. £55,000 am faint o ddyddie'r wythnos? tra fod yr 'old timers' fel Geraint Stan yn siarad mewn termau dimplomataidd, call. Mi wn i taw rhaglen BBC oedd yma ond lle mae'r dystiolaeth ei fod yn rhaglen 'un ochrog'? Jest achos nad yw rhywyn yn hoff ô'r hyn mae'n ei weld. . . gwirionedd bob amser yn brifo.
fatswalla
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 21
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 9:10 am

Re: Week in Week Out - S4C

Postiogan zorro » Mer 27 Hyd 2010 10:43 pm

'Doedd y rhaglen ddim yn unochrog. Os rhywbeth, 'roedd yn anwybyddu rhai o ddigwyddiadau llai na anrhydeddus y 5 mlynedd diwethaf !!! Os oedd yn unochrog, unochrog o BLAID S4C oedd o !!!

Ma digwyddiadau a pholisiau'r gyfundrefn ddiwethaf yn S4C yn hynod anghredadwy, a digon yw hi i ddweud fod ymateb Jeremy Hunt a'r DCMS ddim yn anghyfarwydd gan gofio'r sgandal o bolisi oedd yn bodoli.

Ar bwynt fwy personol : Os yw John Walter Jones yn eich gwylltio chi fel unigolion ac yn creu rhyw ddelwedd negatif o rheolwyr ein sianel , ydych chi'n meddwl fod hwn yn berson da i gynrychiolu S4C i'r DCMS yn yr oes yma ?????
zorro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Mer 14 Ion 2009 11:23 pm

Re: Week in Week Out - S4C

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 28 Hyd 2010 9:14 am

Roedd hanner cyntaf y rhaglen yn iawn, a dweud y gwir roedd e'n dda, oherwydd er mod i'n cyfri S4C yn bwysig ac fod cadw annibyniaeth S4C yn bwysig dydw i ddim yn hapus gyda perfformiad ac arweiniad y Bwrdd dros y misoedd diwethaf.

Ond roedd y cwyn wnes i anfon mewn i'r BBC yn gwneud gyda rhan olaf y rhaglen yn unig oedd yn delio gyda polisi'r Llywodraeth o uno'r BBC ac S4C. Rhoed llais oedd o blaid ac yn amddiffyn yr uno sef Menna Richards ar ran y BBC ond ni roddwyd llais yn rhoi'r ddadl gref yn erbyn yr uno. Roedd hyn felly yn unochrog.

Jest oherwydd fod rhywbeth, ar hyn o bryd, yn crap dydy e ddim yn esgus i beidio ei amddiffyn yn erbyn gelynion y Gymraeg a Chymru. Mae fy mrawd weithiau yn ffwl ond fy mrawd i yw e ac felly yr ateb yw ei helpu fe i wella ac i'w amddiffyn nid ei gicio pan mae e ar y llawr neu fe fydda i, heb drio falle, wedi lladd fy mrawd.

Wrth weld y BBC yn traflyncu S4C rydym ni'n siarad am weld sefydliad Cymraeg a'i bencadlys yng Nghymru yn cael ei gymryd drosodd gan sefydliad Prydeinig a'i bencadlys yn Llundain. SMELL THE COFFE!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Week in Week Out - S4C

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 28 Hyd 2010 9:31 am

Cytuno gyda beth ddwedodd Rhys. Y darn am y BBC yn llyncu S4C oedd y broblem, dylid bod wedi rhoi ochr arall y ddadl. Cafodd y BBC ei bortreadu fel yr achubwr yn dod i achub S4C mewn cyfnod o angen, lle mewn gwirionedd doedd gan rheolwyr y BBC yn Llundain ddim unrhyw ddiddordeb yn S4C, dim ond eisiau gwneud cytundeb a fyddai'n golygu ychydig llai o doriadau iddyn nhw.

Ro'dd lot o'r rhaglen yn dda. Fi'n cytuno bod angen newidiadau mawr ar dop S4C, a dwi ddim yn hapus gyda perfformiad y sianel dros y ddegawd ddiwethaf. Ond rhaid cadw annibyniaeth S4C a rhaid cadw cyllid digonol hefyd.

Er nad oeddwn i'n hapus gyda agweddau o'r rhaglen, mae rhaglenni fel hyn yn holl bwysig. A fyddai y BBC wedi gwneud ymchwiliad manwl o S4C pe byddai S4C yn rhan o'r gorfforaeth? Bydd S4C yn barod i ymchwilio i mewn i agweddau o'r BBC os mai'r BBC sy'n rheoli'r cyllid?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Week in Week Out - S4C

Postiogan tom.j » Gwe 29 Hyd 2010 8:22 pm

Cael gwared ar John Walter Jones sydd ishe....
tom.j
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 12:03 pm


Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai

cron