S4/Cowdal: y dall yn arwain y dall?

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

S4/Cowdal: y dall yn arwain y dall?

Postiogan Llygad Llo Mawr » Iau 09 Rhag 2010 5:16 am

Er bod y sianel wedi colli Prif Weithredwraig, Pennaeth Comisiynu a Chadeirydd o fewn chwe mis, mae’r Is-gadeirydd newydd yn mynnu nad oes problem tu fewn i S4C. Mae’n addo ei fod “wedi ymrwymo 100% i lwyddiant S4C,” gan ychwanegu ei fod ef ac Arwel Ellis Owen “wedi ymrwymo’n llwyr i wneud i hwn weithio.

“Mae pobol Cymru’n teilyngu gwasanaeth sy’n llwyddiant. Wnes i ddim dod i mewn i’r awdurdod i wylio darlledu Cymraeg yn dadfeilio.”


Mae'n rhaid bod y dyn yn hollol gibddall felly, a'r sianel wedi bod yn prysur ddadfeilio o dan ei drwyn o - a'n trwynau ninnau yr un pryd - yn ystod y pedair mlynedd ola' ma o'i deyrnasiad ar Fwrdd Diffyg Awdurdod S4/Cana Di Gan Fwyn I'th Nain Fe Gan Dy Nain I Tithau. Fuo mi 'rioed yn llawer o giamstar am neud syms - nac arian chwaith, tasa hi'n dwad i hynny, yn wahanol iawn i bob 'cowntant dwi'n nabod ledled y wlad 'ma - ond mae un peth yn saff i hyd yn oed y rhai ohonoch chi sydd, fel finnau, yn gorfod defnyddio eu bysedd i gyfri':

prif weithredwr cwmni cysylltiadau cyhoeddus + cyfrifydd ag ymgynghorwr ariannol + datganiad i'r wasg o'r ymroddiad "i wneud hwn weithio" =
mwy o falu cachu cysylltiadau cyhoeddus gan blant siawns Thatcher, Reagan, Dei Cameron a Cun- sori, Hunt.

Ydyn, mae pobol Cymru'n teilyngu gwasanaeth sy'n llwyddiant. Felly rhowch gyfle i'r to ifanc. Cyflogwch bobol sydd wedi gweithio yn y maes ond nid yn rhan o Giang y Breintiedig Rai, sydd wedi cael eu magu ar y fron yn adran newyddion a materion cyfoes y Birtist Broadcasting Corporation yn Llandaf a chael eu difetha'n llwyr.

Beth am gael wynebau newydd? Syniadau ffres. Rhaglenni beiddgar, perthnasol a chyfoes. Pobol efo 'chydig o fenter yn perthyn iddyn nhw - yn ogystal a than yn eu boliau - sydd eu hangen ar y sianel 'ma, neu waeth iddi hi farw'n dawel ddim tamaid. Tan yn eu boliau a hygrydedd yn eu heneidiau. Nid rhyw giang o gyfrwng-giangstars sydd wedi godro'r sianel ac yn parhau i wneud. Yn y cyfamser, ydi o'n wir bod Radio Cymru wedi dechrau Clwb Gwau? Clwb Gwau. Ffor ffycs secs. Arglwydd, mae yn nosi.
Rhithffurf defnyddiwr
Llygad Llo Mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Iau 05 Awst 2010 10:43 pm

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron