S4/Celwydd Noeth

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

S4/Celwydd Noeth

Postiogan Llygad Llo Mawr » Sad 30 Hyd 2010 4:03 am

Y Byd ar Bedwar yw’r unig gyfres materion cyfoes sydd wedi bod ar S4C ers dyddiau cynta’r sianel yn 1982, ac mae’n un o gonglfeini’r gwasanaeth. Mae’r rhaglen yn cynnig newyddiaduraeth ymchwiliadol o’r safon uchaf, ac yn torri straeon newydd yn gyson. Mae’r tîm profiadol o newyddiadurwyr yn gweithio ar hyd a lled Cymru, ac yn chwilio am straeon newydd bob dydd.


Tewch a deud.

Dyma beth sydd ganddyn nhw ar ein cyfer ni wythnos nesa' 'ma:

Mae crôl tafarndai 'Carnage' yn ddigwyddiad cymdeithasol enfawr i fyfyrwyr. Ond mae'r cwmni wedi cael ei feirniadu am annog gor-yfed. Llanast lloerig neu hwyl ddiniwed? Ymunodd camerâu cudd Y Byd ar Bedwar â thaith Carnage ar draws Cymru a Prydain.


Onid ydi hi'n hen bryd i gamerâu cudd Y Byd ar Bedwar fynd am rhyw dro bach i lawr coridorau S4/Celwydd Noeth, dudwch, ac edrych i mewn i'r llanast sy'n digwydd ar eu stepan ddrws eu hunain? Newyddiaduraeth ymchwiliadol, wir. Peidiwch, da chi. Mae nhw'n codi cyfog arnai, y cwbwl lot ohonyn nhw. "World In Inaction" fydda'n gweddu'n well fel enw.
Rhithffurf defnyddiwr
Llygad Llo Mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Iau 05 Awst 2010 10:43 pm

Re: S4/Celwydd Noeth

Postiogan Kez » Sad 30 Hyd 2010 5:14 am

Ma'n dishgwl ifi fel bo rhywun ddim yn 'happy bunny' y bore 'ma - take a chill pill 'chan :)
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: S4/Celwydd Noeth

Postiogan Llygad Llo Mawr » Sad 30 Hyd 2010 2:37 pm

Pam? W't ti'n ddoctor?

Fuo mi ddim mor hapus fy myd ers spelan go lew, fel mae'n digwydd bod, Kes bach, ond awn ni ddim i mewn i betha' felly ar hyn o bryd. Gyda llaw, mi'r ydw i isho diolch i ti am ddangos ffasiwn gonsyrn ynglyn a fy iechyd i, ond a deud y gwir 'tha ti, mi fasa'n haws gen i orfadd ar wastad 'y nghefn yn syllu ar y ser uwchben a chael smocio hannar owns o Frython Shag :winc: na gorfod llyncu un o'r chill pills 'ma ti'n son am. Sbia be' sy'n digwydd i bobol pan ma' nhw'n cymyd ecstasi. A pheth arall, tra'r ydan ni wrthi hi:

"Speed kills." (Frank Zappa 1940 - 1993)
Rhithffurf defnyddiwr
Llygad Llo Mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Iau 05 Awst 2010 10:43 pm

Re: S4/Celwydd Noeth

Postiogan Duw » Sad 30 Hyd 2010 4:06 pm

Ho ho ho, Kez, dyna gweud wrthot ti! Neu do fe?? Gormod o'r hen shag os wyt ti gofyn i fi. :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: S4/Celwydd Noeth

Postiogan Kez » Sad 30 Hyd 2010 4:59 pm

Llygad Llo Mawr a ddywedodd:Pam? W't ti'n ddoctor?

Fuo mi ddim mor hapus fy myd ers spelan go lew, fel mae'n digwydd bod, Kes bach, ond awn ni ddim i mewn i betha' felly ar hyn o bryd. Gyda llaw, mi'r ydw i isho diolch i ti am ddangos ffasiwn gonsyrn ynglyn a fy iechyd i, ond a deud y gwir 'tha ti, mi fasa'n haws gen i orfadd ar wastad 'y nghefn yn syllu ar y ser uwchben a chael smocio hannar owns o Frython Shag :winc: na gorfod llyncu un o'r chill pills 'ma ti'n son am. Sbia be' sy'n digwydd i bobol pan ma' nhw'n cymyd ecstasi. A pheth arall, tra'r ydan ni wrthi hi:

"Speed kills." (Frank Zappa 1940 - 1993)


Ma'n dishgwl ifi fel bo rhywun ddim yn 'happy bunny' y prynhawn 'ma chwaith - have a lie-down 'chan :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: S4/Celwydd Noeth

Postiogan Llygad Llo Mawr » Sul 31 Hyd 2010 3:20 am

Zzzz...zzzz... zzzz...zzzz...
Rhithffurf defnyddiwr
Llygad Llo Mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Iau 05 Awst 2010 10:43 pm

Re: S4/Celwydd Noeth

Postiogan Rhys Aneurin » Sul 31 Hyd 2010 4:40 am

Dwi efo Llygad Llo Mawr ar hon.

Syniad gwell, be am fynd a JWJ ar Carnage. O leia wedyn efallai safo efo ryw fath o syniad o angenion pobl ifanc.
Rhys Aneurin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Sad 17 Mai 2008 12:33 pm

Re: S4/Celwydd Noeth

Postiogan afk » Maw 02 Tach 2010 2:15 pm

Ie i S4C Newydd?

O wefan S4C
Geraint Rowlands a Meirion Davies i arwain gwaith comisiynu S4C

01-Tach-2010

Apwyntiwyd Geraint Rowlands i swydd Cyfarwyddwr Comisiynu S4C am gyfnod o dri mis o 1 Tachwedd. Bydd Meirion Davies yn cymryd at y swydd ar 1 Chwefror 2011 am dri mis arall.

Geraint Rowlands yw Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C a Meirion Davies yw Pennaeth Cynnwys y Sianel.


Na i unrhyw newid o gwbwl?

Y ffaith drist ydy trwy gymryd reolaeth S4C oddiwrth idiots mewn awdurdod a'i rhoi i'r BBC mae'r Toriaid yn achub iaith a diwylliant Cymru.

Trafodwch.
afk
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2010 2:37 pm

Re: S4/Celwydd Noeth

Postiogan Duw » Maw 02 Tach 2010 7:14 pm

Trafodwch.
:ofn:

Y toriade sy'n fy mecso i. Alla i ddim anghytuno gyda dy sylw ar y personél. 'Shift happens' dylai fod, er mae :seiclops: y sianel yn cloddio'n bellach i'r dyfnderoedd.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron