Y Byd ar Bedwar yw’r unig gyfres materion cyfoes sydd wedi bod ar S4C ers dyddiau cynta’r sianel yn 1982, ac mae’n un o gonglfeini’r gwasanaeth. Mae’r rhaglen yn cynnig newyddiaduraeth ymchwiliadol o’r safon uchaf, ac yn torri straeon newydd yn gyson. Mae’r tîm profiadol o newyddiadurwyr yn gweithio ar hyd a lled Cymru, ac yn chwilio am straeon newydd bob dydd.
Tewch a deud.
Dyma beth sydd ganddyn nhw ar ein cyfer ni wythnos nesa' 'ma:
Mae crôl tafarndai 'Carnage' yn ddigwyddiad cymdeithasol enfawr i fyfyrwyr. Ond mae'r cwmni wedi cael ei feirniadu am annog gor-yfed. Llanast lloerig neu hwyl ddiniwed? Ymunodd camerâu cudd Y Byd ar Bedwar â thaith Carnage ar draws Cymru a Prydain.
Onid ydi hi'n hen bryd i gamerâu cudd Y Byd ar Bedwar fynd am rhyw dro bach i lawr coridorau S4/Celwydd Noeth, dudwch, ac edrych i mewn i'r llanast sy'n digwydd ar eu stepan ddrws eu hunain? Newyddiaduraeth ymchwiliadol, wir. Peidiwch, da chi. Mae nhw'n codi cyfog arnai, y cwbwl lot ohonyn nhw. "World In Inaction" fydda'n gweddu'n well fel enw.