JONATHAN ETC

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: JONATHAN ETC

Postiogan Rhys Aneurin » Maw 07 Rhag 2010 6:09 pm

Gwarth de.

Mae hynnu'n digio fi pan mae pobl yn gwneud pres hynod o dda oddi ar gefn yr iaith, ond eto yn gwrthod ei hybu.

Gashi sioc tebyg pan nashi glywed fod rhai aelodau (enwedig un oni hollol ddim yn disgwl) o gast Pobol y Cwm yn gwrthod siarad Cymraeg oddi ar y camera.
Rhys Aneurin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Sad 17 Mai 2008 12:33 pm

Re: JONATHAN ETC

Postiogan bed123 » Maw 07 Rhag 2010 6:28 pm

Rhys Aneurin a ddywedodd:Gwarth de.

Mae hynnu'n digio fi pan mae pobl yn gwneud pres hynod o dda oddi ar gefn yr iaith, ond eto yn gwrthod ei hybu.

Gashi sioc tebyg pan nashi glywed fod rhai aelodau (enwedig un oni hollol ddim yn disgwl) o gast Pobol y Cwm yn gwrthod siarad Cymraeg oddi ar y camera.

Ti'n jocan?? Pa un o'r gast? All ti rhoi hint i fi? Cytuno, gas gennyyf bobl dau wynebog. Pa wlad arall lle mae bobl yn trin eu iaith eu hunain mor sarhaus? Weithiau mae Cymru yn neud fi'n benwan.
bed123
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Mer 11 Chw 2009 2:25 pm

Re: JONATHAN ETC

Postiogan Rhys Aneurin » Maw 07 Rhag 2010 7:09 pm

Wel dwi'm yn gwybod os dion wir, ond genai ffynhonell reit ddibenadwy. Dwi'm am ddweud dim mwy, oherwydd mana wastad siawns tydio ddim yn wir.
Ond gashi sioc pan nashi glwad.
Rhys Aneurin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Sad 17 Mai 2008 12:33 pm

Re: JONATHAN ETC

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 07 Rhag 2010 8:29 pm

Rhys Aneurin a ddywedodd:Wel dwi'm yn gwybod os dion wir, ond genai ffynhonell reit ddibenadwy. Dwi'm am ddweud dim mwy, oherwydd mana wastad siawns tydio ddim yn wir.
Ond gashi sioc pan nashi glwad.

Dwi'n gwbod pwy ti'n sôn am ... un o'r rhai lleia tebyg os rwbath!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: JONATHAN ETC

Postiogan osian » Maw 07 Rhag 2010 8:56 pm

:o Dai Sgaffalde?!
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: JONATHAN ETC

Postiogan Rhys Aneurin » Maw 07 Rhag 2010 9:08 pm

osian a ddywedodd::o Dai Sgaffalde?!

Na.
Rhys Aneurin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Sad 17 Mai 2008 12:33 pm

Re: JONATHAN ETC

Postiogan Duw » Maw 07 Rhag 2010 10:11 pm

Cofio gweld Jonners yn siarad Saesneg â'i blant. Ffiles i ddeall pam ar y pryd. Ro'n i'n meddwl taw plant rhywun arall oedden nhw tan i un o nhw ei alw'n 'dad'. Ffwrch.

Un o arwyr y byd rygbi, ond un o fradwyr yr iaith Gymraeg. Twll ei dîn e. Gwnaeth y geiniog ei dynnu i Loegr ac mae'r geiniog yn dal yn gwneud putain allan ohono. :x

Dyw ei sylw ar Nigel Owens ddim yn fy synnu o gwbl. Er, unrhyw un wedi sylwi ar ba mor debyg yw'r ddau? NO yn edrych fel JD ar steroids. Rhaid eu bod nhw'n perthyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: JONATHAN ETC

Postiogan ceribethlem » Mer 08 Rhag 2010 9:06 am

osian a ddywedodd:
Josgin a ddywedodd:Be ydi'r cefndir yma ? - yr oeddwn i'n tybio nad oedd y Gymraeg yn uchel ar restr jonathan davies, ond pryd y beirniadodd o Nigel Owens ?

Mi na'th Nigel Owens siarad Cymraeg wrth fachwr y Sgarlets mewn gêm yn erbyn Leinster. Dadl Jonathan Davies oedd y dylai o fod wedi siarad Saesneg er mwyn i fachwr Leinster allu deall. Mi oedd Nigel Owens yn dadlau nad oedd gan yr hyn oedd o'n ddeud ddim i'w neud â prop Leinster, ac y bydda fo wedi cyfeithu os oedd neu os fyddai rhywun wedi gofyn

Lle oedd dadl Jonathan yn disgyn yn ddarnau oedd pan nath o wrthod derbyn fod y sefyllfa union 'run fath â dyfarnwr o Ffrainc yn siarad Ffrangeg â chwaraewr o Ffrainc mewn gêm rhwng Tolouse a'r Sgarlets er enghraifft. Doedd o ddim yn gweld dim o'i le ar hynny.

Wedi trwsio fe i ti :winc:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: JONATHAN ETC

Postiogan osian » Mer 08 Rhag 2010 9:53 am

ceribethlem a ddywedodd:

damia!
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: JONATHAN ETC

Postiogan ceribethlem » Mer 08 Rhag 2010 11:17 am

osian a ddywedodd::o Dai Sgaffalde?!

Glywi di byth mo Emyr Wyn yn siarad Saesneg!
Fi'n edrych mlaen i fynd ar stag night uniaith Gymraeg gydag e cyn hir :D
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Majestic-12 [Bot] a 19 gwestai

cron