Apwyntiwyd Geraint Rowlands i swydd Cyfarwyddwr Comisiynu S4C am gyfnod o dri mis o 1 Tachwedd. Bydd Meirion Davies yn cymryd at y swydd ar 1 Chwefror 2011 am dri mis arall.
Os ydi prif weithredwr a chomisiynydd rhaglenni S4/Catastroff ill dau wedi cael yr hwi, sut mae'r ddau gono yma nid yn unig yn dal i gadw eu swyddi ond yn cael blydi dyrchafiad? Y? Wn i ddim byd am y boi sy wedi cael ei ddewis i chwara'n gol yn ystod y ffyrst haff ('roedd o'n arfar chwara i dim ffeif-e-seid Bibisiwels, me' nhw) - ond mae'r boi sy'n dwad 'on' fel syb ar ol haff-teim efo lot o brofiad o neidio o gwmpas a gneud rhyw giamocs gwirion o flaen y camera, fel ma' ffwtbolars mawr y Prymiar Lig 'ma i gyd dyddia' yma:
http://www.youtube.com/watch?v=TWBsxVFgesY
Fo ydi'r un cwta o'r ddau, gyda llaw. Ma'r mawr dros 'i ddwy lathan, ond yr un sy' ddim cweit llawn lathan sy' gynno ni yn gol yn ystod misoedd llwm y gaea' nesa 'ma.
Ac os eith hi i mewn i ecstra teim ar ol chwe mis o gicio syniada' ffwcin gwirion o gwmpas y lle, ma' 'na rhywun sy'n hannar Cymro ag sy'n torri i' fol isho cael chwara'n y tim:
http://www.youtube.com/watch?v=usOg34kG-IA
Fel dudodd Peli: ffwtbol, it's e gem yf tw haffs, met. Mi'r ydw i'n rhyw led-obeithio yr eith hi i mewn i ecstra-teim a deud gwir. A wedyn gorffan hefo penalti shwt-owts.
Cyn y ffeinal wisyl ...