gan Rhys Llwyd » Iau 28 Hyd 2010 9:14 am
Roedd hanner cyntaf y rhaglen yn iawn, a dweud y gwir roedd e'n dda, oherwydd er mod i'n cyfri S4C yn bwysig ac fod cadw annibyniaeth S4C yn bwysig dydw i ddim yn hapus gyda perfformiad ac arweiniad y Bwrdd dros y misoedd diwethaf.
Ond roedd y cwyn wnes i anfon mewn i'r BBC yn gwneud gyda rhan olaf y rhaglen yn unig oedd yn delio gyda polisi'r Llywodraeth o uno'r BBC ac S4C. Rhoed llais oedd o blaid ac yn amddiffyn yr uno sef Menna Richards ar ran y BBC ond ni roddwyd llais yn rhoi'r ddadl gref yn erbyn yr uno. Roedd hyn felly yn unochrog.
Jest oherwydd fod rhywbeth, ar hyn o bryd, yn crap dydy e ddim yn esgus i beidio ei amddiffyn yn erbyn gelynion y Gymraeg a Chymru. Mae fy mrawd weithiau yn ffwl ond fy mrawd i yw e ac felly yr ateb yw ei helpu fe i wella ac i'w amddiffyn nid ei gicio pan mae e ar y llawr neu fe fydda i, heb drio falle, wedi lladd fy mrawd.
Wrth weld y BBC yn traflyncu S4C rydym ni'n siarad am weld sefydliad Cymraeg a'i bencadlys yng Nghymru yn cael ei gymryd drosodd gan sefydliad Prydeinig a'i bencadlys yn Llundain. SMELL THE COFFE!