JONATHAN ETC

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

JONATHAN ETC

Postiogan tom.j » Gwe 19 Tach 2010 12:51 am

Oes rhywun arall yn meddwl bo rhaglen Jonathan wedi chwythu'i phlwc? Cyfresi cynta yn ok ond bellach yn boenus i'w gwylio..a Jonathan falle yn haeddu'r teitl 'Cyflwynydd Gwaetha S4C'.
tom.j
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 12:03 pm

Re: JONATHAN ETC

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 19 Tach 2010 9:15 am

Pan ddaeth y gyfres ar yn gynta roedd hi'n un o'r pethau gorau ar S4C ar y pryd - ro'n i'n coleg ac roedda ni'n aml yn ista lawr i'w gwylio hi a mwynhau, achos roedd hi'n rwbath ffresh, ond bellach ydi, mae hi'n stêl. Mae'r syniad o hyd yn dda ond dydi pethau jyst ddim yn gweithio gystal, nid bai'r sioe ei hun ydi hynny mewn ffordd achos mae'n rhywbeth sy'n digwydd i bob sioe o'i bath yn gymharol gyflym, hnyny ydi bod novelty'r peth efo sell-by-date eitha pendant. Gellir yn hawdd gwneud fwy neu lai'r un peth jyst gyda wynebau newydd, set newydd ac elfennau newydd.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: JONATHAN ETC

Postiogan Gowpi » Llun 06 Rhag 2010 4:51 pm

Cytuno. Nes i wirioneddol fwynhau'r gyfres (neu ddwy) gyntaf, a wy'n meddwl bod Sarra Elgan yn dda iawn, ac mae'n llai 'Seisnig' heb Rowland Phillips (sy'n beth da), ond mae'n fflat nawr, a pam fod Jonathan o hyd yn dweud "dewch nol aton ni os nad ych chi wedi cwmpo i gysgu" felse bod e'n cytuno a ni?! Crinj... Sylwi mai y brodyr Glyn odd yn neud y sgript i ddechre, ond erbyn y gyfres hon, mae 'na rhyw 4 person yn ei sgriptio a hwnnw'n cael ei GYFIEITHU gan Caryl Parry Jones!! Falle bod hynny a rhywbeth i wneud a'r broblem...?
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Re: JONATHAN ETC

Postiogan Duw » Llun 06 Rhag 2010 10:34 pm

Felly mae'r rhaglen wedi gwaethygu ond mae tomen mwy o arian yn cael ei wario arni? Wel, wel, dyna syrpreis! S4C ar ei ore. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: JONATHAN ETC

Postiogan ceribethlem » Maw 07 Rhag 2010 9:49 am

Mae'r rhaglen yn shit a mae'r boi yn goc. Mae'n ddigon hapus i dderbyn arian wrth S4C am ei fod yn medru'r iaith ei hunan, ond yn barnu pobol fel Nigel Owens am ei ddefnyddio mewn byd proffesiynol; ac mae wedi danfon ei blant i gael addysg uniaith Saesneg.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: JONATHAN ETC

Postiogan Ray Diota » Maw 07 Rhag 2010 11:10 am

ceribethlem a ddywedodd:Mae'r rhaglen yn shit a mae'r boi yn goc.


:lol:

paid iste ar y ffens!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: JONATHAN ETC

Postiogan Rhys Aneurin » Maw 07 Rhag 2010 3:44 pm

ceribethlem a ddywedodd:Mae'r rhaglen yn shit a mae'r boi yn goc. Mae'n ddigon hapus i dderbyn arian wrth S4C am ei fod yn medru'r iaith ei hunan, ond yn barnu pobol fel Nigel Owens am ei ddefnyddio mewn byd proffesiynol; ac mae wedi danfon ei blant i gael addysg uniaith Saesneg.





Oni'm yn gwybod hyna. Waw, go iawn, am goc.
Rhys Aneurin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Sad 17 Mai 2008 12:33 pm

Re: JONATHAN ETC

Postiogan bed123 » Maw 07 Rhag 2010 4:03 pm

Am ddyn rhyfedd yw Jonanthan Davies. Wedi wneud yn dda iawn dros y blynyddoedd allan o'r iaith Gymraeg i gynnal ei fywydd cyfforddus, dosbarth canol, hefo'i dy grand a giat trydan ar ei dreif. A wedyn yn lladd ar bobl eraill sy'n defnyddio'r iaith mewn bywyd proffesiynol, a gyrru ei blant i ysgol uniaith Saesneg. Ie, dyn rhyfedd iawn.
bed123
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Mer 11 Chw 2009 2:25 pm

Re: JONATHAN ETC

Postiogan Josgin » Maw 07 Rhag 2010 4:44 pm

Be ydi'r cefndir yma ? - yr oeddwn i'n tybio nad oedd y Gymraeg yn uchel ar restr jonathan davies, ond pryd y beirniadodd o Nigel Owens ?
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: JONATHAN ETC

Postiogan osian » Maw 07 Rhag 2010 5:39 pm

Josgin a ddywedodd:Be ydi'r cefndir yma ? - yr oeddwn i'n tybio nad oedd y Gymraeg yn uchel ar restr jonathan davies, ond pryd y beirniadodd o Nigel Owens ?

Mi na'th Nigel Owens siarad Cymraeg wrth brop y Gweilch(?) mewn gêm yn erbyn Leinster(?). Dadl Jonathan Davies oedd y dylai o fod wedi siarad Saesneg er mwyn i brop Leinster allu deall. Mi oedd Nigel Owens yn dadlau nad oedd gan yr hyn oedd o'n ddeud ddim i'w neud â prop Leinster, ac y bydda fo wedi cyfeithu os oedd neu os fyddai rhywun wedi gofyn

Lle oedd dadl Jonathan yn disgyn yn ddarnau oedd pan nath o wrthod derbyn fod y sefyllfa union 'run fath â dyfarnwr o Ffrainc yn siarad Ffrangeg â chwaraewr o Ffrainc mewn gêm rhwng Tolouse a'r Sgarlets er enghraifft. Doedd o ddim yn gweld dim o'i le ar hynny.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Nesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron