Ardderchog, gwaith camera anhygoel, pace y rhaglen yn berffaith, cyfweliadau cynnil cryf, llais hyfryd a'r ton yn spot on. Neud ifi ishio symud i fyw ar Y Fenai. Campwaith - da iawn S4C
Re: Y Fenai
Postiwyd: Iau 16 Rhag 2010 4:01 pm
gan jammyjames60
Ardderchog o raglen ac yn gwenud imi fod yn falch iawn o fod allu dweud fy mod i'n byw ar Y Fenai. Yn ategu at hyn, neis oedd cael gweld fy nhy ar y rhaglen hefyd.
Re: Y Fenai
Postiwyd: Llun 20 Rhag 2010 3:08 am
gan Mali
Wedi bod yn gwylio'r gyfres yma drwy gyfrwng safle we http://www.golyg.com, ac wedi gwylio Gwanwyn ar Y Fenai neithiwr. Wel am olygfeydd hyfryd . Hon ydi'r orau hyd yma yn fy marn i . Yn edrych ymlaen yn fawr iawn i weld yr olaf. Ac os faswn i'n dod yn ol i fyw i Gymru fach rhyw ddiwrnod, dyma'r ardal fasa'n fy nenu i .