JONATHAN ETC

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: JONATHAN ETC

Postiogan tom.j » Iau 17 Chw 2011 9:04 pm

Gall rhywun ddweud wrtha i pwy ddiawl ddwedodd wrth Jonathan Davies ei fod e'n gallu cyflwyno? A'i efallai yr un person a ddywedodd wrth Emyr Wyn ei fod e'n gallu actio????
tom.j
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 12:03 pm

Re: JONATHAN ETC

Postiogan zorro » Llun 21 Chw 2011 1:30 am

Wel, yn ôl beth 'rwy 'di gweld :

Mae Jonathan Davies yn crap cyflwynydd
Mae'r rhaglen wedi llwyr rhedeg ei gwrs
'Does dim rheswm yn y byd pam ddylai oroesi
Rhowch o lawr ac allan o'i boenai !!
zorro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Mer 14 Ion 2009 11:23 pm

Re: JONATHAN ETC

Postiogan ceribethlem » Llun 21 Chw 2011 10:11 am

Ac mae'n cael ei dalu i gyflwyno rhaglen Cymraeg, er fod ei sylwadau cyhoeddus (a'i blant uniaith Saesneg) yn awgrymu nad yw'n gweld yr iaith yn bwysig. Gwaeth na hynny, mae ei sylwadau yn awgrymu nad iaith ar gyfer yr oes fodern yw hi.

Cont.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: JONATHAN ETC

Postiogan Duw » Llun 21 Chw 2011 6:07 pm

Wel, neb i'w wylio 'te. Caiff y rhaglen 0 views ac aiff lawer mewn hanes fel y 100 rhaglen arall gan s4C! :crechwen:
Mae e wastod wedi taro fi fel pwrs hunanol. Na'i byth anghofio pan wnaeth Lloegr ein curo, a'r peth cynta 'naeth e ar ddiwedd y gem oedd rhiteg lan i Jermey Guscott a chudio ynddo, gyda gwen o glust i glust. Os oeddwn i ar y ca' wedi colli i'r hen elyn, ffrindie neu bido, ffilen i roi gwen ar fy tsiops salw. Pwrs o'r radd gynta. Gorwedda mewn uffern. (braidd yn gryf? :ffeit: )
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: JONATHAN ETC

Postiogan Khmer » Llun 21 Chw 2011 11:20 pm

ceribethlem a ddywedodd:Ac mae'n cael ei dalu i gyflwyno rhaglen Cymraeg, er fod ei sylwadau cyhoeddus (a'i blant uniaith Saesneg) yn awgrymu nad yw'n gweld yr iaith yn bwysig. Gwaeth na hynny, mae ei sylwadau yn awgrymu nad iaith ar gyfer yr oes fodern yw hi.

Cont.


Cytuno gyda sylwadau am rhaglen deledu Jonathan ar sail y cynnwys ei hun. Ond mae beirniadu y rhaglen ar sail ei blant pan mae'ch ffeithiau chi mor anghywir yn warthus. Dwi ddim yn nabod y teulu i gyd nac yn nabod Jonathan ei hun, ond dwi yn nabod ei fab sydd yn RHUGL yn yr iaith Gymraeg oherwydd i iaith yr aelwyd fod yn ddwyieithog. Allai hefyd ddweud mai un o'i ddiddordebau mawr yw ymddiddori yng ngherddoriaeth Cymraeg yr SRG. Eto, gwarthus yw clywed unigolion yn palu celwyddau am rhywun a) da chi ddim yn adnabod a b) wedi cael ffeithiau yn gwbwl anghywir
Khmer
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Mer 29 Medi 2010 12:42 pm

Re: JONATHAN ETC

Postiogan tom.j » Llun 21 Chw 2011 11:41 pm

Dwi ddim yn credu bo neb yn beirniadu'r rhaglen ar sail ei blant. Y feirniadaeth fan yna yw iddo dynnu ei blant allan o Ysgol Gymraeg er mwyn iddyn nhw fynd i Ysgol Saesneg. Rhyddid yr unigolyn ag ati - cytuno, ond dwi ffaelu deall sut y gall Cymry Cymraeg wneud hynny! Ta beth - cwyno ydw i am safon ei gyflwyno yn y Gymraeg ar y teledu. Ma' hwnna'n warthus hefyd!
tom.j
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 12:03 pm

Re: JONATHAN ETC

Postiogan Duw » Maw 22 Chw 2011 10:00 am

Dwi'n cwyno amdano ef yn bersonol. Digon clir i ti Khmer?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: JONATHAN ETC

Postiogan ceribethlem » Maw 22 Chw 2011 12:32 pm

Khmer a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Ac mae'n cael ei dalu i gyflwyno rhaglen Cymraeg, er fod ei sylwadau cyhoeddus (a'i blant uniaith Saesneg) yn awgrymu nad yw'n gweld yr iaith yn bwysig. Gwaeth na hynny, mae ei sylwadau yn awgrymu nad iaith ar gyfer yr oes fodern yw hi.

Cont.


Cytuno gyda sylwadau am rhaglen deledu Jonathan ar sail y cynnwys ei hun. Ond mae beirniadu y rhaglen ar sail ei blant pan mae'ch ffeithiau chi mor anghywir yn warthus. Dwi ddim yn nabod y teulu i gyd nac yn nabod Jonathan ei hun, ond dwi yn nabod ei fab sydd yn RHUGL yn yr iaith Gymraeg oherwydd i iaith yr aelwyd fod yn ddwyieithog. Allai hefyd ddweud mai un o'i ddiddordebau mawr yw ymddiddori yng ngherddoriaeth Cymraeg yr SRG. Eto, gwarthus yw clywed unigolion yn palu celwyddau am rhywun a) da chi ddim yn adnabod a b) wedi cael ffeithiau yn gwbwl anghywir


Darllen y peth eto, sneb yn beirniadu ar sail ei blant. Fi'n son am agwedd Jonathan at yr iaith, sy'n cynnwys danfon ei blant i ysgol Saesneg, siarad Saesneg a nhw (a ffaith yw hyn achos fi wedi ei glywed), a chondemio dyfarnwr rygbi proffesiynol am ddefnyddio'r iaith Gymraeg mewn gem. Dyw'r tri peth yna ddimyn awgrymu rhywun sy'n credu fod yr iaith Gymraeg yn bwysig.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: JONATHAN ETC

Postiogan Siani Flewog » Maw 01 Maw 2011 9:40 pm

Coc oen ydy Jonathan. Er, dwi'n dal i fwynhau'r raglen - mae'n dibynnu pwy ydy'r gwesteion. Dwi'n colli Rowland yn uffernol, allai'm diodde'r Rhian 'na, embaras llwyr a dwi'n rhoi'r FWD ar y control Sky i'w hosgoi.
Siani Flewog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 21
Ymunwyd: Gwe 02 Mai 2008 7:57 pm

Nôl

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron