John Walter Jones wedi mynd... neu ydi o??

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

John Walter Jones wedi mynd... neu ydi o??

Postiogan AllBran » Mer 24 Tach 2010 9:24 pm

Mae S4C yn dweud ei fod o http://www.s4c.co.uk/c_press_level2.shtml?id=422
Cadeirydd S4C yn cadarnhau ei ymddiswyddiad
24/11/2010
Cadarnhaodd John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, i’w gyd-aelodau ar yr Awdurdod nos Fawrth (23 Tachwedd) ei fod wedi cyflwyno’i ymddiswyddiad i’r Ysgrifennydd dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS). Mae hyn yn dilyn cyfarfod rhyngddo a’r Ysgrifennydd Gwladol ar 16 Tachwedd. Dywedodd Mr Jones wedyn wrth yr Awdurdod fod yr ymddiswyddiad yn effeithiol yn syth. Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod S4C heno (nos Fercher 24 Tachwedd), “Nid ydym wedi derbyn cadarnhad o’r penderfyniad oddi wrth y DCMS ac nid ydym wedi clywed gan Mr Jones ers y cyfarfod neithiwr.” Yn dilyn cyhoeddiad John Walter Jones, bu’r Awdurdod yn ystyried y ffordd orau o symud ymlaen er mwyn sicrhau dilyniant ac arweiniad i’r Sianel ac apwyntiwyd is-gadeirydd. Etholwyd Rheon Tomos yn unfrydol fel is-gadeirydd yr Awdurdod. Dywedodd y llefarydd, “Mae’r Awdurdod wedi bod yn gytûn erioed ynghylch pwysigrwydd trafodaethau gyda DCMS a’r BBC ynglŷn â chyfeiriad S4C yn y dyfodol. Cynhaliwyd cyfarfodydd eisoes gyda DCMS ac Ymddiriedolaeth y BBC a chynhelir cyfarfod arall wythnos nesaf.”
Diwedd


Ond, yn ol BBC Cymru, mae o, a'r Llywodraeth, yn deud nad ydi o wedi mynd:
http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9220000/newsid_9224700/9224790.stm

Llanast llwyr. :?
Neu yng ngeiria Vaughan Roderick: "traed moch"
AllBran
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 5:53 am

Re: John Walter Jones wedi mynd... neu ydi o??

Postiogan Llygad Llo Mawr » Iau 25 Tach 2010 7:00 am

Traed moch a thestun sbort, tu mewn a thu allan i Gymru fach, ddyliwn i. Mae hi'n anodd iawn cymeryd y peth o ddifri. Darlledu yn y Gymraeg? Lle bu camp bu rhemp.
Rhithffurf defnyddiwr
Llygad Llo Mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Iau 05 Awst 2010 10:43 pm

Re: John Walter Jones wedi mynd... neu ydi o??

Postiogan Jon Sais » Iau 25 Tach 2010 3:05 pm

Oes gobaith i'r sianel?
:(

Llygad Llo Mawr a ddywedodd:Traed moch a thestun sbort, tu mewn a thu allan i Gymru fach, ddyliwn i. Mae hi'n anodd iawn cymeryd y peth o ddifri. Darlledu yn y Gymraeg? Lle bu camp bu rhemp.
Jon Sais
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 39
Ymunwyd: Sul 21 Mai 2006 6:14 pm
Lleoliad: Swydd Derby

Re: John Walter Jones wedi mynd... neu ydi o??

Postiogan Josgin » Iau 25 Tach 2010 5:50 pm

Dyma un o'r rhesymau mae rhai ohonom yn gyndyn o weiddi'n groch o blaid y sianel, er cymaint y gwnaethom frwydro dros ei sefydlu.
Mae rhywun yn poeni fod gwrthwynebwyr y sianel yn cael bwled ar ol bwled. Mae un Seithennyn meddw a hunan-fodlon ar ol y llall wedi
bod yn gyfrifol am fethiant S4C . Ta ta cyfryngis cyfoethog Caerdydd . Croeso nol i Gymru.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: John Walter Jones wedi mynd... neu ydi o??

Postiogan tom.j » Iau 25 Tach 2010 11:51 pm

[quote="Jon Sais"]Oes gobaith i'r sianel?
:(

Oes heb John Walter Jones a'r Awdurdod!
tom.j
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 12:03 pm

Re: John Walter Jones wedi mynd... neu ydi o??

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Gwe 26 Tach 2010 4:06 pm

Tybiaf fod nawr yn gyfle da i faes-e fagu nerth newydd a chael mymryn o ddylanwad parthed trafferthion s4c...
Dwi'n fodlon betio fod rhai sydd ddim eto wedi neidio i'r mor oddi ar y 'titanic' yn darllen maes-e? :D
'Roeddwn wedi gobeithio fod John Waltz yn ddigon profiadol (BYIG ayyb) i beidio gwneud camgymeriad plentyn ysgol (hynny yw-os ydi fy nealltwriaeth i yn iawn- ymddiswyddo wedyn newid ei fedwl???!!!.)
A oes yna rywun ar ol ym Mharc Ty Glas sydd yn gallu (maddeuwch fy Nghymraeg sal) trefnu sesh mewn ty tafarn?
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant


Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron