S4/Capwt: pwy sy'n atebol?

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

S4/Capwt: pwy sy'n atebol?

Postiogan Llygad Llo Mawr » Gwe 29 Hyd 2010 10:43 am

Dyma ddetholiad o'r hyn sydd gan S4C i'w ddweud ar eu gwefan ynglyn ag atebolrwydd cyhoeddus ein hoff sianel:

Mi fydd yr Awdurdod yn:
Cynnal S4C yn dryloyw, yn agored ac er budd y gwylwyr.
Bod yn atebol i’r trethdalwyr, trwy’r Senedd am ei gweithgarwch.
Cynnal S4C yn dryloyw, yn agored ac er budd gwylwyr S4C. Cadw at safonau uchel o lywodraethu corfforaethol.
Gweithredu o fewn y fframwaith statudol, pob amod perthnasol arall, ac o fewn llinellau clir o gyfrifoldeb ac yn annibynnol o Fwrdd S4C.
Lle bo’n briodol delio gyda chwynion yn y lle cyntaf.
Gwneud trefniadau priodol ar gyfer sicrhau ei bod yn derbyn gwybodaeth (gan gyrff annibynnol ac eraill) a rhoi sylw llawn i’r canlyniadau ar faterion yn ymwneud â:
cyflwr y farn gyhoeddus am raglenni a ddarlledir ar S4C; unrhyw effeithiau a gaiff rhaglenni o’r fath ar agweddau neu ymddygiad y gwylwyr; mathau o raglenni yr hoffai aelodau’r cyhoedd weld yn cael eu darlledu ar S4C.

Bod yn agored i’r cyhoedd ar sail gyson ac yn unol â safonau ymarfer gorau ar gyfer agoredrwydd mewn cyrff cyhoeddus. Gweithredu fel yr agoriad i’r cyhoedd gael dweud eu barn a derbyn gwybodaeth.
Gosod yr agenda ar gyfer cyfarfodydd yr Awdurdod a sicrhau bod yr Awdurdod yn derbyn gwybodaeth ddigonol (oddi wrth y Prif Weithredwr a ffynonellau mwyaf priodol) i’w galluogi i gyflawni ei dyletswyddau a’i gweithgareddau.
Mae gan y Swyddog Cyfrifo ddyletswydd i sicrhau bod yr Awdurdod, a’r Cadeirydd yn gweithredu yn unol â gofynion priodoldeb a rheoleidd-dra. Os nad ydynt rhaid i’r Swyddog Cyfrifo ddelio â’r mater mewn cydweithrediad gyda’r ADCCh.
Gweithredu mewn modd sy’n hybu masnach deg a chyfleodd cyfartal.
Trefnu bod cofnodion o’r cyfarfodydd ar gael i’r cyhoedd (yn ddarostyngedig i’r angen am gyfrinachedd a materion masnachol).
Gosod y fframwaith ar gyfer Rhyddid Gwybodaeth. Bod y gair olaf ar Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth o fewn S4C.
Mabwysiadu, cyhoeddi a pharhau i adolygu datganiad ar fasnach deg a chyfleodd cyfartal.


Nid rali sydd ei angen arnoch chi, ond twrna. Petasai pawb yng Nghymru fach sy'n pryderu ynglyn a dyfodol darlledu cyhoeddus yn y Gymraeg yn fodlon rhoi degpunt yr un mewn clamp o bot piso mawr a chael gafael ar gyfreithiwr gwerth ei halen, mi fyddai holl fwrdd rheoli Awdurdod S4/Capwt yn dilyn Iona Jones a Rhian Gibson cyn diwedd y flwyddyn, synnwn i damaid. Mae Zorro yn llygaid ei le: deffrwch, da chi. Os yw'r hun mae S4/Capwt yn honni - a hynny ar eu gwefan, sylwer - yn wir, yna mae'r gyfraith o'ch plaid chi. A pheidiwch a 'sgrifennu at y Guardian yn unig. Sgwennwch at Dispatches yn Channel 4. Mae rheini'n ymhyfrydu yn y ffaith eu bod yn dilyn traddodiad clodwiw World In Action o fynd ar ol straeon gafaelgar, rhai sydd angen ei dweud wrth y cyhoedd, fel bod cyfiawnder yn cael ei wneud unrhyw dro y bydd arian trethtalwyr yn cael ei wario nid yn unig yn anghyfrifol ond - fe'i honnir gan rai - yn angyhfreithlon yn enwedig os ydi'r corff hwnnw'n gorff cyhoeddus.

I'r pant y rhed y dwr, medd yr hen ddihareb. Giang o grwcs diegwyddor sydd wedi bod yn rhedeg y ffyrm ers tro byd, yn ol pob son; crwcs sydd yn eu tro, mae'n debyg, wedi bod yn sicrhau bod y rheini sy'n dipyn o hen lawia' hefo nhw, neu'n fodlon llyfu eu tina nhw, yn cael byw yn fras yn eu sgil. Yn y cyfamser, mae hi wedi mynd yn amen arnom ni cyn mor belled ag y mae rhaglenni o safon yn y cwestiwn, a'r hoff sianel wedi cael ei llurgeinio tan ein trwynau ni. A dyma ni, unwaith eto'n Nghymru annwyl, yn prysur godi pais ar ol piso.

Wyrach mai dyna fydd y gyfres nesa ar S4/Capwt ar ol yr holl doriadau 'ma: Dilyn hynt a helynt Aled Samuel wrth iddo fynd o amgylch tai bach Cymru. Mi redith honna am sbelan go lew ddyliwn i ...

Reit, mi fasa'n ffitiach i mi throi hi, i mi gael mynd i droi clos a dwys ystyried y dyfodol du sydd o'n blaenau ni fel cenedl.
Rhithffurf defnyddiwr
Llygad Llo Mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Iau 05 Awst 2010 10:43 pm

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron