Tudalen 1 o 2

Hip neu Sgip?: Yn erbyn y cloc

PostioPostiwyd: Iau 09 Rhag 2010 9:50 pm
gan ows-fflic
Ar Ddydd Mercher, 5ed Ionawr bydd "Hip neu Sgip?" yn dychwelyd ar ei newydd wedd... ond y tro yma, da'n ni yn erbyn y cloc!

8 lleoliad cymunedol, 8 rhaglen awr, 24 awr i drawsnewid bob un...

Yn anffodus, doedd Alex Jones ddim ar gael i ni y tro 'ma (rhywbeth bach yn Llundain wedi codi, mae'n debyg!), OND, cawsom yr eilydd gorau posib - Alun "Stwffio / Sgorio / Stwnsh Sadwrn" Williams, a mae'r gwr yn hollol siwpyrb. Efallai wnaethoch chi ddal clip o'r gyfres newydd ar Stwnsh Sadwrn (Alun yn chwilio am baent tartan)? Wel... mae na gryn dipyn o ddigwyddadau tebyg yn ystod y gyfres newydd.
Hollol, hollol hilâr!

Bydd y gyfres yn cychwyn, fel dw i 'di sôn, ar Ionawr y 5ed 2011, ac yn darlledu yn y drefn canlynol:

05/01/11: Clwb Pêl Droed Ffostrasol
12/01/11: Ysgol y Strade, Llanelli
19/01/11: CeLL, Blaenau Ffestiniog
26/01/11: Ysgol Uwchradd Aberteifi
02/02/11: Neuadd Bontnewydd, Caernarfon
09/02/11: Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul
16/02/11: Canolfan yr Urdd, Aberdâr
23/02/11: Festri Capel Tabernacl, Llanrwst

Da'n ni hefyd wedi llunio dudalen Facebook perthnasol - bydde aelodaeth newydd yn galonogol iawn:
http://www.facebook.com/pages/Hip-neu-Sgip-Yn-erbyn-y-cloc/173067872716088

Os am fwy o wybodaeth, wele:
http://sirgarblog.blogspot.com/2010/10/make-over-for-strade-dining-room.html
hhttp://www.walesonline.co.uk/news/south-wales-news/cynon-valley/2010/11/11/it-s-makeover-magic-at-aberdare-s-urdd-centre-91466-27625335/
http://www.thisissouthwales.co.uk/news/TV-makeover-gives-canteen-new-look/article-2668782-detail/article.html
http://www.carmarthenshire.gov.uk/Cymraeg/newyddion/Pages/NeuaddFwytaFywiogNewyddynyStrade.aspx
http://www.urdd.org/hanes.php?tud=3656&rhan=14&oed=1
http://www.theconsortium.co.uk/corporate/pressreleases/2010nov-The-Consortium-helps-schools-with-TV-makeover.aspx

Nadolig llawen!

Re: Hip neu Sgip?: Yn erbyn y cloc

PostioPostiwyd: Gwe 10 Rhag 2010 12:38 pm
gan tom.j
Meddwl taw un o wendidau mwya S4C oedd defnyddio'r run wynebau o hyd.....braf gweld gyda chyfres newydd bod yr hen arferiad am barhau!!!

Re: Hip neu Sgip?: Yn erbyn y cloc

PostioPostiwyd: Gwe 10 Rhag 2010 4:23 pm
gan ows-fflic
Gyda phob parch, tom, da ni'n cyflwyno ddau wyneb gwbl newydd ymysg ein dynion cryf: Gwyn Eiddior Parry a Ioan Thomas.
Wele (Gwyn Eiddior, Leah Hughes, Iwan Llechid, Alun Williams a Ioan Thomas): Delwedd

Re: Hip neu Sgip?: Yn erbyn y cloc

PostioPostiwyd: Sul 12 Rhag 2010 1:52 am
gan Khmer
SGIP.

Re: Hip neu Sgip?: Yn erbyn y cloc

PostioPostiwyd: Sul 12 Rhag 2010 11:11 am
gan ows-fflic
Ti ddim 'di gweld y rhaglen 'to, achan!

Re: Hip neu Sgip?: Yn erbyn y cloc

PostioPostiwyd: Maw 14 Rhag 2010 9:32 am
gan Manon
Wwwww 'dwi'n licio'r goeden a'r dail yng nghefndir y llun!

Re: Hip neu Sgip?: Yn erbyn y cloc

PostioPostiwyd: Maw 14 Rhag 2010 10:04 am
gan ows-fflic
Bydd angen i ti wylio rhaglen 5, felly Manon! Mae'r themâu/trawsnewidiadau ym mhob raglen yn dra wahanol. :D

Re: Hip neu Sgip?: Yn erbyn y cloc

PostioPostiwyd: Gwe 17 Rhag 2010 1:34 am
gan zorro
Ffycin "Pee Wee goes to Ikea" !!

Re: Hip neu Sgip?: Yn erbyn y cloc

PostioPostiwyd: Gwe 17 Rhag 2010 9:37 am
gan ows-fflic
Nid cweit, zor... tase'r holl cit oedd angen arnom ni erioed wedi ffitio ar gefn beic Pee Wee! :)

Re: Hip neu Sgip?: Yn erbyn y cloc

PostioPostiwyd: Mer 05 Ion 2011 4:12 pm
gan ows-fflic
Hip neu Sgip?: Yn erbyn y cloc | 16:25 | S4C

Clwb Pêl Droed Ffostrasol yw'r sialens i Alun, Leah a'r dynion cryf... ond ydy 24 awr yn ddigon?