Khmer a ddywedodd:Ma Lisa Gwilym, er yn gyflwynwraig hyfryd, yn swnio yn hollol dated yn y slot mae hi'n gyflwyno. Di e ddim yn swnio fel C2 rhagor, just estyniad o Radio Cymru..Hyn yn wir am Ifan hefyd ar nos fawrth a dwi dal heb glywed ae yn dweud y term 'C2' hyd yn oed jest radio Cymru.
Huw Evans yn wych ar Nos Wener dwi meddwl er nad ydw i yn or hoff o'r gerddoriaeth mae'n chware mae'n ddifyr iawn!
Meri a ddywedodd:Fase'n fwy addas cael rhaglen Lisa Gwilym rhwng 6-8 a Magi Dodd yn ol rhwng 8-10.
Diddorol. Ma Lisa Gwilym yn iawn dwi meddwl, er bod slot 6:30-8 yn rhywbath i feddwl amdano fo ella. Mond unwaith dwi 'di clywad Ifan Evans, pan oeddo yn cynnig lifft ar Ifan yr Injan i Miss Cymru... pawb at y peth a bo.
O ran Magi Dodd, dwi meddwl bod y slot yn un da - licio'r syniad o ganolbwyntio ar daith ysgolion C2 (lle arall mae gwrandawyr newydd am ddod?), ond heb gymryd drosodd 2awr o ddarlledu.