Amserlen newydd C2

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Amserlen newydd C2

Postiogan Cyfrifiadur » Llun 08 Tach 2010 5:49 pm

O heddiw bydd amserlen C2 yn cael ail-wampiad :D

7-8 Dodd.com (Byw ar y we)
8-10 Lisa Gwilym
10-12 Llun - Huw Stephens, Maw: Ifan Evans Mer: Amrywiol Iau: Daniel Glyn Gwen: Huw Evans
12-1 Ail-ddarllediad Dodd.com

Gret gweld Lisa Gwilym yn cael dyrchafiad i fod yn wyneb newydd C2. Gobeithio fod hyn yn dangos shifft tuag at delwedd fwy grown yp hefo ffocws ar gerddoriaeth. Huw Evans yn nol ar yr orsaf - or diwedd :D a 'ma cal Daniel Glyn ymlaen awr yn gynt yn syniad da 'fyd.
Dwi'm yn siwr am bo mor hir neith Dodd.com bara, mar raglen fod i adlewyrchu taith C2 felly mae'n debyg ei fod yn sicr o cael disgyblion o'r ysgol sy'n cael ei arddangos i diwnio fewn, ond pa mor hir tan fod Gruff Lynch yn cyflwyno hanner y sioeau? A hefyd, Glyn wedi mynd hwwwwwwreeeeeeeee!

Mwf da gan C2 dwi'n meddwl :)
Cyfrifiadur
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Iau 11 Meh 2009 3:14 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Amserlen newydd C2

Postiogan osian » Iau 11 Tach 2010 12:20 pm

Gwych o'r hyn dwi 'di glywed. Os oes rhaid cael slot o 10 awr yr wythnos i unrhywun, Lisa Gwilym ydi'r person i'w gael o.
Nesh i glywad rhaglen Georgia Ruth Williams neithiwr (11-12), oedd yn wych.
Falch fod Huw Evans wedi cael slot o'r diwedd 'fyd.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Amserlen newydd C2

Postiogan Ramirez » Iau 11 Tach 2010 12:34 pm

osian a ddywedodd:Gwych o'r hyn dwi 'di glywed. Os oes rhaid cael slot o 10 awr yr wythnos i unrhywun, Lisa Gwilym ydi'r person i'w gael o.
Nesh i glywad rhaglen Georgia Ruth Williams neithiwr (11-12), oedd yn wych.
Falch fod Huw Evans wedi cael slot o'r diwedd 'fyd.


Cytuno. Mi oedd rhaglen Georgia Ruth Williams yn ffantastig, a mae rhaglen Lisa wastad yn werth gwrando arni.
Dwi yn ei weld o'n biti fod rhaglen Magi Dodd wedi mynd - dwi wastad wedi meddwl ei bod hi'n gyflwynwraig dda, ac yn siwtio sioe felly i'r dim.

Huw Evans ar yr awyr wastad yn newyddion da.

Heb wrando ar sioe'r ffarmwr, a dwi erioed wedi mwynhau rhaglenni Daniel Glyn chwaith, ond jysd fi ydi hynny.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Amserlen newydd C2

Postiogan osian » Iau 11 Tach 2010 12:48 pm

Ramirez a ddywedodd:Dwi yn ei weld o'n biti fod rhaglen Magi Dodd wedi mynd - dwi wastad wedi meddwl ei bod hi'n gyflwynwraig dda, ac yn siwtio sioe felly i'r dim.

Dydi hi ddim - mai rhaglan hi ar y radio o 12-1 bob nos. Oedd 2awr yn ormod dwi'n meddwl, ond ma' slot felna yn iawn.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Amserlen newydd C2

Postiogan Ramirez » Iau 11 Tach 2010 1:00 pm

osian a ddywedodd:
Ramirez a ddywedodd:Dwi yn ei weld o'n biti fod rhaglen Magi Dodd wedi mynd - dwi wastad wedi meddwl ei bod hi'n gyflwynwraig dda, ac yn siwtio sioe felly i'r dim.

Dydi hi ddim - mai rhaglan hi ar y radio o 12-1 bob nos. Oedd 2awr yn ormod dwi'n meddwl, ond ma' slot felna yn iawn.


Ia, ond fymryn yn od dio rhwng 12 ac 1am a'r sioe yn son am "beth sydd i ddod cyn 8 heno" a ballu.

Ta waeth, ar y cyfan, dwi'n joio'n arw.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Amserlen newydd C2

Postiogan EsAi » Sad 13 Tach 2010 8:47 pm

Lisa Gwilym. hen bryd
Rhithffurf defnyddiwr
EsAi
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 436
Ymunwyd: Llun 08 Maw 2004 11:43 am

Re: Amserlen newydd C2

Postiogan bartiddu » Sul 14 Tach 2010 1:21 pm

EsAi a ddywedodd:Lisa Gwilym. hen bryd


Oni'n gwrando nos wener ac yn mwynhau, oedd y Rhys boi na o T.P. yn cyfuno'n dda 'da LG hefyd, radio difyrrus! :)
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Re: Amserlen newydd C2

Postiogan Meri » Sul 05 Rhag 2010 8:23 am

Dwi'n colli Magi Dodd i ddweud y gwir.Roedd hi'n frwdfrydig, diddorol, bywiog ac yn cefnogi grwpiau ifanc. Allwch chi ddim gwrando ar y we wrth deithio yn y car felly dewch a hi yn ôl!!!
Meri
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Sul 07 Maw 2010 9:11 am

Re: Amserlen newydd C2

Postiogan Khmer » Llun 06 Rhag 2010 11:30 am

Meri a ddywedodd:Dwi'n colli Magi Dodd i ddweud y gwir.Roedd hi'n frwdfrydig, diddorol, bywiog ac yn cefnogi grwpiau ifanc. Allwch chi ddim gwrando ar y we wrth deithio yn y car felly dewch a hi yn ôl!!!


Cytuno. O leia allen i glywed swn ifanc newydd ar hwnna. Ma Lisa Gwilym, er yn gyflwynwraig hyfryd, yn swnio yn hollol dated yn y slot mae hi'n gyflwyno. Di e ddim yn swnio fel C2 rhagor, just estyniad o Radio Cymru..Hyn yn wir am Ifan hefyd ar nos fawrth a dwi dal heb glywed ae yn dweud y term 'C2' hyd yn oed jest radio Cymru.

Huw Evans yn wych ar Nos Wener dwi meddwl er nad ydw i yn or hoff o'r gerddoriaeth mae'n chware mae'n ddifyr iawn!
Khmer
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Mer 29 Medi 2010 12:42 pm

Re: Amserlen newydd C2

Postiogan Meri » Mer 08 Rhag 2010 1:52 pm

Fase'n fwy addas cael rhaglen Lisa Gwilym rhwng 6-8 a Magi Dodd yn ol rhwng 8-10.
Meri
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Sul 07 Maw 2010 9:11 am

Nesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai